bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 13
Isaiah 13
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 14 →
1
Y neges gafodd Eseia fab Amos am Babilon
2
“Codwch faner ar ben mynydd, a gweiddi'n uchel arnyn nhw! Codwch eich llaw i'w galw i mewn drwy giatiau'r bobl fawr!
3
Dw i wedi rhoi gorchymyn i'r rhai dw i wedi eu dewis, a galw fy milwyr cryfion i ddangos mor ddig dw i; milwyr balch sy'n brolio.”
4
Gwrandwch! Mae sŵn cynnwrf ar y mynyddoedd — fel byddin enfawr; Gwrandwch! Sŵn twrw'r gwledydd! Cenhedloedd yn casglu at ei gilydd! Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn casglu byddin i ryfel!
5
Maen nhw'n dod o wlad bell, y tu hwnt i'r gorwel — yr ARGLWYDD ac arfau ei lid, yn dod i ddinistrio'r holl dir!
6
Udwch! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos! Mae'n dod fel dinistr oddi wrth yr Un sy'n rheoli popeth.
7
Felly, bydd pob llaw yn llipa, a phawb wedi digalonni
8
a'u llethu gan ddychryn. Bydd poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw, a byddan nhw'n gwingo mewn poen fel gwraig yn cael babi. Byddan nhw'n syllu'n syn ar ei gilydd, a'u hwynebau'n gwrido o gywilydd.
9
Ydy! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn dod; dydd creulon ei lid ffyrnig a thanbaid, i droi'r ddaear yn anialwch diffaith, a chael gwared â phechaduriaid ohoni.
10
Fydd y sêr a'u clystyrau ddim yn rhoi golau. Bydd yr haul yn dywyll pan fydd yn codi, a'r lleuad ddim yn llewyrchu.
11
“Bydda i'n cosbi'r byd am ei holl ddrygioni, a phobl ddrwg am eu pechod. Bydda i'n rhoi diwedd ar falchder pobl haerllug, ac yn torri crib y rhai creulon.
12
Bydd pobl yn fwy prin nag aur pur — yn fwy prin nag aur Offir.
13
Bydda i'n gwneud i'r awyr grynu, ac i'r ddaear ysgwyd o'i lle.” Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn barnu ar ddiwrnod ei lid ffyrnig.
14
Bydd pawb yn troi at ei bobl ei hun ac yn dianc i'w gynefin; fel gasél yn dianc pan mae'n cael ei hela, neu ddefaid ar wasgar a neb i'w casglu.
15
Bydd pawb sy'n cael ei ddarganfod yn cael ei drywanu, a phawb sy'n cael ei ddal yn cael ei ladd â'r cleddyf.
16
Bydd eu plant bach yn cael eu curo i farwolaeth, a'u lladd o flaen eu llygaid; eu cartrefi'n cael eu gwagio, a'u gwragedd yn cael eu treisio.
17
“Ond edrychwch, dw i'n codi'r Mediaid yn eu herbyn nhw. Fydd arian ddim yn rhwystro'r rheiny, nac aur yn eu denu i droi.
18
Bydd eu bwâu yn taro'r dynion ifanc i lawr. Fydd dim tosturi at fabis bach, a fyddan nhw ddim yn arbed bywyd y plant.”
19
Bydd Babilon, y deyrnas harddaf — ysblander a balchder ei phobl — wedi ei bwrw i lawr gan Dduw fel Sodom a Gomorra.
20
Fydd neb yn byw yno byth eto; neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau — dim bedowin yn codi ei babell, na bugail yn gorffwys ei braidd.
21
Bydd ysbrydion yr anialwch yn gorwedd yno, a'r tai yn llawn creaduriaid yn udo. Bydd y dylluan yn byw yno, a'r gafr-ddemoniaid yn llamu o gwmpas.
22
Bydd bwganod yn sgrechian yn ei hadfeilion, a siacaliaid yn ei phlastai. Mae ei hamser bron ar ben; fydd ei dyddiau ddim yn cael eu hestyn.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66