bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 40
Ezekiel 40
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 41 →
1
Yn y bumed flwyddyn ar hugain o'n caethgludiad ni, yn nechrau y flwyddyn, ar y degfed dydd o'r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg wedi taro y ddinas, o fewn corff y dydd hwnnw y daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac a'm dug yno.
2
Yng ngweledigaethau DUW y dug efe fi i dir Israel, ac a'm gosododd ar fynydd uchel iawn, ac arno yr oedd megis adail dinas o du y deau.
3
Ac efe a'm dug yno: ac wele ŵr a'i welediad fel gwelediad pres, ac yn ei law linyn llin, a chorsen fesur: ac yr ydoedd efe yn sefyll yn y porth.
4
A dywedodd y gŵr wrthyf, Ha fab dyn, gwêl â'th lygaid, gwrando hefyd â'th glustiau, a gosod dy galon ar yr hyn oll a ddangoswyf i ti: oherwydd er mwyn dangos i ti hyn y'th ddygwyd yma: mynega i dŷ Israel yr hyn oll a weli.
5
Ac wele fur o'r tu allan i'r tŷ o amgylch ogylch: a chorsen fesur yn llaw y gŵr, yn chwe chufydd o hyd, wrth gufydd a dyrnfedd: ac efe a fesurodd led yr adeiladaeth yn un gorsen, a'r uchder yn un gorsen.
6
Ac efe a ddaeth i'r porth oedd â'i wyneb tua'r dwyrain, ac a ddringodd ar hyd ei risiau ef, ac a fesurodd riniog y porth yn un gorsen o led, a'r rhiniog arall yn un gorsen o led.
7
A phob ystafell oedd un gorsen o hyd, ac un gorsen o led: a phum cufydd oedd rhwng yr ystafelloedd: a rhiniog y porth, wrth gyntedd y porth o'r tu mewn, oedd un gorsen.
8
Efe a fesurodd hefyd gyntedd y porth oddi fewn, yn un gorsen.
9
Yna y mesurodd gyntedd y porth yn wyth gufydd, a'i byst yn ddau gufydd, a chyntedd y porth oedd o'r tu mewn.
10
Ac ystafelloedd y porth tua'r dwyrain oedd dair o'r tu yma, a thair o'r tu acw; un fesur oeddynt ill tair: ac un mesur oedd i'r pyst o'r tu yma ac o'r tu acw.
11
Ac efe a fesurodd led drws y porth yn ddeg cufydd, a hyd y porth yn dri chufydd ar ddeg.
12
A'r terfyn o flaen yr ystafelloedd oedd un cufydd o'r naill du, a'r terfyn o'r tu arall yn un cufydd; a'r ystafelloedd oedd chwe chufydd o'r tu yma, a chwe chufydd o'r tu acw.
13
Ac efe a fesurodd y porth o nen y naill ystafell hyd nen un arall, yn bum cufydd ar hugain o led, drws ar gyfer drws.
14
Ac efe a wnaeth byst o drigain cufydd, a hynny hyd bost y cyntedd, o amgylch ogylch y porth.
15
Ac o wyneb porth y dyfodiad i mewn, hyd wyneb cyntedd y porth oddi mewn, yr oedd deg cufydd a deugain.
16
A ffenestri cyfyng oedd i'r ystafelloedd, ac i'w pyst o fewn y porth o amgylch ogylch; ac felly yr oedd i'r bwâu meini: a ffenestri oedd o amgylch ogylch o fewn; ac yr oedd palmwydd ar bob post.
17
Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf allan, ac wele yno ystafelloedd, a phalmant wedi ei wneuthur i'r cyntedd o amgylch ogylch; deg ystafell ar hugain oedd ar y palmant.
18
A'r palmant gan ystlys y pyrth ar gyfer hyd y pyrth, oedd y palmant oddi tanodd.
19
Ac efe a fesurodd y lled o wyneb y porth isaf hyd wyneb y cyntedd oddi fewn, yn gan cufydd oddi allan tua'r dwyrain a'r gogledd.
20
A'r porth yr hwn oedd â'i wyneb tua'r gogledd, ar y cyntedd nesaf allan, a fesurodd efe, ei hyd a'i led.
21
A'i ystafelloedd ef oedd dair o'r tu yma, a thair o'r tu acw; ac yr ydoedd ei byst, a'i fwâu meini, wrth fesur y porth cyntaf, yn ddeg cufydd a deugain eu hyd, a'r lled yn bum cufydd ar hugain.
22
Eu ffenestri hefyd, a'u bwâu meini, a'u palmwydd, oedd wrth fesur y porth oedd â'i wyneb tua'r dwyrain; ar hyd saith o risiau hefyd y dringent iddo; a'i fwâu meini oedd o'u blaen hwynt.
23
A phorth y cyntedd nesaf i mewn oedd ar gyfer y porth tua'r gogledd, a thua'r dwyrain: ac efe a fesurodd o borth i borth gan cufydd.
24
Wedi hynny efe a'm dug i tua'r deau, ac wele borth tua'r deau, ac efe a fesurodd ei byst a'i fwâu meini wrth y mesurau hyn.
25
Ffenestri hefyd oedd iddo ac i'w fwâu meini, o amgylch ogylch, fel y ffenestri hynny, yn ddeg cufydd a deugain o hyd, ac yn bum cufydd ar hugain o led.
26
Saith o risiau hefyd oedd ei esgynfa ef, a'i fwâu meini o'u blaen hwynt: yr oedd hefyd iddo balmwydd, un o'r tu yma, ac un o'r tu acw, ar ei byst ef.
27
Ac yr oedd porth yn y cyntedd nesaf i mewn tua'r deau: ac efe a fesurodd o borth i borth, tua'r deau, gan cufydd.
28
Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn trwy borth y deau: ac a fesurodd borth y deau wrth y mesurau hyn;
29
A'i ystafelloedd, a'i byst, a'i fwâu meini, wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch: deg cufydd a deugain oedd yr hyd, a phum cufydd ar hugain y lled.
30
A'r bwâu meini o amgylch ogylch oedd bum cufydd ar hugain o hyd, a phum cufydd o led.
31
A'i fwâu meini oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst; ac wyth o risiau oedd ei esgynfa ef.
32
Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn tua'r dwyrain: ac a fesurodd y porth wrth y mesurau hyn.
33
A'i ystafelloedd, a'i byst, a'i fwâu meini, oedd wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo ef, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a'r lled yn bum cufydd ar hugain.
34
A'i fwâu meini oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst o'r tu yma, ac o'r tu acw; a'i esgynfa oedd wyth o risiau.
35
Ac efe a'm dug i borth y gogledd, ac a'i mesurodd wrth y mesurau hyn:
36
Ei ystafelloedd, ei byst, a'i fwâu meini, a'r ffenestri iddo o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a'r lled oedd bum cufydd ar hugain.
37
A'i byst oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd ar ei byst o'r tu yma, ac o'r tu acw; a'i esgynfa oedd wyth o risiau.
38
A'r celloedd a'u drysau oedd wrth byst y pyrth, lle y golchent y poethoffrwm.
39
Ac yng nghyntedd y porth yr oedd dau fwrdd o'r tu yma, a dau fwrdd o'r tu acw, i ladd y poethoffrwm, a'r pech‐aberth, a'r aberth dros gamwedd, arnynt.
40
Ac ar yr ystlys oddi allan, lle y dringir i ddrws porth y gogledd, yr oedd dau fwrdd; a dau fwrdd ar yr ystlys arall, yr hwn oedd wrth gyntedd y porth.
41
Pedwar bwrdd oedd o'r tu yma, a phedwar bwrdd o'r tu acw, ar ystlys y porth; wyth bwrdd, ar y rhai y lladdent eu haberthau.
42
A'r pedwar bwrdd i'r poethoffrwm oedd o gerrig nadd, yn un cufydd a hanner o hyd, ac yn un cufydd a hanner o led, ac yn un cufydd o uchder: arnynt hwy hefyd y gosodent yr offer y rhai y lladdent yr offrwm poeth a'r aberth â hwynt.
43
Hefyd yr oedd bachau, o un ddyrnfedd, wedi eu paratoi o fewn, o amgylch ogylch: a chig yr offrwm oedd ar y byrddau.
44
Ac o'r tu allan i'r porth nesaf i mewn yr oedd ystafelloedd y cantorion o fewn y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn oedd ar ystlys porth y gogledd; a'u hwynebau oedd tua'r deau: un oedd ar ystlys porth y dwyrain, â'i wyneb tua'r gogledd.
45
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr ystafell hon, yr hon sydd â'i hwyneb tua'r deau, sydd i'r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth y tŷ.
46
A'r ystafell yr hon sydd â'i hwyneb tua'r gogledd, sydd i'r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth yr allor: y rhai hyn yw meibion Sadoc, y rhai ydynt o feibion Lefi, yn nesáu at yr ARGLWYDD i weini iddo.
47
Felly efe a fesurodd y cyntedd, yn gan cufydd o hyd, ac yn gan cufydd o led, yn bedeirongl; a'r allor oedd o flaen y tŷ.
48
Ac efe a'm dug i borth y tŷ, ac a fesurodd bob post i'r porth, yn bum cufydd o'r naill du, ac yn bum cufydd o'r tu arall: a lled y porth oedd dri chufydd o'r naill du, a thri chufydd o'r tu arall.
49
Y cyntedd oedd ugain cufydd o hyd, ac un cufydd ar ddeg o led: ac efe a'm dug ar hyd y grisiau ar hyd y rhai y dringent iddo: hefyd yr ydoedd colofnau wrth y pyst, un o'r naill du, ac un o'r tu arall.
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 41 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48