bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 29
Ezekiel 29
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 30 →
1
Yn y degfed mis o'r ddegfed flwyddyn, ar y deuddegfed dydd o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
2
Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a phroffwyda yn ei erbyn ef, ac yn erbyn yr Aifft oll.
3
Llefara, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi i'th erbyn, Pharo brenin yr Aifft, y ddraig fawr yr hwn sydd yn gorwedd yng nghanol ei afonydd, yr hwn a ddywedodd, Eiddof fi yw fy afon, a mi a'i gwneuthum hi i mi fy hun.
4
Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau, a gwnaf i bysgod dy afonydd lynu yn dy emau, a chodaf di o ganol dy afonydd; ie, holl bysgod dy afonydd a lynant wrth dy emau.
5
A mi a'th adawaf yn yr anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd: syrthi ar wyneb y maes, ni'th gesglir, ac ni'th gynullir; i fwystfilod y maes ac i ehediaid y nefoedd y'th roddais yn ymborth.
6
A holl drigolion yr Aifft a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, am iddynt fod yn ffon gorsen i dŷ Israel.
7
Pan ymaflasant ynot erbyn dy law, ti a dorraist, ac a rwygaist eu holl ysgwydd: a phan bwysasant arnat, ti a dorraist, ac a wnaethost i'w holl arennau sefyll.
8
Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn dwyn arnat gleddyf, a thorraf ymaith ohonot ddyn ac anifail.
9
A bydd tir yr Aifft yn ddinistr ac yn anrhaith; a chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: am iddo ddywedyd, Eiddof fi yw yr afon, a myfi a'i gwneuthum.
10
Am hynny wele fi yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy afonydd, a gwnaf dir yr Aifft yn ddiffeithwch anrheithiedig, ac yn anghyfannedd, o dŵr Syene hyd yn nherfyn Ethiopia.
11
Ni chyniwair troed dyn trwyddi, ac ni chyniwair troed anifail trwyddi, ac nis cyfanheddir hi ddeugain mlynedd.
12
A mi a wnaf wlad yr Aifft yn anghyfannedd yng nghanol gwledydd anghyfanheddol, a'i dinasoedd fyddant yn anghyfannedd ddeugain mlynedd yng nghanol dinasoedd anrheithiedig; a mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a'u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd.
13
Eto fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Ymhen deugain mlynedd y casglaf yr Eifftiaid o fysg y bobloedd lle y gwasgarwyd hwynt.
14
A dychwelaf gaethiwed yr Aifft, ie, dychwelaf hwynt i dir Pathros, i dir eu preswylfa; ac yno y byddant yn frenhiniaeth isel.
15
Isaf fydd o'r breniniaethau, ac nid ymddyrchaif mwy oddi ar y cenhedloedd; canys lleihaf hwynt, rhag arglwyddiaethu ar y cenhedloedd.
16
Ac ni bydd hi mwy i dŷ Israel yn hyder, yn dwyn ar gof eu hanwiredd, pan edrychont hwy ar eu hôl hwythau: eithr cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd DDUW.
17
Ac yn y mis cyntaf o'r seithfed flwyddyn ar hugain, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
18
Ha fab dyn, Nebuchodonosor brenin Babilon a wnaeth i'w lu wasanaethu gwasanaeth mawr yn erbyn Tyrus: pob pen a foelwyd, a phob ysgwydd a ddinoethwyd; ond nid oedd am Tyrus gyflog iddo, ac i'w lu, am y gwasanaeth a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi:
19
Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn rhoddi tir yr Aifft i Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a gymer ei lliaws hi, ac a ysbeilia ei hysbail hi, ac a ysglyfaetha ei hysglyfaeth hi, fel y byddo hi yn gyflog i'w lu ef.
20
Am ei waith yr hwn a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi, y rhoddais iddo dir yr Aifft; oherwydd i mi y gweithiasant, medd yr Arglwydd DDUW.
21
Yn y dydd hwnnw y gwnaf i gorn tŷ Israel flaguro, a rhoddaf i tithau agoriad genau yn eu canol hwynt: a chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48