bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 19
Ezekiel 19
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 20 →
1
Cymer dithau alarnad am dywysogion Israel,
2
A dywed, Beth yw dy fam? llewes: gorweddodd ymysg llewod, yng nghanol y llewod ieuainc y maethodd hi ei chenawon.
3
A hi a ddug i fyny un o'i chenawon: efe a aeth yn llew ieuanc, ac a ddysgodd ysglyfaethu ysglyfaeth; bwytaodd ddynion.
4
Yna y cenhedloedd a glywsant sôn amdano; daliwyd ef yn eu ffos hwynt, a dygasant ef mewn cadwynau i dir yr Aifft.
5
A phan welodd iddi ddisgwyl, a darfod am ei gobaith, hi a gymerodd un arall o'i chenawon, ac a'i gwnaeth ef yn llew ieuanc.
6
Yntau a dramwyodd ymysg y llewod; efe a aeth yn llew ieuanc, ac a ddysgodd ysglyfaethu ysglyfaeth; bwytaodd ddynion.
7
Adnabu hefyd eu gweddwon hwynt, a'u dinasoedd a anrheithiodd efe; ie, anrheithiwyd y tir a'i gyflawnder gan lais ei ruad ef.
8
Yna y cenhedloedd a ymosodasant yn ei erbyn ef o amgylch o'r taleithiau, ac a daenasant eu rhwyd arno; ac efe a ddaliwyd yn eu ffos hwynt.
9
A hwy a'i rhoddasant ef yng ngharchar mewn cadwyni, ac a'i dygasant at frenin Babilon: dygasant ef i amddiffynfeydd, fel na chlywid ei lais ef mwy ar fynyddoedd Israel.
10
Dy fam sydd fel gwinwydden yn dy waed di, wedi ei phlannu wrth ddyfroedd: ffrwythlon a brigog oedd, oherwydd dyfroedd lawer.
11
Ac yr oedd iddi wiail cryfion yn deyrnwiail llywodraethwyr, a'i huchder oedd uchel ymysg y tewfrig; fel y gwelid hi yn ei huchder yn amlder ei changhennau.
12
Ond hi a ddiwreiddiwyd mewn llidiowgrwydd, bwriwyd hi i'r llawr, a gwynt y dwyrain a wywodd ei ffrwyth hi: ei gwiail cryfion hi a dorrwyd ac a wywasant; tân a'u hysodd.
13
Ac yr awr hon hi a blannwyd mewn anialwch, mewn tir cras a sychedig.
14
A thân a aeth allan o wialen ei changhennau, ysodd ei ffrwyth hi, fel nad oedd ynddi wialen gref yn deyrnwialen i lywodraethu. Galarnad yw hwn, ac yn alarnad y bydd.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48