bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 5
Isaiah 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 6 →
1
Gad i mi ganu cân i'm cariad annwyl — Cân fy nghariad am ei winllan. Roedd gan fy nghariad winllan ar fryn oedd yn ffrwythlon iawn.
2
Palodd y tir a chlirio'r cerrig, a phlannu gwinwydden arbennig ynddi. Adeiladodd dŵr gwylio yn ei chanol, a naddu gwinwasg ynddi. Roedd yn disgwyl cael grawnwin da, ond gafodd e ddim ond rhai drwg.
3
Felly, chi bobl Jerwsalem a'r rhai sy'n byw yn Jwda — Beth ydy'ch barn chi? Beth ddylwn ni ei wneud gyda'm gwinllan?
4
Oedd yna rywbeth mwy y gallwn ei wneud i'm gwinllan nag a wnes i? Pan oeddwn i'n disgwyl cael grawnwin da pam ges i ddim ond rhai drwg?
5
Nawr, gadewch i mi ddweud wrthoch chi be dw i'n mynd i wneud gyda'm gwinllan: Dw i'n mynd i symud ei chlawdd iddi gael ei dinistrio; a chwalu'r wal iddi gael ei sathru dan draed.
6
Bydda i'n ei gwneud yn dir diffaith; fydd neb yn ei thocio na'i chwynnu, a bydd yn tyfu'n wyllt gyda mieri a drain. A bydda i'n gorchymyn i'r cymylau beidio glawio arni.
7
Gwinllan yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy pobl Israel, a'r planhigion ofalodd amdanyn nhw ydy pobl Jwda. Roedd yn disgwyl gweld cyfiawnder, ond trais a gafodd. Roedd yn disgwyl am degwch, ond gwaedd daer a glywodd!
8
Gwae y rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ, ac yn ychwanegu cae at gae, nes bod dim lle i neb arall fyw yn y wlad!
9
Dw i wedi clywed yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud: Bydd llawer o dai yn cael eu dinistrio, Fydd neb yn byw yn y tai mawr, crand.
10
Bydd deg acer o winllan yn rhoi llai na chwe galwyn o win; a chae lle heuwyd deg mesur o had yn rhoi ond un mesur yn ôl.
11
Gwae'r rhai sy'n codi'n fore i yfed diod feddwol, ac yn aros ar eu traed gyda'r nos dan ddylanwad gwin.
12
Y rhai sy'n cael partïon gyda'r delyn a'r nabl, y drwm a'r pib — a gwin! Ond sy'n cymryd dim sylw o'r ARGLWYDD, nac yn gweld beth mae'n ei wneud.
13
Felly, bydd fy mhobl yn cael eu caethgludo am beidio cymryd sylw. Bydd y bobl fawr yn marw o newyn, a'r werin yn gwywo gan syched.
14
Bydd chwant bwyd ar fyd y meirw, bydd yn agor ei geg yn anferth, a bydd ysblander Jerwsalem a'i chyffro, ei sŵn a'i sbri yn llithro i lawr iddo.
15
Bydd pobl yn cael eu darostwng a pawb yn cywilyddio; bydd llygaid y balch wedi syrthio.
16
Ond bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus wedi ei ddyrchafu trwy ei gyfiawnder; a'r Duw sanctaidd wedi profi ei fod yn sanctaidd drwy ei degwch.
17
Bydd ŵyn yn pori yno fel yn eu cynefin, a chrwydriaid yn bwyta yn adfeilion y cyfoethog.
18
Gwae'r rhai sy'n llusgo drygioni gyda rhaffau twyll, a llusgo pechod ar eu holau fel trol!
19
Y rhai sy'n dweud, “Gadewch iddo wneud rhywbeth yn sydyn, i ni gael gweld; Gadewch i ni weld pwrpas Un Sanctaidd Israel, i ni gael gwybod beth ydy e!”
20
Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda a da yn ddrwg; sy'n dweud fod tywyllwch yn olau a golau yn dywyllwch; sy'n galw'r chwerw yn felys a'r melys yn chwerw!
21
Gwae'r rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n ddoeth, ac yn ystyried eu hunain mor glyfar!
22
Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin — ac yn meddwl eu bod nhw'n rêl bois wrth gymysgu'r diodydd!
23
Y rhai sy'n gollwng troseddwyr yn rhydd am freib, ac yn gwrthod rhoi dedfryd gyfiawn i'r dieuog.
24
Felly, fel gwellt yn llosgi yn y fflamau a gwair yn crino yn y gwres, bydd eu gwreiddiau yn pydru, a'u blagur yn cael ei chwythu ymaith fel llwch. Am eu bod wedi gwrthod beth mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddysgu, a chymryd dim sylw o neges Un Sanctaidd Israel.
25
Dyna pam roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda'i bobl. Dyna pam wnaeth e droi yn eu herbyn nhw, a'u taro nhw. Roedd y mynyddoedd yn crynu, a'r cyrff yn gorwedd fel sbwriel ar y strydoedd. Ac eto wnaeth Duw ddim tawelu, roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
26
Bydd e'n codi baner i alw cenedl o bell, ac yn chwibanu ar un o ben draw'r byd. Ac edrychwch, maen nhw'n dod ar ras wyllt!
27
Does neb yn blino nac yn baglu'n ei rhengoedd; neb yn pendwmpian nac yn cysgu; neb â'i felt wedi ei datod, na charrai ei esgid wedi torri.
28
Mae eu saethau'n finiog, a'u bwâu i gyd yn dynn. Mae carnau'r meirch yn galed fel carreg, ac olwynion eu cerbydau yn troi fel corwynt.
29
Mae eu rhuad fel llew, maen nhw'n rhuo fel llewod ifanc sy'n chwyrnu wrth ddal yr ysglyfaeth a'i lusgo i ffwrdd — all neb ei achub!
30
Bryd hynny, bydd sŵn y rhuo fel tonnau'r môr yn taro'r tir. Wrth edrych tua'r tir gwelir tywyllwch ac argyfwng, a'r golau'n troi'n dywyllwch yn y cymylau o ewyn.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66