bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 44
Ezekiel 44
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 43
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 45 →
1
Ac efe a wnaeth i mi ddychwelyd ar hyd ffordd porth y cysegr nesaf allan, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain, ac yr oedd yn gaead.
2
Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Y porth hwn fydd gaead; nid agorir ef, ac nid â neb i mewn trwyddo ef: oherwydd ARGLWYDD DDUW Israel a aeth i mewn trwyddo ef; am hynny y bydd yn gaead.
3
I'r tywysog y mae; y tywysog, efe a eistedd ynddo i fwyta bara o flaen yr ARGLWYDD: ar hyd ffordd cyntedd y porth hwnnw y daw efe i mewn, a hyd ffordd yr un yr â efe allan.
4
Ac efe a'm dug i ffordd porth y gogledd o flaen y tŷ: a mi a edrychais, ac wele, llanwasai gogoniant yr ARGLWYDD dŷ yr ARGLWYDD: a mi a syrthiais ar fy wyneb.
5
A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Gosod dy galon, fab dyn, a gwêl â'th lygaid, clyw hefyd â'th glustiau, yr hyn oll yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthyt, am holl ddeddfau tŷ yr ARGLWYDD, ac am ei holl gyfreithiau; a gosod dy feddwl ar ddyfodfa y tŷ, ac ar bob mynedfa allan o'r cysegr.
6
A dywed wrth y gwrthryfelgar, sef tŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Digon i chwi hyn, tŷ Israel, o'ch holl ffieidd‐dra;
7
Gan ddwyn ohonoch ddieithriaid dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, i fod yn fy nghysegr i'w halogi ef, sef fy nhŷ i, pan offrymasoch fy mara, y braster a'r gwaed; a hwy a dorasant fy nghyfamod, oherwydd eich holl ffieidd‐dra chwi.
8
Ac ni chadwasoch gadwraeth fy mhethau cysegredig; eithr gosodasoch i chwi eich hunain geidwaid ar fy nghadwraeth yn fy nghysegr.
9
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Ni ddaw i'm cysegr un mab dieithr dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, o'r holl feibion dieithr y rhai sydd ymysg meibion Israel.
10
A'r Lefiaid y rhai a giliasant ymhell oddi wrthyf, pan gyfeiliornodd Israel, y rhai a grwydrasant oddi wrthyf ar ôl eu delwau, hwy a ddygant eu hanwiredd.
11
Eto hwy a fyddant yn fy nghysegr, yn weinidogion mewn swydd ym mhyrth y tŷ, ac yn gweini i'r tŷ: hwy a laddant yr offrwm poeth, ac aberth y bobl, a hwy a safant o'u blaen hwy i'w gwasanaethu hwynt.
12
Oherwydd gwasanaethu ohonynt hwy o flaen eu heilunod, a bod ohonynt i dŷ Israel yn dramgwydd i anwiredd, am hynny y dyrchefais fy llaw yn eu herbyn hwynt, medd yr Arglwydd DDUW, a hwy a ddygant eu hanwiredd.
13
Ac ni ddeuant yn agos ataf fi i offeiriadu i mi, nac i nesáu at yr un o'm pethau sanctaidd yn y cysegr sancteiddiolaf: eithr dygant eu cywilydd, a'u ffieidd‐dra a wnaethant.
14
Eithr gwnaf hwynt yn geidwaid cadwraeth y tŷ, yn ei holl wasanaeth, ac yn yr hyn oll a wneir ynddo.
15
Yna yr offeiriaid y Lefiaid, meibion Sadoc, y rhai a gadwasant gadwraeth fy nghysegr, pan gyfeiliornodd meibion Israel oddi wrthyf, hwynt‐hwy a nesânt ataf fi i'm gwasanaethu, ac a safant o'm blaen i offrymu i mi y braster a'r gwaed, medd yr Arglwydd IÔR:
16
Hwy a ânt i mewn i'm cysegr, a hwy a nesânt at fy mwrdd i'm gwasanaethu, ac a gadwant fy nghadwraeth.
17
A phan ddelont i byrth y cyntedd nesaf i mewn, gwisgant wisgoedd lliain; ac na ddeued gwlân amdanynt, tra y gwasanaethant ym mhyrth y cyntedd nesaf i mewn, ac o fewn.
18
Capiau lliain fydd am eu pennau hwynt, a llodrau lliain fydd am eu llwynau hwynt: nac ymwregysant â dim a baro chwys.
19
A phan elont i'r cyntedd nesaf allan, sef at y bobl i'r cyntedd oddi allan, diosgant eu gwisgoedd y rhai y gwasanaethasant ynddynt, a gosodant hwynt o fewn celloedd y cysegr, a gwisgant ddillad eraill; ac na chysegrant y bobl â'u gwisgoedd.
20
Eu pennau hefyd nid eilliant, ac ni ollyngant eu gwallt yn llaes: gan dalgrynnu talgrynnant eu pennau.
21
Hefyd, nac yfed un offeiriad win, pan ddelont i'r cyntedd nesaf i mewn.
22
Na chymerant chwaith yn wragedd iddynt wraig weddw, neu ysgaredig; eithr morynion o had tŷ Israel, neu y weddw a fyddo gweddw offeiriad, a gymerant.
23
A dysgant i'm pobl ragor rhwng y sanctaidd a'r halogedig, a gwnânt iddynt wybod gwahan rhwng aflan a glân.
24
Ac mewn ymrafael hwy a safant mewn barn, ac a farnant yn ôl fy marnedigaethau i: cadwant hefyd fy nghyfreithiau a'm deddfau yn fy holl uchel wyliau; a sancteiddiant fy Sabothau.
25
Ni ddeuant chwaith at ddyn marw i ymhalogi: eithr wrth dad, ac wrth fam, ac wrth fab, ac wrth ferch, wrth frawd, ac wrth chwaer yr hon ni bu eiddo gŵr, y gallant ymhalogi.
26
Ac wedi ei buredigaeth y cyfrifir iddo saith niwrnod.
27
A'r dydd yr elo i'r cysegr, o fewn y cyntedd nesaf i mewn, i weini yn y cysegr, offrymed ei bech‐aberth, medd yr Arglwydd DDUW.
28
A bydd yn etifeddiaeth iddynt hwy; myfi yw eu hetifeddiaeth hwy. Ac na roddwch berchenogaeth iddynt hwy yn Israel; myfi yw eu perchenogaeth hwy.
29
Y bwyd‐offrwm, a'r pech‐aberth, a'r aberth dros gamwedd, a fwytânt hwy; a phob peth cysegredig yn Israel fydd eiddynt hwy.
30
A blaenion pob blaenffrwyth o bob peth, a phob offrwm pob dim oll o'ch holl offrymau, fydd eiddo yr offeiriaid: blaenffrwyth eich toes hefyd a roddwch i'r offeiriad, i osod bendith ar dy dŷ.
31
Na fwytaed yr offeiriaid ddim a fu farw ei hun, neu ysglyfaeth o aderyn neu o anifail.
← Chapter 43
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 45 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48