bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 46
Ezekiel 46
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 45
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 47 →
1
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Porth y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain, fydd yn gaead y chwe diwrnod gwaith; ond ar y dydd Saboth yr agorir ef, ac efe a agorir ar ddydd y newyddloer.
2
A'r tywysog a ddaw ar hyd ffordd cyntedd y porth oddi allan, ac a saif wrth orsing y porth; a'r offeiriaid a ddarparant ei boethoffrwm ef a'i aberthau hedd, ac efe a addola wrth riniog y porth: ac a â allan: a'r porth ni chaeir hyd yr hwyr.
3
Pobl y tir a addolant hefyd wrth ddrws y porth hwnnw, ar y Sabothau ac ar y newyddloerau, o flaen yr ARGLWYDD.
4
A'r offrwm poeth a offrymo y tywysog i'r ARGLWYDD ar y dydd Saboth, fydd chwech o ŵyn perffaith‐gwbl, a hwrdd perffaith‐gwbl:
5
A bwyd‐offrwm o effa gyda'r hwrdd, a rhodd ei law o fwyd‐offrwm gyda'r ŵyn, a hin o olew gyda'r effa.
6
Ac ar ddydd y newyddloer, bustach ieuanc perffaith‐gwbl, a chwech o ŵyn, a hwrdd; perffaith‐gwbl fyddant.
7
Ac efe a ddarpara effa gyda'r bustach, ac effa gyda'r hwrdd, yn fwyd‐offrwm; a chyda'r ŵyn fel y cyrhaeddo ei law ef, a hin o olew gyda phob effa.
8
A phan ddelo y tywysog i mewn, ar hyd ffordd cyntedd y porth y daw i mewn, ac ar hyd y ffordd honno yr â allan.
9
A phan ddelo pobl y tir o flaen yr ARGLWYDD ar y gwyliau gosodedig, yr hwn a ddelo i mewn ar hyd ffordd porth y gogledd i addoli, a â allan i ffordd porth y deau; a'r hwn a ddelo ar hyd ffordd porth y deau, a â allan ar hyd ffordd porth y gogledd: na ddychweled i ffordd y porth y daeth i mewn trwyddo, eithr eled allan ar ei gyfer.
10
A phan ddelont hwy i mewn, y daw y tywysog yn eu mysg hwy; a phan elont allan, yr â yntau allan.
11
Ac ar y gwyliau a'r uchel wyliau hefyd y bydd y bwyd‐offrwm o effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a rhodd ei law gyda'r ŵyn, a hin o olew gyda'r effa.
12
A phan ddarparo y tywysog boethoffrwm gwirfodd, neu aberthau hedd gwirfodd i'r ARGLWYDD, yna yr egyr un iddo y porth sydd yn edrych tua'r dwyrain, ac efe a ddarpara ei boethoffrwm a'i aberthau hedd, fel y gwnaeth ar y dydd Saboth; ac a â allan: ac un a gae y porth ar ôl ei fyned ef allan.
13
Oen blwydd perffaith‐gwbl hefyd a ddarperi yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD beunydd: o fore i fore y darperi ef.
14
Darperi hefyd yn fwyd‐offrwm gydag ef o fore i fore, chweched ran effa, a thrydedd ran hin o olew, i gymysgu y peilliaid, yn fwyd‐offrwm i'r ARGLWYDD, trwy ddeddf dragwyddol byth.
15
Fel hyn y darparant yr oen, a'r bwyd‐offrwm, a'r olew, o fore i fore, yn boethoffrwm gwastadol.
16
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Os rhydd y tywysog rodd i neb o'i feibion o'i etifeddiaeth, eiddo ei feibion fydd hynny, eu perchenogaeth fydd hynny wrth etifeddiaeth.
17
Ond pan roddo efe rodd o'i etifeddiaeth i un o'i weision, bydded hefyd eiddo hwnnw hyd flwyddyn y rhyddid; yna y dychwel i'r tywysog: eto ei etifeddiaeth fydd eiddo ei feibion, iddynt hwy.
18
Ac na chymered y tywysog o etifeddiaeth y bobl, i'w gorthrymu hwynt allan o'u perchenogaeth; eithr rhodded etifeddiaeth i'w feibion o'i berchenogaeth ei hun: fel na wasgarer fy mhobl bob un allan o'i berchenogaeth.
19
Ac efe a'm dug trwy y ddyfodfa oedd ar ystlys y porth, i ystafelloedd cysegredig yr offeiriaid, y rhai oedd yn edrych tua'r gogledd: ac wele yno le ar y ddau ystlys tua'r gorllewin.
20
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y fan lle y beirw yr offeiriaid yr aberth dros gamwedd a'r pech‐aberth, a lle y pobant y bwyd‐offrwm; fel na ddygont hwynt i'r cyntedd nesaf allan, i sancteiddio y bobl.
21
Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf allan, ac a'm tywysodd heibio i bedair congl y cyntedd; ac wele gyntedd ym mhob congl i'r cyntedd.
22
Ym mhedair congl y cyntedd yr ydoedd cynteddau cysylltiedig o ddeugain cufydd o hyd, a deg ar hugain o led: un fesur oedd y conglau ill pedair.
23
Ac yr ydoedd adail newydd o amgylch ogylch iddynt ill pedair, a cheginau wedi eu gwneuthur oddi tan y muriau oddi amgylch.
24
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma dŷ y cogau, lle y beirw gweinidogion y tŷ aberth y bobl.
← Chapter 45
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 47 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48