bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 62
Isaiah 62
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 61
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 63 →
1
“Er mwyn Seion dw i ddim yn mynd i dewi! Er mwyn Jerwsalem dw i ddim yn mynd i orffwys, nes bydd ei chyfiawnder yn disgleirio fel golau llachar a'i hachubiaeth yn llosgi fel ffagl.”
2
Bydd y gwledydd yn gweld dy gyfiawnder, a'r holl frenhinoedd yn gweld dy ysblander; a byddi di'n cael enw newydd gan yr ARGLWYDD ei hun.
3
Byddi fel coron hardd yn llaw yr ARGLWYDD, neu dwrban brenhinol yn llaw dy Dduw.
4
Gei di byth eto yr enw ‛Gwrthodedig‛, a fydd dy wlad ddim yn cael ei galw yn ‛Anialwch‛. Na, byddi'n cael dy alw ‛Fy hyfrydwch‛, a bydd dy wlad yn cael yr enw ‛Fy mhriod‛. Achos bydd yr ARGLWYDD wrth ei fodd gyda ti, a bydd dy wlad fel gwraig ffrwythlon iddo.
5
Fel mae bachgen yn priodi merch ifanc, bydd dy blant yn dy briodi di; ac fel mae priodfab wrth ei fodd gyda'i wraig, bydd dy Dduw wrth ei fodd gyda ti.
6
Dw i'n gosod gwylwyr ar dy waliau di, O Jerwsalem. Fyddan nhw ddim yn dawel nos na dydd! Chi sy'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, peidiwch tewi;
7
peidiwch rhoi llonydd iddo nes iddo adfer Jerwsalem, a'i gwneud yn destun mawl drwy'r byd.
8
Mae'r ARGLWYDD wedi tyngu llw i'w gryfder: “Dw i ddim yn mynd i roi dy ŷd yn fwyd i dy elynion byth eto! A fydd plant estroniaid ddim yn yfed y gwin wnest ti weithio mor galed amdano.
9
Bydd y rhai sy'n medi'r cynhaeaf yn ei fwyta ac yn moli'r ARGLWYDD. A bydd y rhai sy'n casglu'r grawnwin yn yfed y sudd yn fy nghysegr sanctaidd.”
10
Dowch i mewn! Dowch i mewn drwy'r giatiau! Cliriwch y ffordd i'r bobl ddod! Adeiladwch! Adeiladwch briffordd! Symudwch bob carreg sy'n rhwystr! Codwch faner dros y bobloedd!
11
Mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn drwy'r byd i gyd: “Dwedwch wrth Seion annwyl, ‘Edrych! Mae dy Achubwr yn dod! Edrych! Mae ei wobr ganddo; mae'n dod a'i roddion o'i flaen.’”
12
Byddan nhw'n cael eu galw, “Y Bobl Sanctaidd. Pobl Rydd yr ARGLWYDD.” A byddi di, Jerwsalem, yn cael dy alw, “Yr un gafodd ei cheisio,” “Dinas heb ei gwrthod.”
← Chapter 61
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 63 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66