bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 4
Ezekiel 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 5 →
1
Tithau fab dyn, cymer i ti briddlech, a dod hi o'th flaen, a llunia arni ddinas Jerwsalem:
2
A gwarchae yn ei herbyn hi, ac adeilada wrthi warchglawdd, a bwrw o'i hamgylch hi wrthglawdd; dod hefyd wersylloedd wrthi, a gosod offer rhyfel yn ei herbyn o amgylch.
3
Cymer i ti hefyd badell haearn, a dod hi yn fur haearn rhyngot a'r ddinas; a chyfeiria dy wyneb ati, a bydd mewn gwarchaeedigaeth, a gwarchae di arni. Arwydd fydd hyn i dŷ Israel.
4
Gorwedd hefyd ar dy ystlys aswy, a gosod anwiredd tŷ Israel arni; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arni, y dygi eu hanwiredd hwynt.
5
Canys rhoddais arnat ti flynyddoedd eu hanwiredd hwynt, wrth rifedi y dyddiau, tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain: felly y dygi anwiredd tŷ Israel.
6
A phan orffennych y rhai hynny, gorwedd eilwaith ar dy ystlys ddeau, a thi a ddygi anwiredd tŷ Jwda ddeugain niwrnod: pob diwrnod am flwyddyn a roddais i ti.
7
A chyfeiria dy wyneb at warchaeedigaeth Jerwsalem, a'th fraich yn noeth; a thi a broffwydi yn ei herbyn hi.
8
Wele hefyd rhoddais rwymau arnat, fel na throech o ystlys i ystlys, nes gorffen ohonot ddyddiau dy warchaeedigaeth.
9
Cymer i ti hefyd wenith, a haidd, a ffa, a ffacbys, a milet, a chorbys, a dod hwynt mewn un llestr, a gwna hwynt i ti yn fara, dros rifedi y dyddiau y gorweddych ar dy ystlys: tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain y bwytei ef.
10
A'th fwyd a fwytei a fydd wrth bwys, ugain sicl yn y dydd: o amser i amser y bwytei ef.
11
Y dwfr hefyd a yfi wrth fesur; chweched ran hin a yfi, o amser i amser.
12
Ac fel teisen haidd y bwytei ef; ti a'i cresi hi hefyd wrth dail tom dyn, yn eu gŵydd hwynt.
13
A dywedodd yr ARGLWYDD, Felly y bwyty meibion Israel eu bara halogedig ymysg y cenhedloedd y rhai y gyrraf hwynt atynt.
14
Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, wele, ni halogwyd fy enaid, ac ni fwyteais furgyn neu ysglyfaeth o'm hieuenctid hyd yr awr hon; ac ni ddaeth i'm safn gig ffiaidd.
15
Yntau a ddywedodd wrthyf, Wele, mi a roddais i ti fiswail gwartheg yn lle tom dyn, ac â hwynt y gwnei dy fara.
16
Dywedodd hefyd wrthyf, Mab dyn, wele fi yn torri ffon bara yn Jerwsalem, fel y bwytaont fara dan bwys, ac mewn gofal; ac yr yfont ddwfr dan fesur, ac mewn syndod.
17
Fel y byddo arnynt eisiau bara a dwfr, ac y synnont un gydag arall, ac y darfyddont yn eu hanwiredd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48