bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 40
Isaiah 40
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 41 →
1
“Cysurwch nhw; cysurwch fy mhobl i,” — dyna mae eich Duw yn ei ddweud.
2
“Byddwch yn garedig wrth Jerwsalem, a dweud wrthi fod y dyddiau caled drosodd; mae hi wedi derbyn y gosb am ei drygioni. Yn wir, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud iddi dalu'n llawn am ei holl bechodau.”
3
Mae llais yn gweiddi'n uchel: “Cliriwch y ffordd i'r ARGLWYDD yn yr anialwch; gwnewch briffordd syth i Dduw drwy'r diffeithwch!
4
Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi, pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu. Bydd y tir anwastad yn cael ei wneud yn llyfn, a bydd cribau'r mynyddoedd yn wastatir.
5
Bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dod i'r golwg, a bydd y ddynoliaeth gyfan yn ei weld yr un pryd.” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
6
Mae'r llais yn dweud, “Gwaedda!” Ac un arall yn gofyn, “Gweiddi be?” “Mae pobl feidrol fel glaswellt,” meddai, “a ffyddlondeb dynol fel blodyn gwyllt:
7
mae'r glaswellt yn crino, a'r blodyn yn gwywo pan mae'r ARGLWYDD yn chwythu arnyn nhw.” Ie, glaswellt ydy'r bobl.
8
Mae'r glaswellt yn crino, a'r blodyn yn gwywo, ond mae neges yr ARGLWYDD yn aros am byth!
9
Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da, dringa i ben mynydd uchel! Ie, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da, gwaedda'n uchel! Gwaedda! Paid bod ag ofn! Dywed wrth drefi Jwda: “Dyma'ch Duw chi!”
10
Edrych! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn dod fel milwr cryf i deyrnasu gyda nerth. Edrych! Mae ei wobr ganddo; mae'n dod a'i roddion o'i flaen.
11
Bydd yn bwydo ei braidd fel bugail: bydd yn codi'r ŵyn yn ei freichiau ac yn eu cario yn ei gôl, tra'n arwain y defaid sy'n eu magu.
12
Pwy sydd wedi dal y moroedd yng nghledr ei law, a mesur yr awyr rhwng ei fysedd? Pwy sydd wedi dal pridd y ddaear mewn padell, pwyso'r mynyddoedd mewn mantol a'r bryniau gyda chlorian?
13
Pwy sydd wedi gosod ffiniau i ysbryd yr ARGLWYDD, neu roi arweiniad iddo fel ei gynghorydd personol?
14
Gyda pwy mae Duw'n trafod i gael gwybod beth i'w wneud? Pwy sy'n ei ddysgu i wneud y peth iawn? Pwy sy'n rhoi gwybodaeth iddo? Pwy sy'n ei helpu i ddeall?
15
Dydy'r cenhedloedd ond diferyn mewn bwced; dim mwy na llwch ar glorian! Dydy'r ynysoedd yn ddim mwy na llwch mân.
16
Does dim digon o goed tân yn Libanus, na digon o anifeiliaid chwaith, i baratoi offrwm teilwng i'w losgi iddo.
17
Dydy'r gwledydd i gyd yn ddim o'i gymharu ag e — maen nhw fel rhywbeth dibwys yn ei olwg, yn llai na dim byd!
18
Felly, i bwy mae Duw yn debyg yn eich barn chi? Gyda beth allwch chi ei gymharu?
19
Eilun? Cerfiwr sy'n siapio hwnnw, a gof yn ei orchuddio ag aur a gwneud bachau i'w ddal yn ei le!
20
Mae'r sawl sy'n rhy dlawd yn dewis pren fydd ddim yn pydru, ac yn edrych am y crefftwr gorau i wneud eilun sydd ddim yn symud!
21
Ydych chi ddim yn gwybod? Ydych chi ddim wedi clywed? Oes neb wedi dweud wrthoch chi o'r dechrau? Ydych chi ddim yn deall sut gafodd y ddaear ei sylfaenu?
22
Fe ydy'r Un sy'n eistedd uwchben y ddaear, ac mae'r bobl sy'n byw arni fel ceiliogod rhedyn o'i flaen. Fe ydy'r Un sy'n taenu'r awyr fel llenni, ac yn ei lledu allan fel pabell i fyw ynddi.
23
Fe ydy'r un sy'n gwneud y pwysigion yn neb, a'r rhai sy'n llywodraethu ar y ddaear yn ddim.
24
Prin eu bod wedi eu plannu, prin eu bod wedi eu hau, prin eu bod wedi bwrw gwreiddiau yn y tir — mae e'n chwythu arnyn nhw ac maen nhw'n gwywo, ac mae gwynt stormus yn eu cario i ffwrdd fel us.
25
“I bwy dw i'n debyg yn eich barn chi? Oes rhywun arall cystal?” —meddai'r Un Sanctaidd.
26
Edrychwch i fyny ar y sêr! Pwy wnaeth eu creu nhw? Pwy sy'n eu galw nhw allan bob yn un? Pwy sy'n galw pob un wrth ei enw? Mae e mor gryf ac mor anhygoel o nerthol — does dim un ohonyn nhw ar goll.
27
Jacob, pam wyt ti'n dweud, “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi”? Israel, pam wyt ti'n honni, “Dydy Duw yn cymryd dim sylw o'm hachos i”?
28
Wyt ti ddim yn gwybod? Wyt ti ddim wedi clywed? Yr ARGLWYDD ydy'r Duw tragwyddol! Fe sydd wedi creu y ddaear gyfan. Dydy ei nerth e ddim yn pallu; Dydy e byth yn blino. Mae e'n rhy ddoeth i unrhyw un ei ddeall!
29
Fe sy'n gwneud y gwan yn gryf, ac yn rhoi egni i'r blinedig.
30
Mae pobl ifanc yn pallu ac yn blino, a'r rhai mwya ffit yn baglu ac yn syrthio;
31
ond bydd y rhai sy'n pwyso ar yr ARGLWYDD yn cael nerth newydd. Byddan nhw'n hedfan i fyny fel eryrod; yn rhedeg heb flino a cerdded ymlaen heb stopio.
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 41 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66