bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 51
Isaiah 51
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 50
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 52 →
1
“Gwrandwch arna i, chi sy'n awyddus i wneud beth sy'n iawn, ac yn ceisio'r ARGLWYDD: Ystyriwch y graig y cawsoch eich naddu ohoni, a'r chwarel y cawsoch eich cloddio ohoni.
2
Meddyliwch am Abraham, eich tad, a Sara, y cawsoch eich geni iddi. Roedd ar ei ben ei hun pan wnes i alw arno, ond bendithiais e, a'i wneud yn llawer.
3
Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, bydd yn cysuro ei hadfeilion. Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden, a'i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD. Bydd llawenydd a dathlu i'w glywed ynddi, lleisiau'n diolch a sŵn canu.
4
Gwrandwch arna i, fy mhobl; daliwch sylw, fy nghenedl. Achos bydda i'n dysgu pobl, a bydd fy nghyfiawnder yn olau i'r bobloedd.
5
Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn, dw i ar fy ffordd i achub, a bydd fy mraich gref yn rheoli pobloedd. Bydd yr ynysoedd yn troi ata i, ac yn disgwyl yn frwd i mi ddangos fy nerth.
6
Edrychwch i fyny i'r awyr, ac edrychwch ar y ddaear islaw: Bydd yr awyr yn gwasgaru fel mwg, y ddaear yn treulio fel dillad, a'r bobl sy'n byw arni yn marw fel gwybed, ond mae fy achubiaeth i yn aros am byth, a'm cyfiawnder ddim yn pallu.
7
Gwrandwch arna i, chi sy'n gwybod beth sy'n iawn, y bobl sydd â'm cyfraith yn eu calonnau. Peidiwch bod ag ofn pan mae pobl feidrol yn eich sarhau chi, na digalonni pan maen nhw'n gwneud sbort.
8
Bydd gwyfyn yn eu bwyta fel dilledyn, a'r pryf dillad yn eu llyncu fel gwlân. Bydd fy nghyfiawnder yn para am byth, a'm hachubiaeth o un genhedlaeth i'r llall.”
9
Deffra! Deffra! Dangos dy nerth o fraich yr ARGLWYDD! Deffra, fel yn yr hen ddyddiau, yn yr amser a fu! Onid ti dorrodd Rahab yn ddarnau, a thrywanu'r ddraig?
10
Onid ti sychodd y môr, a dŵr y dyfnder mawr? Onid ti wnaeth ddyfnder y môr yn ffordd i'r rhai gafodd eu rhyddhau gerdded arni?
11
Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy'n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw'n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
12
“Fi, fi ydy'r un sy'n eich cysuro chi! Pam wyt ti'n ofni dyn meidrol — pobl feidrol sydd fel glaswellt?
13
Wyt ti wedi anghofio'r ARGLWYDD sydd wedi dy greu di? Yr un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfaeni'r ddaear! Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy'r amser fod y gormeswr wedi gwylltio ac yn barod i dy daro di i lawr? Ble mae llid y gormeswr beth bynnag?
14
Bydd yr un caeth yn cael ei ryddhau ar frys! Fydd e ddim yn marw yn ei gell nac yn llwgu.
15
Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di sy'n corddi'r môr yn donnau mawrion — yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy fy enw i.
16
Dw i wedi rhoi neges i ti ei rhannu ac wedi dy amddiffyn di dan gysgod fy llaw; Fi roddodd yr awyr yn ei le a gwneud y ddaear yn gadarn! A dw i wedi dweud wrth Seion: ‘Fy mhobl i ydych chi!’”
17
Deffra! Deffra! Saf ar dy draed, Jerwsalem — ti sydd wedi yfed o'r gwpan roddodd yr ARGLWYDD i ti yn ei lid! Ti sydd wedi yfed y gwpan feddwol i'w gwaelod!
18
Does yr un o'r meibion gafodd eu geni iddi yn ei harwain; does dim un o'r meibion fagodd hi yn gafael yn ei llaw.
19
Mae dau beth wedi digwydd i ti: llanast a dinistr — pwy sy'n cydymdeimlo gyda ti? newyn a'r cleddyf — sut alla i dy gysuro di?
20
Mae dy blant wedi llewygu! Maen nhw'n gorwedd ar gornel pob stryd, fel antelop wedi ei ddal mewn rhwyd — yn feddw gan ddigofaint yr ARGLWYDD, wedi eu ceryddu gan dy Dduw.
21
Felly, gwrando ar hyn, ti'r un druenus sydd wedi meddwi, ond ddim ar win!
22
Dyma mae dy feistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, y Duw sy'n dadlau achos ei bobl: “Edrych! Dw i wedi cymryd y cwpan meddwol o dy law di, y gostrel rois i i ti yn fy llid. Does dim rhaid i ti yfed ohoni byth eto!
23
Bydda i'n ei rhoi yn nwylo'r rhai wnaeth dy ormesu a dweud wrthot, ‘Gorwedd i lawr, i ni gerdded drosot ti’ — Roedd rhaid i ti roi dy gefn i fod fel stryd i bobl ei sathru.”
← Chapter 50
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 52 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66