bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 49
Isaiah 49
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 50 →
1
Gwrandwch arna i, ynysoedd! Daliwch sylw, chi bobloedd o bell: Galwodd yr ARGLWYDD fi cyn i mi gael fy ngeni, Rhoddodd fy enw i mi pan oeddwn i'n dal yng nghroth fy mam.
2
Gwnaeth fy ngheg fel cleddyf miniog, a chuddiodd fi dan gysgod ei law. Gwnaeth fi fel saeth loyw; a chuddiodd fi yn ei gawell.
3
Dwedodd wrtho i, “Ti ydy fy ngwas i, Israel, y caf fy anrhydeddu trwyddi.”
4
Meddyliais fy mod wedi gweithio'n galed i ddim byd, a gwastraffu fy holl egni i ddim pwrpas. Ond mae fy achos yn llaw'r ARGLWYDD, a bydd fy Nuw yn rhoi fy ngwobr i mi.
5
Nawr, mae'r ARGLWYDD — wnaeth fy llunio i yn y groth i fod yn was iddo — yn dweud ei fod am adfer pobl Jacob a dod ag Israel yn ôl ato'i hun. Bydda i wedi fy anrhydeddu yng ngolwg yr ARGLWYDD, am mai Duw sy'n fy nerthu i.
6
Yna dwedodd, “Mae'n beth rhy fach i ti fod yn was i mi dim ond i godi llwythau Jacob ar eu traed ac adfer yr ychydig rai fydd ar ôl yn Israel. Bydda i'n dy wneud di yn olau i'r cenhedloedd, er mwyn i bobl o ben draw'r byd gael eu hachub.”
7
Dyma mae'r ARGLWYDD — sy'n rhyddhau Israel, yr Un Sanctaidd — yn ei ddweud wrth yr un sy'n cael ei dirmygu; cenedl sy'n cael ei ffieiddio, a gwas y rhai sy'n llywodraethu: “Bydd brenhinoedd yn gweld ac yn codi ar eu traed, a bydd tywysogion yn ymgrymu, am fod yr ARGLWYDD, sydd wedi bod mor ffyddlon, Un Sanctaidd Israel wedi dy ddewis di.”
8
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydda i'n dy ateb di pan fydd yr amser yn iawn, ac yn dy helpu di pan ddaw'r dydd i mi achub. Fi sydd wedi dy siapio di, a dy benodi di'n ganolwr fy ymrwymiad i'r bobl — bydda i'n adfer y wlad, ac yn rhoi'r hawliau ar y tir yn ôl i'w phobl.
9
Byddi'n dweud wrth garcharorion, ‘Cewch fod yn rhydd,’ ac wrth y rhai sy'n y tywyllwch, ‘Dewch i'r golwg.’ Byddan nhw fel defaid yn pori ar ochr y ffyrdd, ac yn cael porfa ar lethrau'r bryniau.
10
Fydd dim syched nag eisiau bwyd arnyn nhw; fydd y gwynt poeth a'r haul ddim yn eu taro nhw. Achos bydd yr un sy'n eu caru nhw yn eu harwain, ac yn mynd â nhw at ffynhonnau o ddŵr.
11
Bydda i'n gwneud y mynyddoedd yn ffordd agored, ac yn adeiladu priffyrdd amlwg.”
12
Edrychwch! Mae rhai yn dod o bell. Edrychwch! Mae rhai yn dod o'r gogledd, eraill o'r gorllewin, a rhai o wlad Sinim.
13
Cân nefoedd, a dathla, ddaear! Torrwch allan i ganu'n llawen, fynyddoedd! Achos mae'r ARGLWYDD wedi cysuro ei bobl, ac wedi tosturio wrth y rhai fu'n dioddef.
14
“Dwedodd Seion, ‘Mae'r ARGLWYDD wedi troi cefn arna i; mae fy Meistr wedi fy anghofio i.’
15
Ydy gwraig yn gallu anghofio'r babi ar ei bron? Ydy hi'n gallu peidio dangos tosturi at ei phlentyn? Hyd yn oed petaen nhw yn anghofio, fyddwn i'n sicr ddim dy anghofio di!
16
Dw i wedi cerfio dy enw ar gledrau fy nwylo! Wna i byth golli golwg ar dy waliau di.
17
Bydd dy adeiladwyr yn gweithio'n gyflymach na'r rhai wnaeth dy ddinistrio di; mae'r rhai achosodd y fath lanast wedi mynd!
18
Edrych o dy gwmpas! Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw'n dod atat ti! Mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn— “byddi di'n eu gwisgo nhw fel gemau, ac fel priodferch yn ei gwisg briodas.
19
Er dy fod wedi dy daro, dy ddifetha a dy ddinistrio fel gwlad, bellach fydd dim digon o le i bawb sydd am fyw ynot ti, a bydd y rhai wnaeth dy ddinistrio yn bell i ffwrdd.
20
Bydd y plant gafodd eu geni yn y cyfnod o golled yn dweud yn dy glyw di, ‘Mae hi'n rhy gyfyng yn y lle yma; symudwch i wneud lle i ni!’
21
A byddi di'n meddwl i ti dy hun, ‘Pwy gafodd y plant yma i mi? Roeddwn i'n weddw ac yn methu cael plant. Roeddwn wedi cael fy ngwrthod a'm gadael — felly pwy fagodd y rhain? Roeddwn wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun — felly o ble daeth y rhain i gyd?’”
22
Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dw i'n gwneud arwydd i alw'r cenhedloedd, ac yn codi fy maner i'r bobloedd. Byddan nhw'n cario dy feibion yn eu côl, a dy ferched ar eu hysgwyddau.
23
Bydd brenhinoedd yn gofalu amdanat ti, a breninesau yn famau maeth. Byddan nhw'n plygu o'th flaen a'u hwynebau ar lawr, ac yn llyfu'r llwch wrth dy draed di. A byddi di'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD — fydd y rhai sydd a'u gobaith ynof fi ddim yn cael eu siomi.
24
Ydy'n bosib dwyn ysbail oddi ar ryfelwr, neu ryddhau caethion o law gormeswr?”
25
Wel, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd caethion yn cael eu cymryd oddi ar ryfelwr, ac ysbail yn cael ei ddwyn oddi ar ormeswr; Bydda i'n ymladd gyda dy elynion di, ac yn achub dy blant di.
26
Bydda i'n gwneud i dy ormeswyr fwyta eu cnawd eu hunain; byddan nhw'n meddwi ar eu gwaed eu hunain, fel ar win melys. A bydd y ddynoliaeth gyfan yn gwybod mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dy achub di ac yn dy ollwng yn rhydd — Un Cryf Jacob!”
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 50 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66