bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 45
Ezekiel 45
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 44
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 46 →
1
A phan rannoch y tir wrth goelbren yn etifeddiaeth, yr offrymwch i'r ARGLWYDD offrwm cysegredig o'r tir; yr hyd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hyd, a dengmil o led. Cysegredig fydd hynny yn ei holl derfyn o amgylch.
2
O hyn y bydd i'r cysegr bum cant ar hyd, a phum cant ar led, yn bedeirongl oddi amgylch; a deg cufydd a deugain, yn faes pentrefol iddo o amgylch.
3
Ac o'r mesur hwn y mesuri bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led; ac yn hwnnw y bydd y cysegr, a'r lle sancteiddiolaf.
4
Y rhan gysegredig o'r tir fydd i'r offeiriaid, y rhai a wasanaethant y cysegr, y rhai a nesânt i wasanaethu yr ARGLWYDD; ac efe a fydd iddynt yn lle tai, ac yn gysegrfa i'r cysegr.
5
A'r pum mil ar hugain o hyd, a'r dengmil o led, fydd hefyd i'r Lefiaid y rhai a wasanaethant y tŷ, yn etifeddiaeth ugain o ystafelloedd.
6
Rhoddwch hefyd bum mil o led, a phum mil ar hugain o hyd, yn berchenogaeth i'r ddinas, ar gyfer offrwm y rhan gysegredig: i holl dŷ Israel y bydd hyn.
7
A rhan fydd i'r tywysog o'r tu yma ac o'r tu acw i offrwm y rhan gysegredig, ac i berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y rhan gysegredig, ac ar gyfer etifeddiaeth y ddinas, o du y gorllewin tua'r gorllewin, ac o du y dwyrain tua'r dwyrain: a'r hyd fydd ar gyfer pob un o'r rhannau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain.
8
Yn y tir y bydd ei etifeddiaeth ef yn Israel, ac ni orthryma fy nhywysogion fy mhobl i mwy; a'r rhan arall o'r tir a roddant i dŷ Israel yn ôl eu llwythau.
9
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Digon i chwi hyn, tywysogion Israel; bwriwch ymaith drawster a difrod, gwnewch hefyd farn a chyfiawnder, tynnwch ymaith eich trethau oddi ar fy mhobl, medd yr Arglwydd DDUW.
10
Bydded gennych gloriannau uniawn, ac effa uniawn, a bath uniawn.
11
Bydded yr effa a'r bath un fesur; gan gynnwys o'r bath ddegfed ran homer, a'r effa ddegfed ran homer: wrth yr homer y bydd eu mesur hwynt.
12
Y sicl fydd ugain gera: ugain sicl, a phum sicl ar hugain, a phymtheg sicl, fydd mane i chwi.
13
Dyma yr offrwm a offrymwch: chweched ran effa o homer o wenith; felly y rhoddwch chweched ran effa o homer o haidd.
14
Am ddeddf yr olew, bath o olew, degfed ran bath a roddwch o'r corus; yr hyn yw homer o ddeg bath: oherwydd deg bath yw homer.
15
Un milyn hefyd o'r praidd a offrymwch o bob deucant, allan o ddolydd Israel, yn fwyd‐offrwm, ac yn boethoffrwm, ac yn aberthau hedd, i wneuthur cymod drostynt, medd yr Arglwydd DDUW.
16
Holl bobl y tir fyddant dan yr offrwm hwn i'r tywysog yn Israel.
17
Ac ar y tywysog y bydd poethoffrwm, a bwyd‐offrwm, a diod‐offrwm ar yr uchel wyliau, a'r newyddloerau, a'r Sabothau, trwy holl osodedig wyliau tŷ Israel: efe a ddarpara bech‐aberth, a bwyd‐offrwm, a phoethoffrwm, ac aberthau hedd, i wneuthur cymod dros dŷ Israel.
18
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; O fewn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y cymeri fustach ieuanc perffaith‐gwbl, ac y puri y cysegr.
19
Yna y cymer yr offeiriad o waed y pech‐aberth, ac a'i rhydd ar orsingau y tŷ, ac ar bedair congl ystôl yr allor, ac ar orsingau porth y cyntedd nesaf i mewn.
20
Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o'r mis, dros y neb a becho yn amryfus, a thros yr ehud: felly y purwch y tŷ.
21
Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, y bydd i chwi y pasg; gŵyl fydd i chwi saith niwrnod: bara croyw a fwytewch.
22
A'r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun, a thros holl bobl y wlad, fustach yn bech‐aberth.
23
A saith niwrnod yr ŵyl y darpara efe yn offrwm poeth i'r ARGLWYDD, saith o fustych, a saith o hyrddod perffaith‐gwbl, bob dydd o'r saith niwrnod; a bwch geifr yn bech‐aberth bob dydd.
24
Bwyd‐offrwm hefyd a ddarpara efe, sef effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a hin o olew gyda'r effa.
25
Yn y seithfed mis, ar y pymthegfed dydd o'r mis, y gwna y cyffelyb ar yr ŵyl dros saith niwrnod; sef fel y pech‐aberth, fel y poethoffrwm, ac fel y bwyd‐offrwm, ac fel yr olew.
← Chapter 44
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 46 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48