bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 23
Ezekiel 23
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 24 →
1
Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
2
Ha fab dyn, dwy wraig oedd ferched i'r un fam;
3
A phuteiniasant yn yr Aifft, yn eu hieuenctid y puteiniasant: yno y pwyswyd ar eu bronnau, ac yno yr ysigasant ddidennau eu morwyndod.
4
A'u henwau hwynt oedd, Ahola yr hynaf, ac Aholiba ei chwaer: ac yr oeddynt yn eiddof fi, a phlantasant feibion a merched. Dyma eu henwau; Samaria yw Ahola, a Jerwsalem Aholiba.
5
Ac Ahola a buteiniodd pan oedd eiddof fi, ac a ymserchodd yn ei chariadau, ei chymdogion yr Asyriaid;
6
Y rhai a wisgid â glas, yn ddugiaid ac yn dywysogion, o wŷr ieuainc dymunol i gyd, yn farchogion yn marchogaeth meirch.
7
Fel hyn y gwnaeth hi ei phuteindra â hwynt, â dewis feibion Assur oll, a chyda'r rhai oll yr ymserchodd ynddynt; â'u holl eilunod hwynt yr ymhalogodd hi.
8
Ac ni adawodd ei phuteindra a ddygasai hi o'r Aifft: canys gorweddasent gyda hi yn eu hieuenctid, a hwy a ysigasent fronnau ei morwyndod hi, ac a dywalltasent eu puteindra arni.
9
Am hynny y rhoddais hi yn llaw ei chariadau, sef yn llaw meibion Assur, y rhai yr ymserchodd hi ynddynt.
10
Y rhai hynny a ddatguddiasant ei noethni hi: hwy a gymerasant ei meibion hi a'i merched, ac a'i lladdasant hithau â'r cleddyf: a hi a aeth yn enwog ymysg gwragedd: canys gwnaethent farn arni.
11
A phan welodd ei chwaer Aholiba, hi a lygrodd ei thraserch yn fwy na hi, a'i phuteindra yn fwy na phuteindra ei chwaer.
12
Ymserchodd ym meibion Assur, y dugiaid a'r tywysogion o gymdogion, wedi eu gwisgo yn wych iawn, yn farchogion yn marchogaeth meirch, yn wŷr ieuainc dymunol i gyd.
13
Yna y gwelais ei halogi hi, a bod un ffordd ganddynt ill dwy,
14
Ac iddi hi chwanegu ar ei phuteindra: canys pan welodd wŷr wedi eu llunio ar y pared, delwau y Caldeaid wedi eu llunio â fermilion,
15
Wedi eu gwregysu â gwregys am eu llwynau, yn rhagori mewn lliwiau am eu pennau, mewn golwg yn dywysogion oll, o ddull meibion Babilon yn Caldea, tir eu genedigaeth:
16
Hi a ymserchodd ynddynt pan eu gwelodd â'i llygaid, ac a anfonodd genhadau atynt i Caldea.
17
A meibion Babilon a ddaethant ati i wely cariad, ac a'i halogasant hi â'u puteindra; a hi a ymhalogodd gyda hwynt, a'i meddwl a giliodd oddi wrthynt.
18
Felly y datguddiodd hi ei phuteindra, ac y datguddiodd ei noethni. Yna y ciliodd fy meddwl oddi wrthi, fel y ciliasai fy meddwl oddi wrth ei chwaer hi.
19
Eto hi a chwanegodd ei phuteindra, gan gofio dyddiau ei hieuenctid, yn y rhai y puteiniasai hi yn nhir yr Aifft.
20
Canys hi a ymserchodd yn ei gordderchwyr, y rhai yr oedd eu cnawd fel cnawd asynnod, a'u diferlif fel diferlif meirch.
21
Felly y cofiaist ysgelerder dy ieuenctid, pan ysigwyd dy ddidennau gan yr Eifftiaid, am fronnau dy ieuenctid.
22
Am hynny, Aholiba, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn cyfodi dy gariadau i'th erbyn, y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt, a dygaf hwynt i'th erbyn o amgylch:
23
Meibion Babilon a'r holl Galdeaid, Pecod, a Soa, a Coa, a holl feibion Assur gyda hwynt; yn wŷr ieuainc dymunol, yn ddugiaid a thywysogion i gyd, yn benaethiaid ac yn enwog, yn marchogaeth meirch, bawb ohonynt.
24
A deuant i'th erbyn â menni, cerbydau, ac olwynion, ac â chynulleidfa o bobl; gosodant i'th erbyn oddi amgylch astalch, a tharian, a helm: a rhoddaf o'u blaen hwynt farnedigaeth, a hwy a'th farnant â'u barnedigaethau eu hun.
25
A mi a osodaf fy eiddigedd yn dy erbyn, a hwy a wnânt â thi yn llidiog: dy drwyn a'th glustiau a dynnant ymaith, a'th weddill a syrth gan y cleddyf: hwy a ddaliant dy feibion a'th ferched; a'th weddill a ysir gan y tân.
26
Diosgant hefyd dy ddillad, a dygant dy ddodrefn hyfryd.
27
Felly y gwnaf i'th ysgelerder, a'th buteindra o dir yr Aifft, beidio â thi; fel na chodech dy lygaid atynt, ac na chofiech yr Aifft mwy.
28
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Wele fi yn dy roddi yn llaw y rhai a gaseaist, yn llaw y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt.
29
A gwnânt â thi yn atgas, ac a gymerant dy holl lafur, ac a'th adawant di yn llom ac yn noeth: a datguddir noethni dy buteindra; ie, dy ysgelerder a'th buteindra.
30
Mi a wnaf hyn i ti, am buteinio ohonot ar ôl y cenhedloedd, am dy halogi gyda'u heilunod hwynt.
31
Ti a rodiaist yn ffordd dy chwaer; am hynny y rhoddaf finnau ei chwpan hi yn dy law di.
32
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Dwfn a helaeth gwpan dy chwaer a yfi: ti a fyddi i'th watwar ac i'th ddirmygu: y mae llawer yn genni ynddo.
33
Ti a lenwir â meddwdod ac â gofid, o gwpan syndod ac anrhaith, o gwpan dy chwaer Samaria.
34
Canys ti a yfi, ac a sugni ohono; drylli hefyd ei ddarnau ef, ac a dynni ymaith dy fronnau dy hun: canys myfi a'i lleferais, medd yr ARGLWYDD DDUW.
35
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Oherwydd i ti fy anghofio, a'm bwrw ohonot tu ôl i'th gefn; am hynny dwg dithau dy ysgelerder a'th buteindra.
36
Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrthyf, A ferni di, fab dyn, Ahola ac Aholiba? ie, mynega iddynt eu ffieidd‐dra;
37
Iddynt dorri priodas, a bod gwaed yn eu dwylo; ie, gyda'u heilunod y puteiniasant; eu meibion hefyd y rhai a blantasant i mi, a dynasant trwy dân iddynt i'w hysu.
38
Gwnaethant hyn ychwaneg i mi; fy nghysegr a aflanhasant yn y dydd hwnnw, a'm Sabothau a halogasant.
39
Canys pan laddasant eu meibion i'w heilunod, yna y daethant i'm cysegr yn y dydd hwnnw, i'w halogi ef: ac wele, fel hyn y gwnaethant yng nghanol fy nhŷ.
40
A hefyd gan anfon ohonoch am wŷr i ddyfod o bell, y rhai yr anfonwyd cennad atynt, ac wele daethant: er mwyn y rhai yr ymolchaist, y lliwiaist dy lygaid, ac yr ymherddaist â harddwch.
41
Eisteddaist hefyd ar wely anrhydeddus, a bord drefnus o'i flaen, a gosodaist arno fy arogl‐darth a'm holew i.
42
A llais tyrfa heddychol oedd gyda hi: a chyda'r cyffredin y dygwyd y Sabeaid o'r anialwch, y rhai a roddasant freichledau am eu dwylo hwynt, a choronau hyfryd am eu pennau hwynt.
43
Yna y dywedais wrth yr hen ei phuteindra, A wnânt hwy yn awr buteindra gyda hi, a hithau gyda hwythau?
44
Eto aethant ati fel myned at buteinwraig; felly yr aethant at Ahola ac Aholiba, y gwragedd ysgeler.
45
A'r gwŷr cyfiawn hwythau a'u barnant hwy â barnedigaeth puteiniaid, ac â barnedigaeth rhai yn tywallt gwaed: canys puteinio y maent, a gwaed sydd yn eu dwylo.
46
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Dygaf i fyny dyrfa arnynt hwy, a rhoddaf hwynt i'w mudo ac i'w hanrheithio.
47
A'r dyrfa a'u llabyddiant hwy â meini, ac a'u torrant hwy â'u cleddyfau: eu meibion a'u merched a laddant, a'u tai a losgant â thân.
48
Fel hyn y gwnaf finnau i ysgelerder beidio o'r wlad, fel y dysgir yr holl wragedd na wnelont yn ôl eich ysgelerder chwi.
49
A hwy a roddant eich ysgelerder i'ch erbyn, a chwi a ddygwch bechodau eich eilunod; ac a gewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD DDUW.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48