bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 27
Ezekiel 27
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 28 →
1
Gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,
2
Tithau fab dyn, cyfod alarnad am Tyrus;
3
A dywed wrth Tyrus, O dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Tyrus, ti a ddywedaist, Myfi wyf berffaith o degwch.
4
Dy derfynau sydd yng nghanol y môr; dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch.
5
Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynidwydd o Senir: cymerasant gedrwydd o Libanus i wneuthur hwylbren i ti.
6
Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan; mintai yr Assuriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim.
7
Lliain main o'r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti; glas a phorffor o ynysoedd Elisa, oedd dy do.
8
Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr: dy ddoethion di, Tyrus, o'th fewn, oedd dy long‐lywiawdwyr.
9
Henuriaid Gebal a'i doethion oedd ynot yn cau dy agennau: holl longau y môr a'u llongwyr oedd ynot ti i farchnata dy farchnad.
10
Y Persiaid, a'r Ludiaid, a'r Phutiaid, oedd ryfelwyr i ti yn dy luoedd: tarian a helm a grogasant ynot; hwy a roddasant i ti harddwch.
11
Meibion Arfad oedd gyda'th luoedd ar dy gaerau oddi amgylch, a'r Gammadiaid yn dy dyrau: crogasant eu tarianau ar dy gaerau oddi amgylch; hwy a berffeithiasant dy degwch.
12
Tarsis oedd dy farchnadyddes oherwydd amldra pob golud; ag arian, haearn, alcam, a phlwm, y marchnatasant yn dy ffeiriau.
13
Jafan, Tubal, a Mesech, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am ddynion a llestri pres.
14
Y rhai o dŷ Togarma a farchnatasant yn dy ffeiriau â meirch, a marchogion, a mulod.
15
Meibion Dedan oedd dy farchnadwyr; ynysoedd lawer oedd farchnadoedd dy law: dygasant gyrn ifori ac ebenus yn anrheg i ti.
16
Aram oedd dy farchnadydd oherwydd amled pethau o'th waith di: am garbuncl, porffor, a gwaith edau a nodwydd, a lliain meinllin, a chwrel, a gemau, y marchnatasant yn dy ffeiriau.
17
Jwda a thir Israel, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am wenith Minnith, a Phannag, a mêl, ac olew, a thriagl.
18
Damascus oedd dy farchnadydd yn amlder dy waith oherwydd lliaws pob golud; am win Helbon, a gwlân gwyn.
19
Dan hefyd a Jafan yn cyniwair a farchnatasant yn dy farchnadoedd: haearn wedi ei weithio, casia, a'r calamus, oedd yn dy farchnad.
20
Dedan oedd dy farchnadydd mewn brethynnau gwerthfawr i gerbydau.
21
Arabia, a holl dywysogion Cedar, oedd hwythau farchnadyddion i ti am ŵyn, hyrddod, a bychod: yn y rhai hyn yr oedd dy farchnadyddion.
22
Marchnadyddion Seba a Rama, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy ffeiriau am bob prif beraroglau, ac am bob maen gwerthfawr, ac aur.
23
Haran, a Channe, ac Eden, marchnadyddion Seba, Assur, a Chilmad, oedd yn marchnata â thi.
24
Dyma dy farchnadyddion am bethau perffaith, am frethynnau gleision, a gwaith edau a nodwydd, ac am gistiau gwisgoedd gwerthfawr, wedi eu rhwymo â rhaffau a'u gwneuthur o gedrwydd, ymysg dy farchnadaeth.
25
Llongau Tarsis oedd yn canu amdanat yn dy farchnad; a thi a lanwyd, ac a ogoneddwyd yn odiaeth yng nghanol y moroedd.
26
Y rhai a'th rwyfasant a'th ddygasant i ddyfroedd lawer: gwynt y dwyrain a'th ddrylliodd yng nghanol y moroedd.
27
Dy olud, a'th ffeiriau, dy farchnadaeth, dy forwyr, a'th feistriaid llongau, cyweirwyr dy agennau, a marchnadwyr dy farchnad, a'th ryfelwyr oll y rhai sydd ynot, a'th holl gynulleidfa yr hon sydd yn dy ganol, a syrthiant yng nghanol y môr, ar ddydd dy gwymp di.
28
Wrth lef gwaedd dy feistriaid llongau, y tonnau a gyffroant.
29
Yna pob rhwyfwr, y morwyr, holl lywyddion y moroedd, a ddisgynnant o'u llongau, ar y tir y safant;
30
A gwnânt glywed eu llef amdanat, a gwaeddant yn chwerw, a chodant lwch ar eu pennau, ac ymdrybaeddant yn y lludw.
31
A hwy a'u gwnânt eu hunain yn foelion amdanat, ac a ymwregysant â sachliain, ac a wylant amdanat â chwerw alar, mewn chwerwedd calon.
32
A chodant amdanat alarnad yn eu cwynfan, a galarant amdanat, gan ddywedyd, Pwy oedd fel Tyrus, fel yr hon a ddinistriwyd yng nghanol y môr!
33
Pan ddelai dy farchnadaeth o'r moroedd, diwellit bobloedd lawer; ag amlder dy olud a'th farchnadaeth y cyfoethogaist frenhinoedd y ddaear.
34
Y pryd y'th dorrer gan y môr yn nyfnderau y dyfroedd, dy farchnad a'th holl gynulleidfa a syrthiant yn dy ganol.
35
Holl breswylwyr yr ynysoedd a synnant amdanat, a'u brenhinoedd a ddychrynant ddychryn; hwy a drallodir yn eu hwynebau.
36
Y marchnadyddion ymysg y bobloedd a chwibanant arnat: dychryn fyddi, ac ni byddi byth mwyach.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48