bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 66
Isaiah 66
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 65
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
1
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a'r ddaear ydy fy stôl droed i. Ble allech chi adeiladu teml fel yna i mi? Ble dych chi am ei roi i mi i orffwys?
2
Onid fi sydd wedi creu popeth sy'n bodoli? Fi ddaeth â nhw i fod!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Ac eto dyma pwy dw i'n cymryd sylw ohonyn nhw: Y rhai tlawd sy'n teimlo'n annigonol ac sy'n parchu fy neges.
3
Ond am y bobl sy'n lladd ychen ac yna'n llofruddio rhywun, yn aberthu oen ac yna'n torri gwddf ci, yn cyflwyno offrwm o rawn ac yna'n aberthu gwaed moch, yn llosgi arogldarth ac yna'n addoli eilun-dduwiau — maen nhw wedi dewis mynd eu ffordd eu hunain ac yn mwynhau gwneud y pethau ffiaidd yma —
4
bydda i'n dewis eu cosbi nhw'n llym, a throi eu hofnau gwaetha yn realiti. Pan oeddwn i'n galw, wnaeth neb ateb; pan oeddwn i'n siarad, doedd neb yn gwrando. Roedden nhw'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu, ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
5
Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi sy'n parchu beth mae'n ei ddweud! Mae eich pobl eich hunain yn eich casáu chi a'ch cau chi allan am sefyll drosta i. Maen nhw'n dweud yn wawdlyd: “Boed i'r ARGLWYDD gael ei anrhydeddu, i ni eich gweld chi'n cael eich gwneud yn hapus.” Ond byddan nhw'n cael eu cywilyddio.
6
Gwrandwch! Mae twrw yn dod o'r ddinas, a sŵn yn dod o'r deml! Sŵn yr ARGLWYDD yn talu'n ôl i'w elynion.
7
All gwraig gael plentyn heb boenau geni? All hi eni mab cyn i'r pyliau ddechrau?
8
Na! Pwy glywodd am y fath beth? Pwy welodd rywbeth felly'n digwydd? Ydy gwlad yn geni plant mewn diwrnod? Ydy cenedl yn dod i fod mewn moment? Ond dyma Seion newydd ddechrau esgor ac mae eisoes wedi cael ei phlant!
9
“Fyddwn i'n gadael i'r dŵr dorri heb eni plentyn?” —yr ARGLWYDD sy'n gofyn. “Fyddwn i'n dechrau'r broses eni, ac yna'n ei rhwystro?” —ie, dy Dduw sy'n gofyn.
10
Byddwch yn llawen dros Jerwsalem a dathlu gyda hi, bawb ohonoch chi sy'n ei charu! Ymunwch yn y dathlu, chi fu'n galaru drosti —
11
i chi gael sugno ei bronnau a chael eich bodloni, cael blas wrth lepian ar hyfrydwch ei thethi.
12
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n rhoi iddi heddwch perffaith fel afon, a bydd cyfoeth y cenhedloedd fel ffrwd yn gorlifo iddi. Byddwch yn cael sugno ei bronnau a'ch cario fel babi, ac yn chwarae ar ei gliniau fel plentyn bach.
13
Bydda i'n eich cysuro chi fel mam yn cysuro ei phlentyn; byddwch chi'n cael eich cysuro yn Jerwsalem.”
14
Byddwch wrth eich bodd wrth weld hyn, a bydd eich corff cyfan yn cael ei adnewyddu. Bydd hi'n amlwg fod nerth yr ARGLWYDD gyda'i weision; ond ei fod wedi digio gyda'i elynion.
15
Ydy, mae'r ARGLWYDD yn dod mewn tân ac mae sŵn ei gerbydau fel corwynt. Mae'n dod i ddangos ei fod yn ddig, ac i geryddu gyda fflamau tân.
16
Achos bydd yr ARGLWYDD yn barnu pawb hefo tân a gyda'i gleddyf, a bydd llawer yn cael eu lladd ganddo.
17
“Mae hi ar ben ar bawb sy'n cysegru eu hunain a mynd trwy'r ddefod o ‛buro‛ eu hunain i ddilyn yr un yn y canol ac addoli yn y gerddi paganaidd, gan wledda ar gig moch a phethau ffiaidd eraill fel llygod,” meddai'r ARGLWYDD.
18
“Dw i'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud a'i feddwl. Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd i gyd, a phobl o bob iaith, iddyn nhw ddod a gweld fy ysblander i.
19
Bydda i'n gosod arwydd yn eu canol nhw, ac anfon at y cenhedloedd rai o'r bobl fydd wedi llwyddo i ddianc: i Tarshish, at y Libiaid a'r Lydiaid (y rhai sy'n defnyddio bwa saeth); i Twbal, Groeg, a'r ynysoedd pell sydd heb glywed sôn amdana i na gweld fy ysblander i. Byddan nhw'n dweud wrth y cenhedloedd am fy ysblander i.
20
A byddan nhw'n dod â'ch perthnasau o'r gwledydd i gyd yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dod â nhw ar gefn ceffylau, mewn wagenni a throlïau, ar gefn mulod a chamelod, i Jerwsalem, fy mynydd sanctaidd”—meddai'r ARGLWYDD—“yn union fel mae pobl Israel yn dod ag offrwm o rawn i deml yr ARGLWYDD mewn llestr glân.
21
A bydda i'n dewis rhai ohonyn nhw i fod yn offeiriaid ac yn Lefiaid,” meddai'r ARGLWYDD.
22
“Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydd dw i'n mynd i'w gwneud yn aros am byth o'm blaen i” —meddai'r ARGLWYDD— “felly y bydd eich plant a'ch enw chi yn aros.
23
O un Ŵyl y lleuad newydd i'r llall, ac o un saboth i saboth arall, bydd pawb yn dod i addoli o'm blaen i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
24
“Byddan nhw'n mynd allan ac yn gweld cyrff y rhai hynny oedd wedi gwrthryfela yn fy erbyn i: Fydd y cynrhon ynddyn nhw ddim yn marw, na'r tân sy'n eu llosgi nhw yn diffodd; byddan nhw'n ffiaidd yng ngolwg pawb.”
← Chapter 65
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66