bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 22
Ezekiel 22
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 23 →
1
Gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,
2
Tithau, fab dyn, a ferni di, a ferni ddinas y gwaed? ie, ti a wnei iddi wybod ei holl ffieidd‐dra.
3
Dywed dithau, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Tywallt gwaed y mae y ddinas yn ei chanol, i ddyfod o'i hamser, ac eilunod a wnaeth hi yn ei herbyn ei hun i ymhalogi.
4
Euog wyt yn dy waed, yr hwn a dywelltaist; a halogedig yn dy eilunod, y rhai a wnaethost; a thi a neseaist dy ddyddiau, a daethost hyd at dy flynyddoedd: am hynny y'th wneuthum yn warth i'r cenhedloedd, ac yn watwargerdd i'r holl wledydd.
5
Y rhai agos a'r rhai pell oddi wrthyt a'th watwarant, yr halogedig o enw, ac aml dy drallod.
6
Wele, tywysogion Israel oeddynt ynot, bob un yn ei allu i dywallt gwaed.
7
Dirmygasant ynot dad a mam; gwnaethant yn dwyllodrus â'r dieithr o'th fewn: gorthrymasant ynot yr amddifad a'r weddw.
8
Dirmygaist fy mhethau sanctaidd, a halogaist fy Sabothau.
9
Athrodwyr oedd ynot i dywallt gwaed; ar y mynyddoedd hefyd y bwytasant ynot ti: gwnânt ysgelerder o'th fewn.
10
Ynot ti y datguddient noethni eu tad: yr aflan o fisglwyf a ddarostyngent ynot.
11
Gwnâi ŵr hefyd ffieidd‐dra â gwraig ei gymydog; a gŵr a halogai ei waudd ei hun mewn ysgelerder; ie, darostyngai gŵr ynot ei chwaer ei hun, merch ei dad.
12
Gwobr a gymerent ynot am dywallt gwaed; cymeraist usuriaeth ac ocraeth, ac elwaist ar dy gymdogion trwy dwyll, ac anghofiaist fi, medd yr ARGLWYDD DDUW.
13
Am hynny wele, trewais fy llaw wrth dy gybydd‐dod yr hwn a wnaethost, ac am y gwaed oedd o'th fewn.
14
A bery dy galon, a gryfha dy ddwylo, yn y dyddiau y bydd i mi a wnelwyf â thi? myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais, ac a'i gwnaf.
15
Canys gwasgaraf di ymysg y cenhedloedd, a thaenaf di ar hyd y gwledydd, a gwnaf i'th aflendid ddarfod allan ohonot.
16
A thi a etifeddi ynot dy hun yng ngŵydd y cenhedloedd: a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
17
A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
18
Ha fab dyn, tŷ Israel a aeth gennyf yn amhuredd: pres, ac alcam, a haearn, a phlwm, ydynt oll yng nghanol y pair: amhuredd arian ydynt.
19
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am eich bod chwi oll yn amhuredd, am hynny wele fi yn eich casglu chwi i ganol Jerwsalem.
20
Fel casglu arian, a phres, a haearn, a phlwm, ac alcam, i ganol y ffwrn, i chwythu tân arnynt i'w toddi; felly yn fy llid a'm dig y casglaf chwi, ac a'ch gadawaf yno, ac a'ch toddaf.
21
Ie, casglaf chwi, a chwythaf arnoch â thân fy llidiowgrwydd, fel y todder chwi yn ei chanol hi.
22
Fel y toddir arian yng nghanol y pair, felly y toddir chwi yn ei chanol hi; fel y gwypoch mai myfi yr ARGLWYDD a dywelltais fy llidiowgrwydd arnoch.
23
A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
24
Dywed wrthi hi, fab dyn, Ti yw y tir sydd heb ei buro, heb lawio arno yn nydd dicter.
25
Cydfradwriaeth ei phroffwydi o'i mewn, sydd fel llew rhuadwy yn ysglyfaethu ysglyfaeth; eneidiau a ysasant; trysor a phethau gwerthfawr a gymerasant; ei gweddwon hi a amlhasant hwy o'i mewn.
26
Ei hoffeiriaid a dreisiasant fy nghyfraith, ac a halogasant fy mhethau sanctaidd: ni wnaethant ragor rhwng cysegredig a halogedig, ac ni wnaethant wybod rhagor rhwng yr aflan a'r glân; cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabothau, a halogwyd fi yn eu mysg hwynt.
27
Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw.
28
Ei phroffwydi hefyd a'u priddasant hwy â chlai annhymherus, gan weled gwagedd, a dewinio iddynt gelwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, a'r ARGLWYDD heb ddywedyd.
29
Pobl y tir a arferasant dwyll, ac a dreisiasant drais, ac a orthrymasant y truan a'r tlawd; y dieithr hefyd a orthrymasant yn anghyfiawn.
30
Ceisiais hefyd ŵr ohonynt i gau y cae, ac i sefyll ar yr adwy o'm blaen dros y wlad, rhag ei dinistrio; ac nis cefais.
31
Am hynny y tywelltais fy nigofaint arnynt, â thân fy llidiowgrwydd y difethais hwynt; eu ffordd eu hun a roddais ar eu pennau hwynt, medd yr ARGLWYDD DDUW.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48