bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 47
Ezekiel 47
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 46
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 48 →
1
Ac efe a'm dug i drachefn i ddrws y tŷ; ac wele ddwfr yn dyfod allan oddi tan riniog y tŷ tua'r dwyrain: oherwydd wyneb y tŷ oedd tua'r dwyrain; a'r dyfroedd oedd yn disgyn oddi tanodd o ystlys deau y tŷ, o du y deau i'r allor.
2
Ac efe a'm dug i ar hyd ffordd y porth tua'r gogledd, ac a wnaeth i mi amgylchu y ffordd oddi allan hyd y porth nesaf allan ar hyd y ffordd sydd yn edrych tua'r dwyrain; ac wele ddyfroedd yn tarddu ar yr ystlys deau.
3
A phan aeth y gŵr yr hwn oedd â'r llinyn yn ei law allan tua'r dwyrain, efe a fesurodd fil o gufyddau, ac a'm tywysodd i trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y fferau.
4
Ac efe a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y gliniau: ac a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwodd; a'r dyfroedd hyd y lwynau:
5
Ac efe a fesurodd fil eraill; ac afon oedd, yr hon ni allwn fyned trwyddi: canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi.
6
Ac efe a ddywedodd wrthyf, A welaist ti hyn, fab dyn? Yna y'm tywysodd, ac y'm dychwelodd hyd lan yr afon.
7
Ac wedi i mi ddychwelyd, wele ar fin yr afon goed lawer iawn o'r tu yma ac o'r tu acw.
8
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd hyn sydd yn myned allan tua bro y dwyrain, ac a ddisgynnant i'r gwastad, ac a ânt i'r môr: ac wedi eu myned i'r môr, yr iacheir y dyfroedd.
9
A bydd i bob peth byw, yr hwn a ymlusgo, pa le bynnag y delo yr afonydd, gael byw: ac fe fydd pysgod lawer iawn, oherwydd dyfod y dyfroedd hyn yno: canys iacheir hwynt, a phob dim lle y delo yr afon fydd byw.
10
A bydd i'r pysgodwyr sefyll arni, o En‐gedi hyd En‐eglaim; hwy a fyddant yn daenfa rhwydau: eu pysgod fydd yn ôl eu rhyw, fel pysgod y môr mawr, yn llawer iawn.
11
Ei lleoedd lleidiog a'i chorsydd ni iacheir; i halen y rhoddir hwynt.
12
Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o'r ddeutu, bob pren ymborth; ei ddalen ni syrth, a'i ffrwyth ni dderfydd: yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd; oherwydd ei ddyfroedd, hwy a ddaethant allan o'r cysegr: am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a'i ddalen yn feddyginiaeth.
13
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Dyma y terfyn wrth yr hwn y rhennwch y tir yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel: Joseff a gaiff ddwy o rannau.
14
Hefyd chwi a'i hetifeddwch ef, bob un cystal â'i gilydd; am yr hwn y tyngais ar ei roddi i'ch tadau: a'r tir hwn a syrth i chwi yn etifeddiaeth.
15
A dyma derfyn y tir o du y gogledd, o'r môr mawr tua Hethlon, ffordd yr eir i Sedad:
16
Hannath, Berotha, Sibraim, yr hwn sydd rhwng terfyn Damascus a therfyn Hamath: Hasar‐hattichon, yr hwn sydd ar derfyn Hauran.
17
A'r terfyn o'r môr fydd Hasarenan, terfyn Damascus, a'r gogledd tua'r gogledd, a therfyn Hamath. A dyma du y gogledd.
18
Ac ystlys y dwyrain a fesurwch o Hauran, ac o Damascus, ac o Gilead, ac o dir Israel wrth yr Iorddonen, o'r terfyn hyd fôr y dwyrain. A dyma du y dwyrain.
19
A'r ystlys deau tua'r deau, o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, yr afon hyd y môr mawr. A dyma yr ystlys ddeau tua Theman.
20
A thu y gorllewin fydd y môr mawr, o'r terfyn hyd oni ddeler ar gyfer Hamath. Dyma du y gorllewin.
21
Felly y rhennwch y tir hwn i chwi, yn ôl llwythau Israel.
22
Bydd hefyd i chwi ei rannu ef wrth goelbren yn etifeddiaeth i chwi, ac i'r dieithriaid a ymdeithiant yn eich mysg, y rhai a genhedla blant yn eich plith: a byddant i chwi fel un wedi ei eni yn y wlad ymysg meibion Israel; gyda chwi y cânt etifeddiaeth ymysg llwythau Israel.
23
A bydd, ym mha lwyth bynnag yr ymdeithio y dieithr, yno y rhoddwch ei etifeddiaeth ef, medd yr Arglwydd DDUW.
← Chapter 46
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 48 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48