bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 54
Isaiah 54
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 53
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 55 →
1
“Cân yn llawen, ti sy'n methu cael plant, ac sydd erioed wedi geni plentyn! Bloeddia ganu'n llawen, ti sydd heb brofi poenau wrth eni plentyn! Bydd gan y wraig sydd ar ei phen ei hun fwy o blant na'r wraig sydd wedi priodi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
2
“Gwna fwy o le i dy babell, a lledu'r llenni lle rwyt ti'n byw! Estyn nhw allan! Paid dal yn ôl! Gwna'r rhaffau'n hirach, rho'r pegiau'n sownd.
3
Byddi'n ymledu allan i bob cyfeiriad! Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu gwledydd eraill, ac yn byw mewn dinasoedd gafodd eu gadael yn adfeilion.
4
Paid bod ag ofn, gei di ddim dy wrthod. Paid synnu, gei di ddim dy siomi! Byddi'n anghofio cywilydd dy ieuenctid, ac yn cofio dim am warth dy gyfnod fel gweddw.
5
Mae'r un wnaeth dy greu di wedi dy briodi di! — yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e. Bydd Un Sanctaidd Israel yn dy ollwng di'n rhydd — ie, ‘Duw yr holl daear’.
6
Mae'r ARGLWYDD yn dy alw di yn ôl! — fel gwraig oedd wedi ei gadael ac yn anobeithio; gwraig ifanc oedd wedi ei hanfon i ffwrdd.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
7
“Gwrthodais di am ennyd fach, ond gyda thosturi mawr bydda i'n dod â ti'n ôl.
8
Ro'n i wedi gwylltio am foment, ac wedi troi i ffwrdd oddi wrthot ti. Ond gyda chariad sy'n para am byth bydda i'n garedig atat ti eto,” —meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy ollwng di'n rhydd.
9
“Mae'r un fath â'r dilyw yng nghyfnod Noa: Fel gwnes i addo bryd hynny na fyddai'r ddaear yn cael ei boddi byth eto, Dw i'n addo i chi na fydda i'n ddig hefo chi, nac yn eich cosbi eto.
10
Falle y bydd y mynyddoedd yn symud a'r bryniau yn cael eu hysgwyd, ond bydd fy nghariad i atoch chi yn aros, a fydd fy ymrwymiad heddwch ddim yn siglo,” —meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy garu di.
11
“Ti sydd mor druenus, wedi dy daro gan stormydd a heb dy gysuro! Dw i'n mynd i osod dy gerrig mewn morter glas, a defnyddio saffir fel dy sylfeini.
12
Bydda i'n gwneud dy dyrau o emau, dy giatiau o risial coch, a bydd dy waliau i gyd yn feini gwerthfawr.
13
Bydd pob un o dy blant yn cael eu dysgu gan yr ARGLWYDD, a bydd dy blant yn profi heddwch mawr.
14
Byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder, a fyddi di ddim yn cael dy orthrymu. Fydd dim rhaid i ti fod ag ofn, a fydd dychryn ddim yn dod yn agos atat ti.
15
Os bydd rhywun eisiau ymladd hefo ti, nid fi fydd tu ôl i hynny: Bydd pwy bynnag sydd eisiau ymladd hefo ti yn syrthio, am mai ti wyt ti.
16
Os fi wnaeth greu y gof sy'n chwythu'r tân marwor gyda'i fegin, i wneud offer ar gyfer ei waith; fi hefyd sy'n creu y dinistriwr i ddinistrio.
17
Ond fydd yr arfau sydd wedi eu llunio i dy daro di ddim yn llwyddo, a bydd y rhai sy'n codi i dystio yn dy erbyn yn cael eu condemnio. Dyna ydy etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, a'r hyn dw i wedi ei wneud iddyn nhw.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
← Chapter 53
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 55 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66