bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 41
Isaiah 41
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 42 →
1
Byddwch dawel a gwrando, ynysoedd; dw i am i'r bobloedd gael nerth newydd. Boed iddyn nhw nesáu i ddweud eu dweud. Gadewch i ni ddod at ein gilydd yn y llys barn.
2
Pwy sydd wedi codi'r un o'r dwyrain? Pwy mae Cyfiawnder yn ei alw i'w ddilyn? Mae'n rhoi gwledydd iddo eu concro, ac i fwrw eu brenhinoedd i lawr. Mae ei gleddyf yn eu gwneud fel llwch, a'i fwa yn eu gyrru ar chwâl fel us.
3
Mae'n mynd ar eu holau, ac yn pasio heibio'n ddianaf; dydy ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr!
4
Pwy sydd wedi gwneud hyn i gyd? Pwy alwodd y cenedlaethau o'r dechrau? — Fi, yr ARGLWYDD, oedd yno ar y dechrau a bydda i yno yn y diwedd hefyd. Fi ydy e!
5
Mae'r ynysoedd yn gweld, ac maen nhw'n ofni, mae pob cwr o'r ddaear yn crynu. Dyma nhw'n dod, maen nhw'n agos!
6
Maen nhw'n helpu ei gilydd, ac mae un yn annog y llall, “Bydd yn ddewr!”
7
Mae'r saer coed yn annog y gof aur, a'r un sy'n bwrw gyda'r morthwyl yn annog yr un sy'n taro'r einion. Mae'n canmol y gwaith sodro, “Mae'n dda!” ac yna'n ei hoelio'n saff, a dweud “Fydd hwnna ddim yn symud!”
8
Ond Israel, ti ydy fy ngwas i, Jacob, ti dw i wedi ei ddewis — disgynyddion Abraham, fy ffrind i.
9
Des i â ti yma o bell, a'th alw o ben draw'r byd; a dweud wrthot ti: “Ti ydy fy ngwas i.” Dw i wedi dy ddewis di! Dw i ddim wedi troi cefn arnat ti!
10
Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn — fi ydy dy Dduw di! Dw i'n dy nerthu di ac yn dy helpu di, Dw i'n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde.
11
Bydd pawb sy'n codi yn dy erbyn di yn cael eu cywilyddio a'i drysu. Bydd y rhai sy'n ymladd yn dy erbyn di yn diflannu ac yn marw.
12
Byddi'n edrych am y rhai sy'n ymosod arnat ti ac yn methu dod o hyd iddyn nhw. Bydd y rhai sy'n rhyfela yn dy erbyn di yn diflannu ac yn peidio â bod.
13
Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: “Paid bod ag ofn. Bydda i'n dy helpu di.”
14
Paid bod ag ofn, y pryf Jacob, y lindys bach Israel — Bydda i'n dy helpu di! —meddai'r ARGLWYDD— Fi sy'n dy ryddhau di, sef Un Sanctaidd Israel.
15
Bydda i'n dy wneud di yn llusg dyrnu — un newydd, hefo llawer iawn o ddannedd. Byddi'n dyrnu mynyddoedd a'u malu ac yn gwneud bryniau fel us.
16
Byddi'n eu nithio nhw, a bydd gwynt stormus yn eu chwythu i ffwrdd. Bydd corwynt yn eu gyrru ar chwâl. Ond byddi di yn llawenhau yn yr ARGLWYDD, Ac yn canu mawl i Un Sanctaidd Israel.
17
Ond am y bobl dlawd ac anghenus sy'n chwilio am ddŵr ac yn methu cael dim; ac sydd bron tagu gan syched: bydda i, yr ARGLWYDD, yn eu hateb nhw; fydda i, Duw Israel, ddim yn eu gadael nhw.
18
Bydda i'n gwneud i nentydd lifo ar y bryniau anial, ac yn agor ffynhonnau yn y dyffrynnoedd. Bydda i'n troi'r anialwch yn byllau dŵr, a'r tir sych yn ffynhonnau.
19
Bydda i'n plannu coed cedrwydd yno, coed acasia, myrtwydd, ac olewydd; bydda i'n gosod coed cypres, coed llwyfen a choed pinwydd hefyd —
20
er mwyn i bobl weld a gwybod, ystyried a sylweddoli, mai'r ARGLWYDD sydd wedi gwneud hyn, ac mai Un Sanctaidd Israel sydd wedi peri iddo ddigwydd.
21
“Cyflwynwch eich achos,” meddai'r ARGLWYDD. “Sut ydych chi am bledio?”, meddai Brenin Jacob.
22
“Dewch â'ch duwiau yma i ddweud wrthon ni beth sy'n mynd i ddigwydd. Beth am ddweud wrthon ni beth broffwydon nhw yn y gorffennol? — i ni allu penderfynu wrth weld y canlyniadau. Neu ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol?
23
Dwedwch wrthon ni beth sydd i ddod, er mwyn i ni gael gwybod eich bod chi'n dduwiau! Gwnewch rywbeth — da neu ddrwg — fydd yn ein rhyfeddu ni!
24
Ond y gwir ydy, dych chi ddim yn bod; allwch chi wneud dim byd o gwbl! Mae rhywun sy'n dewis eich addoli chi yn ffiaidd!
25
Fi wnaeth godi'r un o'r gogledd, ac mae wedi dod; yr un o'r dwyrain sy'n galw ar fy enw i. Mae wedi sathru arweinwyr fel sathru mwd, neu fel mae crochenydd yn sathru clai.
26
Pwy arall ddwedodd am hyn wrthon ni o'r dechrau? Pwy wnaeth ddweud am y peth ymlaen llaw, i ni allu dweud, ‘Roedd e'n iawn!’? Wnaeth neb sôn am y peth — ddwedodd neb ddim. Na, does neb wedi'ch clywed chi'n dweud gair!
27
Fi wnaeth ddweud gyntaf wrth Seion: ‘Edrychwch! Maen nhw'n dod!’ Fi wnaeth anfon negesydd gyda newyddion da i Jerwsalem!
28
Dw i'n edrych, a does yr un o'r rhain yn gallu rhoi cyngor nac ateb cwestiwn gen i.
29
Y gwir ydy, mae'n nhw'n afreal — dŷn nhw'n gallu gwneud dim byd o gwbl! Mae eu delwau metel mor ddisylwedd ag anadl!
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 42 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66