bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 32
Ezekiel 32
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 33 →
1
Ac yn y deuddegfed mis o'r ddeuddegfed flwyddyn, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
2
Ha fab dyn, cyfod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho, Tebygaist i lew ieuanc y cenhedloedd, ac yr ydwyt ti fel morfil yn y moroedd: a daethost allan gyda'th afonydd; cythryblaist hefyd y dyfroedd â'th draed, a methraist eu hafonydd hwynt.
3
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Minnau a daenaf fy rhwyd arnat â chynulleidfa pobloedd lawer; a hwy a'th godant yn fy rhwyd i.
4
Gadawaf di hefyd ar y tir, taflaf di ar wyneb y maes, a gwnaf i holl ehediaid y nefoedd drigo arnat ti; ie, ohonot ti y diwallaf fwystfilod yr holl ddaear.
5
Rhoddaf hefyd dy gig ar y mynyddoedd, a llanwaf y dyffrynnoedd â'th uchder di.
6
Mwydaf hefyd â'th waed y tir yr wyt yn nofio ynddo, hyd y mynyddoedd; a llenwir yr afonydd ohonot.
7
Ie, cuddiaf y nefoedd wrth dy ddiffoddi, a thywyllaf eu sêr hwynt: yr haul a guddiaf â chwmwl, a'r lleuad ni wna i'w goleuni oleuo.
8
Tywyllaf arnat holl lewyrch goleuadau y nefoedd, a rhoddaf dywyllwch ar dy dir, medd yr Arglwydd DDUW.
9
A digiaf galon pobloedd lawer, pan ddygwyf dy ddinistr ymysg y cenhedloedd i diroedd nid adnabuost.
10
A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthyt, a'u brenhinoedd a ofnant yn fawr o'th blegid, pan wnelwyf i'm cleddyf ddisgleirio o flaen eu hwynebau hwynt; a hwy ar bob munud a ddychrynant, bob un am ei einioes, yn nydd dy gwymp.
11
Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Cleddyf brenin Babilon a ddaw arnat ti.
12
A chleddyfau y rhai cedyrn y cwympaf dy liaws, byddant oll yn gedyrn y cenhedloedd; a hwy a anrheithiant falchder yr Aifft, a'i holl liaws hi a ddinistrir.
13
Difethaf hefyd ei holl anifeiliaid hi oddi wrth ddyfroedd lawer; ac ni sathr troed dyn hwynt mwy, ac ni fathra carnau anifeiliaid hwynt.
14
Yna y gwnaf yn ddyfnion eu dyfroedd hwynt, a gwnaf i'w hafonydd gerdded fel olew, medd yr Arglwydd DDUW.
15
Pan roddwyf dir yr Aifft yn anrhaith, ac anrheithio y wlad o'i llawnder, pan drawyf y rhai oll a breswyliant ynddi, yna y cânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
16
Dyma y galar a alarant amdani hi: merched y cenhedloedd a alarant amdani hi; galarant amdani hi, sef am yr Aifft, ac am ei lliaws oll, medd yr Arglwydd DDUW.
17
Ac yn y ddeuddegfed flwyddyn, ar y pymthegfed dydd o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
18
Cwyna, fab dyn, am liaws yr Aifft, a disgyn hi, hi a merched y cenhedloedd enwog, i'r tir isaf, gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.
19
Tecach na phwy oeddit? disgyn a gorwedd gyda'r rhai dienwaededig.
20
Syrthiant yng nghanol y rhai a laddwyd â'r cleddyf: i'r cleddyf y rhoddwyd hi; llusgwch hi a'i lliaws oll.
21
Llefared cryfion y cedyrn wrthi hi o ganol uffern gyda'i chynorthwywyr: disgynasant, gorweddant yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf.
22
Yno y mae Assur a'i holl gynulleidfa, a'i feddau o amgylch; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf.
23
Yr hon y rhoddwyd eu beddau yn ystlysau y pwll, a'i chynulleidfa ydoedd o amgylch ei bedd; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a barasant arswyd yn nhir y rhai byw.
24
Yno y mae Elam a'i holl liaws o amgylch ei bedd, wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a ddisgynasant yn ddienwaededig i'r tir isaf, y rhai a barasant eu harswyd yn nhir y rhai byw; eto hwy a ddygasant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.
25
Yng nghanol y rhai lladdedig y gosodasant iddi wely ynghyd â'i holl liaws; a'i beddau o'i amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, a laddwyd â'r cleddyf: er peri eu harswyd yn nhir y rhai byw, eto dygasant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll: yng nghanol y lladdedigion y rhoddwyd ef.
26
Yno y mae Mesech, Tubal, a'i holl liaws; a'i beddau o amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf, er peri ohonynt eu harswyd yn nhir y rhai byw.
27
Ac ni orweddant gyda'r cedyrn a syrthiasant o'r rhai dienwaededig, y rhai a ddisgynasant i uffern â'u harfau rhyfel: a rhoddasant eu cleddyfau dan eu pennau; eithr eu hanwireddau fydd ar eu hesgyrn hwy, er eu bod yn arswyd i'r cedyrn yn nhir y rhai byw.
28
A thithau a ddryllir ymysg y rhai dienwaededig, ac a orweddi gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf.
29
Yno y mae Edom, a'i brenhinoedd, a'i holl dywysogion, y rhai a roddwyd â'u cadernid gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf: hwy a orweddant gyda'r rhai dienwaededig, a chyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.
30
Yno y mae holl dywysogion y gogledd, a'r holl Sidoniaid, y rhai a ddisgynnant gyda'r lladdedigion; gyda'u harswyd y cywilyddiant am eu cadernid; gorweddant hefyd yn ddienwaededig gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, ac a ddygant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.
31
Pharo a'u gwêl hwynt, ac a ymgysura yn ei holl liaws, Pharo a'i holl lu wedi eu lladd â'r cleddyf, medd yr Arglwydd DDUW.
32
Canys rhoddais fy ofn yn nhir y rhai byw; a gwneir iddo orwedd yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf, sef i Pharo ac i'w holl liaws, medd yr Arglwydd DDUW.
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 33 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48