bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 24
Ezekiel 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 25 →
1
Drachefn yn y nawfed flwyddyn, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
2
Ysgrifenna i ti enw y dydd hwn, fab dyn, ie, corff y dydd hwn: ymosododd brenin Babilon yn erbyn Jerwsalem o fewn corff y dydd hwn.
3
A thraetha ddihareb wrth y tŷ gwrthryfelgar, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gosod y crochan, gosod, a thywallt hefyd ddwfr ynddo.
4
Casgl ei ddrylliau iddo, pob dryll teg, y morddwyd, a'r ysgwyddog; llanw ef â'r dewis esgyrn.
5
Cymer ddewis o'r praidd, a chynnau yr esgyrn dano, a berw ef yn ferwedig; ie, berwed ei esgyrn o'i fewn.
6
Am hynny yr ARGLWYDD DDUW a ddywed fel hyn, Gwae ddinas y gwaed, y crochan yr hwn y mae ei ysgum ynddo, ac nid aeth ei ysgum allan ohono: tyn ef allan bob yn ddryll: na syrthied coelbren arno.
7
Oherwydd ei gwaed sydd yn ei chanol: ar gopa craig y gosododd hi ef; nis tywalltodd ar y ddaear, i fwrw arno lwch:
8
I beri i lid godi i wneuthur dial; rhoddais ei gwaed hi ar gopa craig, rhag ei guddio.
9
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Gwae ddinas y gwaed! minnau a wnaf ei thanllwyth yn fawr.
10
Amlha y coed, cynnau y tân, difa y cig, a gwna goginiaeth, a llosger yr esgyrn.
11
A dod ef ar ei farwor yn wag, fel y twymo, ac y llosgo ei bres, ac y toddo ei aflendid ynddo, ac y darfyddo ei ysgum.
12
Ymflinodd â chelwyddau, ac nid aeth ei hysgum mawr allan ohoni: yn tân y bwrir ei hysgum hi.
13
Yn dy aflendid y mae ysgelerder: oherwydd glanhau ohonof di, ac nid wyt lân, o'th aflendid ni'th lanheir mwy, hyd oni pharwyf i'm llid orffwys arnat.
14
Myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais: daw, a gwnaf; nid af yn ôl ac nid arbedaf, ac nid edifarhaf. Yn ôl dy ffyrdd, ac yn ôl dy weithredoedd, y barnant di, medd yr ARGLWYDD DDUW.
15
A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
16
Wele, fab dyn, fi yn cymryd oddi wrthyt ddymuniant dy lygaid â dyrnod: eto na alara ac nac wyla, ac na ddeued dy ddagrau.
17
Taw â llefain, na wna farwnad; rhwym dy gap am dy ben, a dod dy esgidiau am dy draed, ac na chae ar dy enau, na fwyta chwaith fara dynion.
18
Felly y lleferais wrth y bobl y bore; a bu farw fy ngwraig yn yr hwyr; a gwneuthum y bore drannoeth fel y gorchmynasid i mi.
19
A'r bobl a ddywedasant wrthyf, Oni fynegi i mi beth yw hyn i ni, gan i ti wneuthur felly?
20
Yna y dywedais wrthynt, Gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
21
Dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn halogi fy nghysegr, godidowgrwydd eich nerth, dymuniant eich llygaid, ac anwyldra eich enaid: a'ch meibion a'ch merched, y rhai a adawsoch, a syrthiant gan y cleddyf.
22
Ac fel y gwneuthum i, y gwnewch chwithau; ni chaewch ar eich geneuau, ac ni fwytewch fara dynion.
23
Byddwch â'ch capiau am eich pennau, a'ch esgidiau am eich traed: ni alerwch, ac nid wylwch; ond am eich anwiredd y dihoenwch, ac ochneidiwch bob un wrth ei gilydd.
24
Felly y mae Eseciel yn arwydd i chwi: yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe, y gwnewch chwithau: a phan ddelo hyn, chwi a gewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD DDUW.
25
Tithau fab dyn, onid yn y dydd y cymeraf oddi wrthynt eu nerth, llawenydd eu gogoniant, dymuniant eu llygaid, ac anwyldra eu henaid, eu meibion a'u merched,
26
Y dydd hwnnw y daw yr hwn a ddihango, atat, i beri i ti ei glywed â'th glustiau?
27
Yn y dydd hwnnw yr agorir dy safn wrth yr hwn a ddihango; lleferi hefyd, ac ni byddi fud mwy: a byddi iddynt yn arwydd; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48