bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 42
Ezekiel 42
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 43 →
1
Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf allan, y ffordd tua'r gogledd; ac a'm dug i'r ystafell oedd ar gyfer y llannerch neilltuol, yr hon oedd ar gyfer yr adail tua'r gogledd.
2
Drws y gogledd oedd ar gyfer hyd y can cufydd, a lled y deg cufydd a deugain.
3
Ar gyfer yr ugain cufydd y rhai oedd i'r cyntedd nesaf i mewn, ac ar gyfer y palmant yr hwn oedd i'r cyntedd nesaf allan, yr ydoedd ystafell ar gyfer ystafell yn dri uchder.
4
Ac o flaen yr ystafelloedd yr oedd rhodfa yn ddeg cufydd o led oddi fewn, ffordd o un cufydd, a'u drysau tua'r gogledd.
5
A'r ystafelloedd uchaf oedd gulion: oherwydd yr ystafelloedd oeddynt uwch na'r rhai hyn, na'r rhai isaf ac na'r rhai canol o'r adeiladaeth.
6
Canys yn dri uchder yr oeddynt hwy, ac heb golofnau iddynt fel colofnau y cynteddoedd: am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na'r rhai isaf ac na'r rhai canol o'r llawr i fyny.
7
A'r mur yr hwn oedd o'r tu allan ar gyfer yr ystafelloedd, tua'r cyntedd nesaf allan o flaen yr ystafelloedd, oedd ddeg cufydd a deugain ei hyd.
8
Oherwydd hyd yr ystafelloedd y rhai oedd yn y cyntedd nesaf allan oedd ddeg cufydd a deugain: ac wele, o flaen y deml yr oedd can cufydd.
9
Ac oddi tan yr ystafelloedd hyn yr ydoedd mynediad i mewn o du y dwyrain, ffordd yr elid iddynt hwy o'r cyntedd nesaf allan.
10
O fewn tewder mur y cyntedd tua'r dwyrain, ar gyfer y llannerch neilltuol, ac ar gyfer yr adeiladaeth, yr oedd yr ystafelloedd.
11
A'r ffordd o'u blaen hwynt oedd fel gwelediad yr ystafelloedd y rhai oedd tua'r gogledd; un hyd â hwynt oeddynt, ac un lled â hwynt: a'u holl fynediad allan oedd yn ôl eu dull hwynt, ac yn ôl eu drysau hwynt.
12
Ac fel drysau yr ystafelloedd y rhai oedd tua'r deau, yr oedd drws ym mhen y ffordd, y ffordd ym mhen y mur yn union tua'r dwyrain, yn y ddyfodfa i mewn.
13
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y deau, y rhai sydd ar gyfer y llannerch neilltuol, ystafelloedd sanctaidd yw y rhai hynny, lle y bwyty yr offeiriaid y rhai a nesânt at yr ARGLWYDD, y pethau sanctaidd cysegredig: yno y gosodant y sanctaidd bethau cysegredig, a'r bwyd‐offrwm, a'r pech‐aberth, a'r aberth dros gamwedd; canys y lle sydd sanctaidd.
14
A phan elo yr offeiriaid i mewn iddynt, nid ânt allan o'r cysegr i'r cyntedd nesaf allan, eithr yno y gosodant eu dillad y rhai y gwasanaethant ynddynt; am eu bod yn sanctaidd; ac a wisgant wisgoedd eraill, ac a nesânt at yr hyn a berthyn i'r bobl.
15
Pan orffenasai efe fesuro y tŷ oddi fewn, efe a'm dug i tua'r porth sydd â'i wyneb tua'r dwyrain, ac a'i mesurodd ef o amgylch ogylch.
16
Efe a fesurodd du y dwyrain â chorsen fesur, yn bum cant o gorsennau, wrth y gorsen fesur oddi amgylch.
17
Efe a fesurodd du y gogledd yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur oddi amgylch.
18
Y tu deau a fesurodd efe yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur.
19
Efe a aeth o amgylch i du y gorllewin, ac a fesurodd bum can corsen, wrth y gorsen fesur.
20
Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef: mur oedd iddo ef o amgylch ogylch, yn bum can corsen o hyd, ac yn bum can corsen o led, i wahanu rhwng y cysegr a'r digysegr.
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 43 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48