bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 28
Ezekiel 28
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 29 →
1
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf drachefn, gan ddywedyd,
2
Ha fab dyn, dywed wrth dywysog Tyrus, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am falchïo dy galon, a dywedyd ohonot, DUW ydwyf fi, eistedd yr ydwyf yn eisteddfa DUW yng nghanol y moroedd; a thi yn ddyn, ac nid yn DDUW, er gosod ohonot dy galon fel calon DUW:
3
Wele di yn ddoethach na Daniel; ni chuddir dim dirgelwch oddi wrthyt:
4
Trwy dy ddoethineb a'th ddeallgarwch y cefaist gyfoeth i ti, ie, y cefaist aur ac arian i'th drysorau:
5
Trwy dy fawr ddoethineb ac wrth dy farchnadaeth yr amlheaist dy gyfoeth, a'th galon a falchïodd oherwydd dy gyfoeth:
6
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am osod ohonot dy galon fel calon DUW,
7
Oherwydd hynny wele fi yn dwyn i'th erbyn ddieithriaid, y trawsaf o'r cenhedloedd; a thynnant eu cleddyfau ar degwch dy ddoethineb, a halogant dy loywder.
8
Disgynnant di i'r ffos, a byddi farw o farwolaeth yr archolledig yng nghanol y môr.
9
Gan ddywedyd a ddywedi di o flaen dy leiddiad, DUW ydwyf fi? a thi a fyddi yn ddyn, ac nid yn DDUW, yn llaw dy leiddiad.
10
Byddi farw o farwolaeth y dienwaededig, trwy law dieithriaid: canys myfi a'i dywedais, medd yr ARGLWYDD DDUW.
11
Gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,
12
Cyfod, fab dyn, alarnad am frenin Tyrus, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Ti seliwr nifer, llawn o ddoethineb, a chyflawn o degwch,
13
Ti a fuost yn Eden, gardd DUW: pob maen gwerthfawr a'th orchuddiai, sardius, topas, ac adamant, beryl, onics, a iasbis, saffir, rubi, a smaragdus, ac aur: gwaith dy dympanau a'th bibellau a baratowyd ynot ar y dydd y'th grewyd.
14
Ceriwb eneiniog ydwyt yn gorchuddio; ac felly y'th roddaswn; oeddit ar sanctaidd fynydd DUW: ymrodiaist yng nghanol y cerrig tanllyd.
15
Perffaith oeddit ti yn dy ffyrdd er y dydd y'th grewyd, hyd oni chaed ynot anwiredd.
16
Yn amlder dy farchnadaeth y llanwasant dy ganol â thrais, a thi a bechaist: am hynny y'th halogaf allan o fynydd DUW, ac y'th ddifethaf di, geriwb yn gorchuddio, o ganol y cerrig tanllyd.
17
Balchïodd dy galon yn dy degwch, llygraist dy ddoethineb oherwydd dy loywder: bwriaf di i'r llawr; o flaen brenhinoedd y'th osodaf, fel yr edrychont arnat.
18
Trwy amlder dy anwiredd, ag anwiredd dy farchnadaeth, yr halogaist dy gysegroedd: am hynny y dygaf dân allan o'th ganol, hwnnw a'th ysa; a gwnaf di yn lludw ar y ddaear yng ngolwg pawb a'th welant.
19
Y rhai a'th adwaenant oll ymysg y bobloedd, a synnant o'th achos: dychryn fyddi, ac ni byddi byth.
20
Yna gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
21
Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Sidon, a phroffwyda yn ei herbyn hi,
22
A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi i'th erbyn, Sidon; fel y'm gogonedder yn dy ganol, ac y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan wnelwyf ynddi farnedigaethau, ac y'm sancteiddier ynddi.
23
Canys anfonaf iddi haint, a gwaed i'w heolydd; a bernir yr archolledig o'i mewn â'r cleddyf, yr hwn fydd arni oddi amgylch; a chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
24
Ac ni bydd mwy i dŷ Israel, o'r holl rai o'u hamgylch a'r a'u dirmygasant, ysbyddaden bigog, na draenen ofidus; a chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD DDUW.
25
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Pan gasglwyf dŷ Israel o fysg y bobloedd y rhai y gwasgarwyd hwy yn eu plith, ac yr ymsancteiddiwyf ynddynt yng ngolwg y cenhedloedd; yna y trigant yn eu gwlad a roddais i'm gwas Jacob.
26
Ie, trigant ynddi yn ddiogel, ac adeiladant dai, a phlannant winllannoedd; a phreswyliant mewn diogelwch, pan wnelwyf farnedigaethau â'r rhai oll a'u dirmygant hwy o'u hamgylch; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48