bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 1
Isaiah 1
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 2 →
1
Gweledigaeth Eseia fab Amos. (Dyma welodd e am Jwda a Jerwsalem yn ystod y blynyddoedd pan oedd Wseia, Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd Jwda.)
2
Gwranda nefoedd! Clyw ddaear! Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dw i wedi magu plant a gofalu amdanyn nhw — ond maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.
3
Mae ychen yn nabod ei berchennog ac asyn yn gwybod ble mae cafn bwydo ei feistr: ond dydy Israel ddim yn fy nabod i; dydy fy mhobl i'n cymryd dim sylw!”
4
O! druan ohonot ti'r wlad sy'n pechu! Pobl sy'n llawn drygioni! Nythaid o rai sy'n gwneud drwg! Plant pwdr! Maen nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, A dirmygu Un Sanctaidd Israel, Maen nhw wedi pellhau oddi wrtho.
5
Pam dych chi'n dal ati i wrthryfela? Ydych chi eisiau cael eich curo eto? Mae briwiau ar bob pen a'r corff yn hollol wan.
6
Does unman yn iach o'r corun i'r sawdl: Dim ond clwyfau a chleisiau, a briwiau agored — Heb eu gwella na'u rhwymo, ac heb olew i'w hesmwytho.
7
Mae eich gwlad fel anialwch, a'ch dinasoedd wedi eu llosgi'n ulw; Mae dieithriaid yn bwyta eich cnydau o flaen eich llygaid — Anialwch wedi ei ddinistrio gan estroniaid!
8
Dim ond Seion hardd sydd ar ôl — fel caban yng nghanol gwinllan, neu gwt mewn gardd lysiau; fel dinas yn cael ei gwarchae.
9
Oni bai fod yr ARGLWYDD holl-bwerus wedi gadael i rai pobl fyw, bydden ni wedi'n dinistrio fel Sodom, neu wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra.
10
Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, arweinwyr Sodom! Gwrandwch ar beth mae Duw'n ei ddysgu i chi, bobl Gomorra!
11
“Beth ydy pwynt eich holl aberthau chi?” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i wedi cael llond bol o hyrddod yn offrymau i'w llosgi, o fraster anifeiliaid a gwaed teirw. Dw i ddim eisiau eich ŵyn a'ch bychod geifr chi.
12
Dych chi'n ymddangos o'm blaen i — Ond pwy ofynnodd i chi ddod i stompio drwy'r deml?
13
Stopiwch ddod â'ch offrymau diystyr! Mae'r arogldarth yn troi arna i! Dych chi'n dathlu Gŵyl y lleuad newydd a'r Sabothau, ac yn cynnal cyfarfodydd eraill, Ond alla i ddim diodde'r drygioni sy'n mynd gyda'ch dathliadau crefyddol chi.
14
Dw i'n casáu'r lleuadau newydd a'ch gwyliau eraill chi. Maen nhw'n faich arna i; alla i mo'i diodde nhw.
15
Pan fyddwch chi'n codi'ch dwylo i weddïo, bydda i'n edrych i ffwrdd. Gallwch chi weddïo faint fynnoch chi, ond fydda i ddim yn gwrando. Mae gwaed ar eich dwylo chi!
16
Ymolchwch! Byddwch yn lân! Ewch â'r pethau drwg dych chi'n eu gwneud allan o'm golwg i! Stopiwch wneud drwg;
17
Dysgwch wneud da. Brwydrwch dros gyfiawnder; o blaid y rhai sy'n cael eu gorthrymu. Cefnogwch hawliau plant amddifad, a dadlau dros achos y weddw.
18
Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,” —meddai'r ARGLWYDD. “Os ydy'ch pechodau chi'n goch llachar, gallan nhw droi'n wyn fel yr eira; Os ydyn nhw'n goch tywyll, gallan nhw fod yn wyn fel gwlân.
19
Os dych chi'n fodlon gwrando a gwneud be dw i'n ddweud, cewch fwyta cynnyrch da'r tir;
20
Ond os byddwch chi'n ystyfnig ac yn gwrthod gwrando, byddwch chi'n cael eich difa gan y cleddyf,” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
21
Ond o! Mae Seion wedi troi'n butain. Roedd hi'n ddinas ffyddlon, yn llawn o bobl yn gwneud beth oedd yn iawn. Cyfiawnder oedd yn arfer byw ynddi — ond bellach llofruddion.
22
Mae dy arian wedi ei droi'n amhuredd; mae dy win wedi ei gymysgu â dŵr!
23
Mae dy arweinwyr wedi gwrthryfela, ac yn ffrindiau i ladron; Maen nhw i gyd yn hoffi breib, Ac yn chwilio am wobr. Wnân nhw ddim amddiffyn plentyn amddifad na gwrando ar achos y weddw.
24
Felly, dyma mae'r Meistr yn ei ddweud (yr ARGLWYDD holl-bwerus), Arwr Israel! — “O! bydda i'n dangos fy nig i'r rhai sy'n fy erbyn! Bydda i'n dial ar fy ngelynion!
25
Bydda i'n ymosod arnat ac yn symud dy amhuredd â thoddydd. Bydda i'n cael gwared â'r slag i gyd!
26
Bydda i'n rhoi barnwyr gonest i ti fel o'r blaen, a cynghorwyr doeth, fel roedden nhw ers talwm. Wedyn byddi di'n cael dy alw ‛Y Ddinas Gyfiawn‛, ‛Tref Ffyddlon‛.”
27
Bydd Seion yn cael ei gollwng yn rhydd pan ddaw'r dyfarniad; a'r rhai sy'n troi'n ôl yn cael cyfiawnder.
28
Ond bydd y rhai sydd wedi gwrthryfela a phechu yn cael eu sathru; Bydd hi wedi darfod ar y rhai sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD.
29
Bydd gynnoch chi gywilydd o'r coed derw cysegredig oeddech chi mor hoff ohonyn nhw. Byddwch chi wedi drysu o achos y gerddi paganaidd oeddech wedi eu dewis.
30
Byddwch fel coeden dderwen â'i dail wedi gwywo, neu fel gardd sydd heb ddŵr.
31
Bydd y rhai cryf fel fflwff, a'u gwaith fel gwreichionen. Bydd y ddau yn llosgi gyda'i gilydd, a neb yn gallu diffodd y tân!
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66