bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 37
Ezekiel 37
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 38 →
1
Bu llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac a'm dug allan yn ysbryd yr ARGLWYDD, ac a'm gosododd yng nghanol dyffryn, a hwnnw oedd yn llawn esgyrn.
2
Ac efe a wnaeth i mi fyned heibio iddynt o amgylch ogylch: ac wele hwynt yn aml iawn ar wyneb y dyffryn; wele hefyd, sychion iawn oeddynt.
3
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, a fydd byw yr esgyrn hyn? A mi a ddywedais, O Arglwydd DDUW, ti a'i gwyddost.
4
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda am yr esgyrn hyn, a dywed wrthynt, O esgyrn sychion, clywch air yr ARGLWYDD.
5
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW wrth yr esgyrn hyn; Wele fi yn dwyn anadl i'ch mewn, fel y byddoch byw.
6
Giau hefyd a roddaf arnoch, a pharaf i gig gyfodi arnoch, gwisgaf chwi hefyd â chroen, a rhoddaf anadl ynoch: fel y byddoch byw, ac y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.
7
Yna y proffwydais fel y'm gorchmynasid; ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu sŵn, ac wele gynnwrf, a'r esgyrn a ddaethant ynghyd, asgwrn at ei asgwrn.
8
A phan edrychais, wele, cyfodasai giau a chig arnynt, a gwisgasai croen amdanynt; ond nid oedd anadl ynddynt.
9
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda tua'r gwynt, proffwyda, fab dyn, a dywed wrth y gwynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; O anadl, tyred oddi wrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw.
10
Felly y proffwydais fel y'm gorchmynasid; a'r anadl a ddaeth ynddynt, a buant fyw, a safasant ar eu traed, yn llu mawr iawn.
11
Yna y dywedodd wrthyf, Ha fab dyn, yr esgyrn hyn ydynt dŷ Israel oll: wele, dywedant, Ein hesgyrn a wywasant, a'n gobaith a gollodd; torrwyd ni ymaith o'n rhan ni.
12
Am hynny proffwyda, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl, codaf chwi hefyd o'ch beddau, a dygaf chwi i dir Israel.
13
A chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan agorwyf eich beddau, a phan gyfodwyf chwi i fyny o'ch beddau, fy mhobl;
14
Ac y rhoddwyf fy ysbryd ynoch, ac y byddoch byw, ac y gosodwyf chwi yn eich tir eich hun: yna y cewch wybod mai myfi yr ARGLWYDD a leferais, ac a wneuthum hyn, medd yr ARGLWYDD.
15
A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
16
Tithau fab dyn, cymer i ti un pren, ac ysgrifenna arno, I Jwda, ac i feibion Israel ei gyfeillion. A chymer i ti bren arall, ac ysgrifenna arno, I Joseff, pren Effraim, ac i holl dŷ Israel ei gyfeillion:
17
A chydia hwynt y naill wrth y llall yn un pren i ti; fel y byddont yn un yn dy law di.
18
A phan lefaro meibion dy bobl wrthyt, gan ddywedyd, Oni fynegi i ni beth yw hyn gennyt?
19
Dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn cymryd pren Joseff, yr hwn sydd yn llaw Effraim, a llwythau Israel ei gyfeillion, a mi a'u rhoddaf hwynt gydag ef, sef gyda phren Jwda, ac a'u gwnaf hwynt yn un pren, fel y byddont yn fy llaw yn un.
20
A bydded yn dy law, o flaen eu llygaid hwynt, y prennau yr ysgrifennych arnynt;
21
A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn cymryd meibion Israel o fysg y cenhedloedd yr aethant atynt, ac mi a'u casglaf hwynt o amgylch, ac a'u dygaf hwynt i'w tir eu hun;
22
A gwnaf hwynt yn un genedl o fewn y tir ym mynyddoedd Israel, ac un brenin fydd yn frenin iddynt oll: ni byddant hefyd mwy yn ddwy genedl, ac ni rennir hwynt mwyach yn ddwy frenhiniaeth:
23
Ac ni ymhalogant mwy wrth eu heilunod, na thrwy eu ffieidd‐dra, nac yn eu holl anwireddau: eithr cadwaf hwynt o'u holl drigfaon, y rhai y pechasant ynddynt, a mi a'u glanhaf hwynt; fel y byddont yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwythau.
24
A'm gwas Dafydd fydd frenin arnynt; ie, un bugail fydd iddynt oll: yn fy marnedigaethau hefyd y rhodiant, a'm deddfau a gadwant ac a wnânt.
25
Trigant hefyd yn y tir a roddais i'm gwas Jacob, yr hwn y trigodd eich tadau ynddo; a hwy a drigant ynddo, hwy a'u meibion, a meibion eu meibion byth; a Dafydd fy ngwas fydd dywysog iddynt yn dragywydd.
26
Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod hedd; amod tragwyddol a fydd â hwynt: a gosodaf hwynt, ac a'u hamlhaf, a rhoddaf fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd.
27
A'm tabernacl fydd gyda hwynt; ie, myfi a fyddaf iddynt yn DDUW, a hwythau a fyddant i mi yn bobl.
28
A'r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yr ARGLWYDD sydd yn sancteiddio Israel; gan fod fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd.
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 38 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48