bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 5
Ezekiel 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 6 →
1
Tithau fab dyn, cymer i ti gyllell lem, cymer i ti ellyn eillio, ac eillia dy ben a'th farf: yna y cymeri i ti gloriannau pwys, ac y rhenni hwynt.
2
Traean a losgi yn tân yng nghanol y ddinas, pan gyflawner dyddiau y gwarchae; traean a gymeri hefyd, ac a'i trewi â'r gyllell o'i amgylch; a thraean a daeni gyda'r gwynt: a mi a dynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
3
Cymer hefyd oddi yno ychydig o nifer, a chlyma hwynt yn dy odre.
4
A chymer eilwaith rai ohonynt hwy, a thafl hwynt i ganol y tân, a llosg hwynt yn tân: ohono y daw allan dân i holl dŷ Israel.
5
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Jerwsalem yw hon: gosodais hi ymysg y cenhedloedd a'r tiroedd o'i hamgylch.
6
A hi a newidiodd fy marnedigaethau i ddrygioni yn fwy na'r cenhedloedd, a'm deddfau yn fwy na'r gwledydd sydd o'i hamgylch: canys gwrthodasant fy marnedigaethau a'm deddfau, ni rodiasant ynddynt.
7
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am i chwi amlhau yn fwy na'r cenhedloedd sydd o'ch amgylch, heb rodio ohonoch yn fy neddfau, na gwneuthur fy marnedigaethau, ac na wnaethoch yn ôl barnedigaethau y cenhedloedd sydd o'ch amgylch;
8
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi, ie, myfi, ydwyf yn dy erbyn, a gwnaf yn dy ganol di farnedigaethau yng ngolwg y cenhedloedd.
9
A gwnaf ynot yr hyn ni wneuthum, ac nis gwnaf ei fath mwy, am dy holl ffieidd‐dra.
10
Am hynny y tadau a fwytânt y plant yn dy fysg di, a'r plant a fwyty eu tadau; a gwnaf ynot farnedigaethau, a mi a daenaf dy holl weddill gyda phob gwynt.
11
Am hynny, fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, Yn ddiau am halogi ohonot fy nghysegr â'th holl ffieidd‐dra ac â'th holl frynti, am hynny hefyd y prinhaf finnau di; ac nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf chwaith.
12
Dy draean fyddant feirw o'r haint, ac a ddarfyddant o newyn, yn dy ganol; a thraean a syrthiant ar y cleddyf o'th amgylch: a thraean a daenaf gyda phob gwynt: a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
13
Felly y gorffennir fy nig, ac y llonyddaf fy llidiowgrwydd yn eu herbyn hwynt, ac ymgysuraf: a hwy a gânt wybod mai myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais yn fy ngwŷn, pan orffennwyf fy llid ynddynt.
14
A rhoddaf di hefyd yn anrhaith, ac yn warth ymysg y cenhedloedd sydd o'th amgylch, yng ngolwg pawb a êl heibio.
15
Yna y bydd y gwaradwydd a'r gwarthrudd yn ddysg ac yn syndod i'r cenhedloedd sydd o'th amgylch, pan wnelwyf ynot farnedigaethau mewn dig, a llidiowgrwydd, a cherydd llidiog. Myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais.
16
Pan anfonwyf arnynt ddrwg saethau newyn, y rhai fyddant i'w difetha, y rhai a ddanfonaf i'ch difetha: casglaf hefyd newyn arnoch, a thorraf eich ffon bara:
17
Anfonaf hefyd arnoch newyn, a bwystfil drwg; ac efe a'th ddiblanta di: haint hefyd a gwaed a dramwya trwot ti; a dygaf gleddyf arnat. Myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48