bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 42
Isaiah 42
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 43 →
1
Dyma fy ngwas, yr un dw i'n ei gynnal; yr un dw i wedi ei ddewis, ac sydd wrth fy modd i! Rhof fy ysbryd iddo, a bydd yn dysgu cyfiawnder i'r cenhedloedd.
2
Fydd e ddim yn gweiddi a chodi ei lais, nac yn gadael i neb glywed ei lais ar y strydoedd.
3
Fydd e ddim yn torri brwynen fregus, nac yn diffodd llin sy'n mygu. Bydd e'n dangos y ffordd iawn i ni.
4
Fydd e ddim yn methu nac yn anobeithio nes iddo sefydlu'r ffordd iawn ar y ddaear. Mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei ddysgeidiaeth.”
5
Dyma mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud — yr un greodd yr awyr, a'i lledu allan; yr un wnaeth siapio'r ddaear a phopeth ynddi; yr un sy'n rhoi anadl i'r bobl sy'n byw arni, a bywyd i'r rhai sy'n cerdded arni:
6
“Fi ydy'r ARGLWYDD, dw i wedi dy alw i wneud beth sy'n iawn, a gafael yn dy law. Dw i'n gofalu amdanat ti, ac yn dy benodi yn ganolwr fy ymrwymiad i bobl, ac yn olau i genhedloedd —
7
i agor llygaid y dall, rhyddhau carcharorion o'u celloedd, a'r rhai sy'n byw yn y tywyllwch o'r carchar.
8
Fi ydy'r ARGLWYDD, dyna fy enw i. Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall, na rhoi'r clod dw i'n ei haeddu i ddelwau.
9
Mae'r pethau cyntaf ddwedais wedi dod yn wir, a nawr dw i'n cyhoeddi pethau newydd. Dw i'n gadael i chi glywed amdanyn nhw cyn iddyn nhw ddechrau digwydd.”
10
Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD, canwch ei glod o ben draw'r byd — chi sy'n hwylio ar y môr, a'r holl greaduriaid sydd ynddo, a chi sy'n byw ar yr ynysoedd!
11
Boed i'r anialwch a'i drefi godi eu lleisiau, a'r pentrefi ble mae crwydriaid Cedar yn byw. Canwch yn llawen, chi sy'n byw yn Sela, a gweiddi'n uchel o ben y mynyddoedd.
12
Boed iddyn nhw roi clod i'r ARGLWYDD, a dweud am ei ysblander ar yr ynysoedd.
13
Mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel milwr ar dân ac yn frwd i ymladd yn y rhyfel. Mae e'n gweiddi — yn wir, mae e'n rhuo wrth ymosod ar ei elynion.
14
“Dw i wedi bod yn ddistaw yn rhy hir; wedi cadw'n dawel, a dal fy hun yn ôl. Ond nawr, fel gwraig yn cael plentyn, dw i'n sgrechian a gwingo a griddfan.
15
Dw i'n mynd i ddifetha'r bryniau a'r mynyddoedd, a gwneud i bob tyfiant wywo. Dw i'n mynd i wneud yr afonydd yn sych, a sychu'r pyllau dŵr hefyd.
16
Dw i'n mynd i arwain y rhai sy'n ddall ar hyd ffordd sy'n newydd, a gwneud iddyn nhw gerdded ar hyd llwybrau sy'n ddieithr iddyn nhw. Bydda i'n gwneud y tywyllwch yn olau o'u blaen ac yn gwneud y tir anwastad yn llyfn. Dyma dw i'n addo ei wneud — a dw i'n cadw fy ngair.
17
Bydd y rhai sy'n trystio eilunod yn cael eu gyrru'n ôl a'u cywilyddio, sef y rhai sy'n dweud wrth ddelwau metel, ‘Chi ydy'n duwiau ni!’”
18
Gwrandwch, chi'r rhai byddar; ac edrychwch, chi sy'n ddall!
19
Pwy sy'n ddall fel fy ngwas, neu'n fyddar fel y negesydd dw i'n ei anfon? Pwy sy'n ddall fel yr un wedi ymrwymo iddo? Pwy sy'n ddall fel gwas yr ARGLWYDD?
20
Er dy fod yn gweld llawer, dwyt ti ddim yn ystyried; er bod gen ti glustiau, dwyt ti ddim yn gwrando.
21
Roedd yr ARGLWYDD wedi ei blesio ei fod yn gyfiawn, a'i fod yn gwneud yn fawr o'r gyfraith, ac yn ei chadw.
22
Ond mae'r bobl hyn wedi colli popeth: maen nhw i gyd wedi eu dal mewn tyllau, a'u carcharu mewn celloedd. Maen nhw'n ysglyfaeth, a does neb i'w hachub; maen nhw'n ysbail, a does neb yn dweud “Rho nhw'n ôl!”
23
Pwy sy'n barod i wrando ar hyn? Gwrandwch yn astud o hyn ymlaen!
24
Pwy adawodd i Jacob gael ei ysbeilio, a rhoi Israel i'r lladron? Yr ARGLWYDD wrth gwrs — yr un wnaethon nhw bechu yn ei erbyn! Doedden nhw ddim am fyw fel roedd e eisiau, na bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth.
25
Felly dyma fe'n tywallt ei lid arnyn nhw, a thrais rhyfel. Roedd y fflamau o'u cwmpas ym mhobman, ond wnaethon nhw ddim dysgu'r wers. Cawson nhw eu llosgi, ond gymron nhw ddim sylw.
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 43 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66