bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 14
Isaiah 14
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 15 →
1
Ond bydd yr ARGLWYDD yn maddau i Jacob, ac yn dewis Israel unwaith eto. Bydd yn eu gosod nhw yn eu tir eu hunain, a bydd ffoaduriaid yn ymuno gyda nhw ac yn uniaethu gyda phobl Jacob.
2
Bydd pobloedd eraill yn eu harwain yn ôl i'w mamwlad. Bydd pobl Jacob yn rhannu tir yr ARGLWYDD rhyngddyn nhw, i'w drin gan eu gweision a'u morynion. Byddan nhw'n caethiwo'r rhai wnaeth eu caethiwo nhw, ac yn feistri ar y rhai wnaeth eu gorthrymu nhw.
3
Pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi llonydd i ti o dy holl drafferthion a dy helbulon, a'r holl waith caled pan oeddet ti'n gaethwas,
4
byddi'n adrodd y gerdd ddychan yma am frenin Babilon: “Ble mae'r gormeswr wedi diflannu? Mae ei falchder wedi dod i ben!
5
Mae'r ARGLWYDD wedi torri ffon y rhai drwg, a gwialen y gormeswyr.
6
Roedd yn ddig ac yn taro cenhedloedd yn ddi-stop. Roedd yn sathru pobloedd yn ddidrugaredd a'u herlid yn ddi-baid.
7
Bellach mae'r ddaear yn dawel a digyffro; ac mae'r bobl yn canu'n llawen.
8
Mae hyd yn oed y coed pinwydd yn hapus, a'r coed cedrwydd yn Libanus: ‘Ers i ti gael dy fwrw i lawr, dydy'r torrwr coed ddim yn dod yn ein herbyn ni!’
9
Mae byd y meirw isod mewn cyffro, yn barod i dy groesawu di — Bydd y meirw'n deffro, sef arweinwyr y byd, a bydd brenhinoedd gwledydd y ddaear yn codi oddi ar eu gorseddau.
10
Byddan nhw i gyd yn dy gyfarch di, ‘Felly, ti hyd yn oed! — rwyt tithau'n wan fel ni!
11
Mae dy holl rwysg a sain cerdd dy liwtiau wedi ei dynnu i lawr i Annwn! Bydd y cynrhon yn wely oddi tanat a phryfed genwair yn flanced drosot ti!
12
Y fath gwymp! — Ti, seren ddisglair, mab y wawr, wedi syrthio o'r nefoedd! Ti wedi dy dorri i lawr i'r ddaear — ti oedd yn sathru'r holl wledydd!
13
Roeddet ti'n meddwl i ti dy hun, “Dw i'n mynd i ddringo i'r nefoedd, a gosod fy ngorsedd yn uwch na sêr Duw. Dw i'n mynd i eistedd ar Fynydd y gynulleidfa yn y gogledd pell.
14
Dw i'n mynd i ddringo ar gefn y cymylau, a gwneud fy hun fel y Duw Goruchaf.”
15
O'r fath gwymp! — Rwyt wedi dod i lawr i fyd y meirw, i'r lle dyfnaf yn y Pwll!
16
Mae pobl yn dy weld ac yn syllu arnat, ac yn pendroni: “Ai hwn ydy'r dyn wnaeth i'r ddaear grynu, a dychryn teyrnasoedd?
17
Ai fe ydy'r un drodd y byd yn anialwch, a dinistrio'i ddinasoedd — heb fyth ryddhau ei garcharorion i fynd adre?”’
18
Mae brenhinoedd y gwledydd i gyd — pob un ohonyn nhw — yn gorwedd yn grand yn eu beddau eu hunain.
19
Ond ti? — cest ti dy adael heb dy gladdu, yn ffiaidd, fel ffetws wedi ei erthylu. Fel corff marw yn y dillad a wisgai pan gafodd ei drywanu gan y cleddyf. Fel y rhai sy'n syrthio i waelod y pwll, neu gorff yn cael ei sathru dan draed.
20
Gei di ddim angladd fel brenhinoedd eraill, am dy fod ti wedi dinistrio dy wlad dy hun a lladd dy bobl dy hun. Boed i neb byth eto gofio'r fath hil o bobl ddrwg!
21
Paratowch floc i ddienyddio ei feibion o achos drygioni eu tad. Peidiwch gadael iddyn nhw godi i feddiannu'r tir a llenwi'r byd gyda'i dinasoedd!”
22
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Bydda i'n codi yn eu herbyn nhw. Bydda i'n dileu pob enw o Babilon, a lladd phawb sy'n dal ar ôl yno, eu plant a'u disgynyddion i gyd.
23
Bydda i'n llenwi'r wlad â draenogod a'i throi'n gors o byllau dŵr mwdlyd. Bydda i'n ei hysgubo i ffwrdd hefo brwsh dinistr,” —yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.
24
Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi tyngu llw: “Bydd popeth yn digwydd yn union fel dwedais i; bydd fy nghynlluniau yn dod yn wir.
25
Bydda i'n dryllio grym Asyria yn fy nhir, ac yn ei sathru ar fy mryniau. Bydd ei iau yn cael ei dynnu oddi arnyn nhw, a'r baich trwm yn disgyn oddi ar eu cefnau.
26
Dyna'r cynllun sydd gen i ar gyfer y ddaear gyfan. Dyna pam mae fy llaw yn barod i ddelio gyda'r cenhedloedd i gyd.”
27
Mae gan yr ARGLWYDD holl-bwerus gynllun — Pwy sy'n mynd i'w rwystro? Mae ei law yn barod i weithredu — Pwy sy'n mynd i'w ddal yn ôl?
28
Neges gafodd ei roi yn y flwyddyn y buodd y Brenin Ahas farw:
29
Peidiwch dathlu, chi'r Philistiaid i gyd, am fod y ffon fuodd yn eich curo chi wedi ei thorri. O wreiddyn y neidr bydd gwiber yn codi, gwiber wibiog fydd ei ffrwyth.
30
Bydd y tlotaf o'r tlawd yn cael pori, a'r rhai anghenus yn gorwedd yn ddiogel. Ond bydda i'n defnyddio newyn i ddinistrio dy wreiddyn, a bydd yn lladd pawb sydd ar ôl.
31
Udwch wrth y giatiau; sgrechian yn y ddinas; Mae Philistia i gyd mewn dychryn! Achos mae cwmwl yn dod o'r gogledd, a does neb yn ei rhengoedd yn llusgo eu traed.
32
Beth ydy'r ateb i negeswyr y genedl? Fod yr ARGLWYDD wedi gwneud Seion yn saff, a bod lloches yno i'w bobl anghenus.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66