bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 48
Ezekiel 48
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 47
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
1
A dyma enwau y llwythau. O gwr y gogledd ar duedd ffordd Hethlon, ffordd yr eir i Hamath, Hasar‐enan, terfyn Damascus tua'r gogledd, i duedd Hamath, (canys y rhai hyn oedd ei derfynau dwyrain a gorllewin,) rhan i Dan.
2
Ac ar derfyn Dan, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Aser.
3
Ac ar derfyn Aser, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Nafftali ran.
4
Ac ar derfyn Nafftali, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Manasse ran.
5
Ac ar derfyn Manasse, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Effraim ran.
6
Ac ar derfyn Effraim, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Reuben ran.
7
Ac ar derfyn Reuben, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Jwda ran.
8
Ac ar derfyn Jwda, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd yr offrwm a offrymoch yn bum mil ar hugain o gorsennau o led, ac o hyd fel un o'r rhannau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin; a'r cysegr fydd yn ei ganol.
9
Yr offrwm a offrymoch i'r ARGLWYDD fydd bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led.
10
Ac eiddo y rhai hyn fydd yr offrwm cysegredig, sef eiddo yr offeiriaid, fydd pum mil ar hugain tua'r gogledd o hyd, a dengmil tua'r gorllewin o led; felly dengmil tua'r dwyrain o led, a phum mil ar hugain tua'r deau o hyd: a chysegr yr ARGLWYDD fydd yn ei ganol.
11
I'r offeiriaid cysegredig o feibion Sadoc y bydd, y rhai a gadwasant fy nghadwraeth, y rhai ni chyfeiliornasant pan gyfeiliornodd plant Israel, megis y cyfeiliornodd y Lefiaid.
12
A bydd eiddynt yr hyn a offrymir o offrwm y tir, yn sancteiddbeth cysegredig wrth derfyn y Lefiaid.
13
A'r Lefiaid a gânt, ar gyfer terfyn yr offeiriaid, bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led: pob hyd fydd bum mil ar hugain, a'r lled yn ddengmil.
14
Hefyd ni werthant ddim ohono, ac ni chyfnewidiant, ac ni throsglwyddant flaenffrwyth y tir; oherwydd cysegredig yw i'r ARGLWYDD.
15
A'r pum mil gweddill o'r lled, ar gyfer y pum mil ar hugain, fydd digysegredig, yn drigfa ac yn faes pentrefol i'r ddinas; a'r ddinas fydd yn ei ganol.
16
A dyma ei fesurau ef; Ystlys y gogledd fydd bum cant a phedair mil, ac ystlys y deau yn bum cant a phedair mil, felly o du y dwyrain yn bum cant a phedair mil, a thua'r gorllewin yn bum cant a phedair mil.
17
A maes pentrefol y ddinas fydd hefyd tua'r gogledd yn ddeucant a deg a deugain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua'r deau, ac yn ddeucant a deg a deugain tua'r dwyrain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua'r gorllewin.
18
A'r gweddill o'r hyd, ar gyfer offrwm y rhan gysegredig, fydd yn ddengmil tua'r dwyrain, ac yn ddengmil tua'r gorllewin: ac ar gyfer offrwm y rhan gysegredig y bydd; a'i gnwd fydd yn ymborth i weinidogion y ddinas.
19
A gweinidogion y ddinas a'i gwasanaethant o holl lwythau Israel.
20
Yr holl offrwm fydd bum mil ar hugain, wrth bum mil ar hugain: yn bedeirongl yr offrymwch yr offrwm cysegredig, gyda pherchenogaeth y ddinas.
21
A'r hyn a adewir fydd i'r tywysog, oddeutu yr offrwm cysegredig, ac o berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y pum mil ar hugain o'r offrwm tua therfyn y dwyrain, a thua'r gorllewin, ar gyfer y pum mil ar hugain tua therfyn y gorllewin, gyferbyn â rhannau y tywysog: a'r offrwm cysegredig fydd; a chysegrfa y tŷ fydd yng nghanol hynny.
22
Felly o berchenogaeth y Lefiaid, ac o berchenogaeth y ddinas, yng nghanol yr hyn sydd i'r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin, eiddo y tywysog fydd.
23
Ac am y rhan arall o'r llwythau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Benjamin.
24
Ac ar derfyn Benjamin, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Simeon.
25
Ac ar derfyn Simeon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Issachar.
26
Ac ar derfyn Issachar, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Sabulon.
27
Ac ar derfyn Sabulon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Gad.
28
Ac ar derfyn Gad, ar y tu deau tua'r deau, y terfyn fydd o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, a hyd yr afon tua'r môr mawr.
29
Dyma y tir a rennwch wrth goelbren yn etifeddiaeth i lwythau Israel, a dyma eu rhannau hwynt, medd yr Arglwydd DDUW.
30
Dyma hefyd fynediad allan y ddinas, o du y gogledd pum cant a phedair mil o fesurau.
31
A phyrth y ddinas fydd ar enwau llwythau Israel: tri phorth tua'r gogledd; porth Reuben yn un, porth Jwda yn un, porth Lefi yn un.
32
Ac ar du y dwyrain pum cant a phedair mil: a thri phorth; sef porth Joseff yn un, porth Benjamin yn un, porth Dan yn un.
33
A thua'r deau pum cant a phedair mil o fesurau: a thri phorth; porth Simeon yn un, a phorth Issachar yn un, a phorth Sabulon yn un.
34
Tua'r gorllewin y bydd pum cant a phedair mil, a'u tri phorth; porth Gad yn un, porth Aser yn un, a phorth Nafftali yn un.
35
Deunaw mil o fesurau oedd hi o amgylch: ac enw y ddinas o'r dydd hwnnw allan fydd, Yr ARGLWYDD sydd yno.
← Chapter 47
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48