bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 26
Ezekiel 26
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 27 →
1
Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
2
Ha fab dyn, oherwydd dywedyd o Tyrus am Jerwsalem, Aha, torrwyd hi, pyrth y bobloedd: trodd ataf fi: fo'm llenwir; anrheithiedig yw hi:
3
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi i'th erbyn, O Tyrus, a chodaf genhedloedd lawer i'th erbyn, fel y cyfyd y môr ei donnau.
4
A hwy a ddinistriant geyrydd Tyrus, a'i thyrau a ddinistriant: minnau a grafaf ei llwch ohoni, ac a'i gwnaf yn gopa craig.
5
Yn daenfa rhwydau y bydd yng nghanol y môr: canys myfi a lefarodd hyn, medd yr ARGLWYDD DDUW: a hi a fydd yn ysbail i'r cenhedloedd.
6
Ei merched hefyd y rhai sydd yn y maes a leddir â'r cleddyf; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.
7
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn dwyn ar Tyrus, o'r gogledd, Nebuchodonosor brenin Babilon, brenin brenhinoedd, â meirch ac â cherbydau, ac â marchogion, a thorfoedd, a phobl lawer.
8
Dy ferched a ladd efe yn y maes â'r cleddyf; ac a esyd wrthglawdd i'th erbyn, ac a fwrw glawdd i'th erbyn, ac a gyfyd darian i'th erbyn.
9
Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geyrydd, a'th dyrau a fwrw efe i lawr â'i fwyeill.
10
Gan amlder ei feirch ef, eu llwch a'th doa: dy geyrydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion, a'r olwynion, a'r cerbydau, pan ddelo trwy dy byrth di, fel dyfod i ddinas adwyog.
11
A charnau ei feirch y sathr efe dy heolydd oll: dy bobl a ladd efe â'r cleddyf, a'th sefyllfannau cedyrn a ddisgyn i'r llawr.
12
A hwy a anrheithiant dy gyfoeth, ac a ysbeiliant dy farchnadaeth; ac a ddinistriant dy geyrydd, a'th dai dymunol a dynnant i lawr: a'th gerrig, a'th goed, a'th bridd, a osodant yng nghanol y dyfroedd.
13
A gwnaf i sŵn dy ganiadau beidio; ac ni chlywir mwy lais dy delynau.
14
A gwnaf di yn gopa craig: taenfa rhwydau fyddi: ni'th adeiledir mwy: canys myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais, medd yr ARGLWYDD DDUW.
15
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW wrth Tyrus: Oni chrŷn yr ynysoedd gan sŵn dy gwymp, pan waeddo yr archolledig, pan ladder lladdfa yn dy ganol?
16
Yna holl dywysogion y môr a ddisgynnant o'u gorseddfeinciau, ac a fwriant ymaith eu mantelloedd, ac a ddiosgant eu gwisgoedd symudliw: dychryn a wisgant, ar y ddaear yr eisteddant, ac a ddychrynant ar bob moment, ac a synnant wrthyt.
17
Codant hefyd alarnad amdanat, a dywedant wrthyt, Pa fodd y'th ddifethwyd, yr hon a breswylir gan forwyr, y ddinas ganmoladwy, yr hon oedd gref ar y môr, hi a'i thrigolion, y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl ymdeithwyr hi?
18
Yr awr hon yr ynysoedd a ddychrynant yn nydd dy gwymp; ie, yr ynysoedd y rhai sydd yn y môr a drallodir wrth dy fynediad di ymaith.
19
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Pan roddwyf di yn ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd nis cyfanheddir; gan ddwyn arnat y dyfnder, fel y'th guddio dyfroedd lawer;
20
A'th ddisgyn ohonof gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll, at y bobl gynt, a'th osod yn iselderau y ddaear, yn yr hen anrhaith, gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll, fel na'th breswylier; a rhoddi ohonof ogoniant yn nhir y rhai byw;
21
Gwnaf di yn ddychryn, ac ni byddi: er dy geisio, ni'th geir mwy, medd yr ARGLWYDD DDUW.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48