bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 7
Ezekiel 7
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 8 →
1
A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
2
Tithau, fab dyn, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW wrth dir Israel; Diwedd, diwedd a ddaeth ar bedair congl y tir.
3
Daeth yr awr hon ddiwedd arnat, a mi a anfonaf fy nig arnat ti; barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat.
4
Fy llygad hefyd ni'th arbed di, ac ni thosturiaf: eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti, a'th ffieidd‐dra fydd yn dy ganol di: fel y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.
5
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Drwg, drwg unig, wele, a ddaeth.
6
Diwedd a ddaeth, daeth diwedd: y mae yn gwylio amdanat; wele, efe a ddaeth.
7
Daeth y boregwaith atat, breswylydd y tir: daeth yr amser, agos yw y dydd terfysg, ac nid atsain mynyddoedd.
8
Weithian ar fyrder y tywalltaf fy llid arnat, ac y gorffennaf fy nig wrthyt: barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat.
9
A'm llygad nid arbed, ac ni thosturiaf: rhoddaf arnat yn ôl dy ffyrdd, a'th ffieidd‐dra a fydd yn dy ganol di; a chewch wybod mai myfi yr ARGLWYDD sydd yn taro.
10
Wele y dydd, wele efe yn dyfod: y boregwaith a aeth allan; blodeuodd y wialen, blagurodd balchder.
11
Cyfododd traha yn wialen drygioni: ni bydd un ohonynt, nac o'u lliaws, nac o'r eiddynt, na galar drostynt.
12
Yr amser a ddaeth, y dydd a nesaodd: na lawenyched y prynwr, ac na thristaed y gwerthwr: canys mae dicllonedd ar ei holl liaws hi.
13
Canys y gwerthydd ni ddychwel at yr hyn a werthwyd, er eu bod eto yn fyw: oblegid y weledigaeth sydd am ei holl liaws, y rhai ni ddychwelant: ac nid ymgryfha neb yn anwiredd ei fuchedd.
14
Utganasant yr utgorn, i baratoi pawb: eto nid â neb i'r rhyfel; am fod fy nicllonedd yn erbyn eu holl liaws.
15
Y cleddyf fydd oddi allan, yr haint hefyd a'r newyn o fewn: yr hwn fyddo yn y maes, a fydd farw gan gleddyf; a'r hwn a fyddo yn y ddinas, newyn a haint a'i difa ef.
16
Eto eu rhai dihangol hwy a ddihangant, ac ar y mynyddoedd y byddant hwy i gyd fel colomennod y dyffryn, yn griddfan, bob un am ei anwiredd.
17
Yr holl ddwylo a laesant, a'r holl liniau a ânt yn ddwfr.
18
Ymwregysant hefyd mewn sachliain, ac arswyd a'u toa hwynt; a bydd cywilydd ar bob wyneb, a moelni ar eu holl bennau hwynt.
19
Eu harian a daflant i'r heolydd, a'u haur a roir heibio: eu harian na'u haur ni ddichon eu gwared hwynt yn nydd dicter yr ARGLWYDD: eu henaid ni ddiwallant, a'u coluddion ni lanwant: oherwydd tramgwydd eu hanwiredd ydyw.
20
A thegwch ei harddwch ef a osododd efe yn rhagoriaeth: ond gwnaethant ynddo ddelwau eu ffieidd‐dra a'u brynti: am hynny y rhoddais ef ymhell oddi wrthynt.
21
Ac mi a'i rhoddaf yn llaw dieithriaid yn ysbail, ac yn anrhaith i rai drygionus y tir; a hwy a'i halogant ef.
22
Troaf hefyd fy wyneb oddi wrthynt, a halogant fy nirgelfa: ie, anrheithwyr a ddaw iddi, ac a'i halogant.
23
Gwna gadwyn; canys llanwyd y tir o farn waedlyd, a'r ddinas sydd lawn o drais.
24
Am hynny y dygaf rai gwaethaf y cenhedloedd, fel y meddiannont eu tai hwynt: gwnaf hefyd i falchder y cedyrn beidio; a'u cysegroedd a halogir.
25
Y mae dinistr yn dyfod; a hwy a geisiant heddwch, ac nis cânt.
26
Daw trychineb ar drychineb, a bydd chwedl ar chwedl: yna y ceisiant weledigaeth gan y proffwyd; ond cyfraith a gyll gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid.
27
Y brenin a alara, a'r tywysog a wisgir ag anrhaith, a dwylo pobl y tir a drallodir: gwnaf â hwynt yn ôl eu ffordd, ac â'u barnedigaethau y barnaf hwynt; fel y gwybyddont mai myfi yw yr ARGLWYDD.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48