bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 18
Ezekiel 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 19 →
1
A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2
Paham gennych arferu y ddihareb hon am dir Israel, gan ddywedyd, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod?
3
Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, ni bydd i chwi mwy arferu y ddihareb hon yn Israel.
4
Wele, yr holl eneidiau eiddof fi ydynt; fel enaid y tad, felly hefyd enaid y mab, eiddof fi ydynt; yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.
5
Canys os bydd gŵr yn gyfiawn, ac yn gwneuthur barn a chyfiawnder,
6
Heb fwyta ar y mynyddoedd, na chyfodi ei lygaid at eilunod tŷ Israel, ac heb halogi gwraig ei gymydog, na nesáu at wraig fisglwyfus,
7
Na gorthrymu neb, ond a roddes ei wystl i'r dyledwr yn ei ôl, ni threisiodd drais, ei fara a roddodd i'r newynog, ac a ddilladodd y noeth,
8
Ni roddes ar usuriaeth, ac ni chymerodd ychwaneg, ei law a dynnodd yn ei hôl oddi wrth anwiredd, gwir farn a wnaeth rhwng gŵr a gŵr.
9
Yn fy neddfau y rhodiodd, a'm barnedigaethau a gadwodd, i wneuthur gwirionedd: cyfiawn yw; gan fyw efe a fydd byw, medd yr ARGLWYDD DDUW.
10
Os cenhedla efe fab yn lleidr, ac yn tywallt gwaed, ac a wna gyffelyb i'r un o'r pethau hyn,
11
Ac ni wna yr un o'r pethau hynny, ond ar y mynyddoedd y bwyty, a gwraig ei gymydog a haloga,
12
Yr anghenus a'r tlawd a orthryma, trais a dreisia, gwystl ni rydd drachefn, ac at eilunod y cyfyd ei lygaid, a wnaeth ffieidd‐dra,
13
Ar usuriaeth y rhoddes, ac ychwaneg a gymerth; gan hynny a fydd efe byw? Ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffieidd‐dra hyn; gan farw y bydd farw; ei waed a fydd arno ei hun.
14
Ac wele, os cenhedla fab a wêl holl bechodau ei dad y rhai a wnaeth efe, ac a ystyria, ac ni wna felly,
15
Ar y mynyddoedd ni fwyty, a'i lygaid ni chyfyd at eilunod tŷ Israel, ni haloga wraig ei gymydog,
16
Ni orthryma neb chwaith, ni atal wystl, ac ni threisia drais, ei fara a rydd i'r newynog, a'r noeth a ddillada,
17
Ni thry ei law oddi wrth yr anghenog, usuriaeth na llog ni chymer, fy marnau a wna, yn fy neddfau y rhodia: hwnnw ni bydd farw am anwiredd ei dad; gan fyw y bydd efe byw.
18
Ei dad, am orthrymu yn dost, a threisio ei frawd trwy orthrech, a gwneuthur yr hyn nid oedd dda ymysg ei bobl, wele, efe a fydd marw yn ei anwiredd.
19
Eto chwi a ddywedwch, Paham? oni ddwg y mab anwiredd y tad? Pan wnelo y mab farn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau, a'u gwneuthur hwynt, gan fyw efe a fydd byw.
20
Yr enaid a becho, hwnnw a fydd marw. Y mab ni ddwg anwiredd y tad, a'r tad ni ddwg anwiredd y mab: cyfiawnder y cyfiawn fydd arno ef, a drygioni y drygionus fydd arno yntau.
21
Ond os yr annuwiol a ddychwel oddi wrth ei holl bechodau y rhai a wnaeth, a chadw fy holl ddeddfau, a gwneuthur barn a chyfiawnder, efe gan fyw a fydd byw; ni bydd efe marw.
22
Ni chofir iddo yr holl gamweddau a wnaeth: yn ei gyfiawnder a wnaeth y bydd efe byw.
23
Gan ewyllysio a ewyllysiwn i farw yr annuwiol, medd yr ARGLWYDD DDUW, ac na ddychwelai oddi wrth ei ffyrdd, a byw?
24
Ond pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a gwneuthur yn ôl yr holl ffieidd‐dra a wnelo yr annuwiol; a fydd efe byw? ni chofir yr holl gyfiawnderau a wnaeth efe: yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth, ac yn ei bechod a bechodd, ynddynt y bydd efe marw.
25
Eto chwi a ddywedwch, Nid cymwys yw ffordd yr ARGLWYDD. Gwrandewch yr awr hon, tŷ Israel, onid yw gymwys fy ffordd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys?
26
Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a marw ynddynt; am ei anwiredd a wnaeth y bydd efe marw.
27
A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth, a gwneuthur barn a chyfiawnder, hwnnw a geidw yn fyw ei enaid.
28
Am iddo ystyried, a dychwelyd oddi wrth ei holl gamweddau y rhai a wnaeth, gan fyw y bydd byw, ni bydd marw.
29
Eto tŷ Israel a ddywedant, Nid cymwys yw ffordd yr ARGLWYDD. Tŷ Israel, onid cymwys fy ffyrdd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys?
30
Am hynny barnaf chwi, tŷ Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun, medd yr ARGLWYDD DDUW. Dychwelwch, a throwch oddi wrth eich holl gamweddau; fel na byddo anwiredd yn dramgwydd i chwi.
31
Bwriwch oddi wrthych eich holl gamweddau y camweddasoch ynddynt, a gwnewch i chwi galon newydd, ac ysbryd newydd: canys paham, tŷ Israel, y byddwch feirw?
32
Canys nid oes ewyllys gennyf i farwolaeth y marw, medd yr ARGLWYDD DDUW. Dychwelwch gan hynny, a byddwch fyw.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48