bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 21
Ezekiel 21
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 22 →
1
Adaeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
2
Gosod dy wyneb, fab dyn, tua Jerwsalem, a difera dy eiriau tua'r cysegroedd, a phroffwyda yn erbyn gwlad Israel,
3
A dywed wrth wlad Israel, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi i'th erbyn, tynnaf hefyd fy nghleddyf o'i wain, a thorraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn.
4
Oherwydd y torraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn, am hynny y daw fy nghleddyf allan o'i wain yn erbyn pob cnawd, o'r deau hyd y gogledd;
5
Fel y gwypo pob cnawd i mi yr ARGLWYDD dynnu fy nghleddyf allan o'i wain: ni ddychwel efe mwy.
6
Ochain dithau, fab dyn, gydag ysictod lwynau; ie, ochain yn chwerw yn eu golwg hwynt.
7
A bydd, pan ddywedant wrthyt, Am ba beth yr ydwyt yn ochain? yna ddywedyd ohonot, Am y chwedl newydd, am ei fod yn dyfod, fel y toddo pob calon, ac y llaeso y dwylo oll, ac y pallo pob ysbryd, a'r gliniau oll a ânt fel dwfr; wele efe yn dyfod, ac a fydd, medd yr ARGLWYDD DDUW.
8
A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
9
Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dywed, Cleddyf, cleddyf a hogwyd, ac a loywyd.
10
Efe a hogwyd i ladd lladdfa, efe a loywyd fel y byddai ddisglair: a lawenychwn ni? y mae efe yn dirmygu gwialen fy mab, fel pob pren.
11
Ac efe a'i rhoddes i'w loywi, i'w ddal mewn llaw; y cleddyf hwn a hogwyd, ac a loywyd, i'w roddi yn llaw y lleiddiad.
12
Gwaedda ac uda, fab dyn; canys hwn fydd ar fy mhobl, hwn fydd yn erbyn holl dywysogion Israel; dychryn gan y cleddyf fydd ar fy mhobl: am hynny taro law ar forddwyd.
13
Canys profiad yw; a pheth os y cleddyf a ddiystyra y wialen? ni bydd efe mwy, medd yr ARGLWYDD DDUW.
14
Tithau, fab dyn, proffwyda, a tharo law wrth law, a dybler y cleddyf y drydedd waith: cleddyf y lladdedigion, cleddyf lladdedigaeth y gwŷr mawr ydyw, yn myned i'w hystafelloedd hwynt.
15
Rhoddais flaen y cleddyf yn erbyn eu holl byrth hwynt, i doddi eu calon, ac i amlhau eu tramgwyddiadau: O, gwnaed ef yn loyw, hogwyd ef i ladd!
16
Dos ryw ffordd, naill ai ar y llaw ddeau, ai ar y llaw aswy, lle y tueddo dy wyneb.
17
Minnau hefyd a drawaf y naill law yn y llall, ac a lonyddaf fy llid: myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais.
18
A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
19
Tithau, fab dyn, gosod i ti ddwy ffordd, fel y delo cleddyf brenin Babilon; o un tir y deuant ill dwy: a dewis le, ym mhen ffordd y ddinas y dewisi ef.
20
Gosod ffordd i ddyfod o'r cleddyf tua Rabbath meibion Ammon, a thua Jwda yn erbyn Jerwsalem gaerog.
21
Canys safodd brenin Babilon ar y groesffordd, ym mhen y ddwyffordd, i ddewinio dewiniaeth: gloywodd ei saethau, ymofynnodd â delwau, edrychodd mewn afu.
22
Yn ei law ddeau yr oedd dewiniaeth Jerwsalem, am osod capteiniaid i agoryd safn mewn lladdedigaeth, i ddyrchafu llef gyda bloedd, i osod offer rhyfel yn erbyn y pyrth, i fwrw clawdd, i adeiladu amddiffynfa.
23
A hyn fydd ganddynt, fel dewinio dewiniaeth gwagedd yn eu golwg hwynt, i'r rhai a dyngasant lwon: ond efe a gofia yr anwiredd, i'w dal hwynt.
24
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Am beri ohonoch gofio eich anwiredd, gan amlygu eich camweddau, fel yr ymddengys eich pechodau yn eich holl weithredoedd; am beri ohonoch eich cofio, y'ch delir â llaw.
25
Tithau, halogedig annuwiol dywysog Israel, yr hwn y daeth ei ddydd, yn amser diwedd anwiredd,
26
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Symud y meitr, a thyn ymaith y goron; nid yr un fydd hon: cyfod yr isel, gostwng yr uchel.
27
Dymchwelaf, dymchwelaf, dymchwelaf hi; ac ni bydd mwyach hyd oni ddelo yr hwn y mae yn gyfiawn iddo; ac iddo ef y rhoddaf hi.
28
Proffwyda dithau, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am feibion Ammon, ac am eu gwaradwydd hwynt; dywed di, Y cleddyf, y cleddyf a dynnwyd: i ladd y gloywyd ef, i ddifetha oherwydd y disgleirdeb:
29
Wrth weled gwagedd i ti, wrth ddewinio i ti gelwydd, i'th roddi ar yddfau y lladdedigion, y drygionus y rhai y daeth eu dydd, yn amser diwedd eu hanwiredd.
30
A ddychwelaf fi ef i'w wain? yn y lle y'th grewyd, yn nhir dy gynefin, y'th farnaf.
31
A thywalltaf fy nicllonedd arnat, â thân fy llidiowgrwydd y chwythaf arnat, a rhoddaf di yn llaw dynion poethion, cywraint i ddinistrio.
32
I'r tân y byddi yn ymborth; dy waed fydd yng nghanol y tir; ni'th gofir mwyach: canys myfi yr ARGLWYDD a'i dywedais.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48