bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 48
Isaiah 48
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 47
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 49 →
1
Gwrandwch ar hyn, bobl Jacob — chi sy'n cael eich galw wrth yr enw ‛Israel‛ ac yn ddisgynyddion i Jwda; sy'n tyngu i enw'r ARGLWYDD ac yn galw ar Dduw Israel — ond heb fod yn ddidwyll wrth wneud hynny.
2
(Maen nhw'n galw eu hunain yn ‛bobl y ddinas sanctaidd‛, ac yn honni pwyso ar Dduw Israel, sef yr ARGLWYDD holl-bwerus):
3
“Dw i wedi sôn ers talwm am y pethau fyddai'n digwydd; dwedais yn glir i bawb glywed. Yna'n sydyn gweithredais, a dyma nhw'n digwydd.
4
Ro'n i'n gwybod mor benstiff wyt ti — mae gewynnau dy wddf fel haearn a dy dalcen yn galed fel pres.
5
Dyna pam wnes i roi gwybod i ti'n bell yn ôl, a dweud yn glir cyn i ddim ddigwydd — rhag i ti ddweud, ‘Fy eilun-dduw wnaeth hyn, fy eilun a'm delw metel wnaeth ei drefnu.’
6
Ti wedi clywed hyn i gyd; edrych, pam wnei di ddim cydnabod y peth? A nawr dw i'n mynd i ddweud pethau newydd, pethau cudd allet ti ddim eu gwybod o'r blaen
7
pethau newydd sbon, ddim o'r gorffennol. Dwyt ti ddim wedi clywed hyn cyn heddiw, rhag i ti ddweud, ‘Ro'n i'n gwybod hynny!’
8
Dwyt ti ddim wedi clywed, dwyt ti ddim yn gwybod; allet ti ddim bod wedi clywed hyn o'r blaen. Er fy mod i'n gwybod dy fod ti'n twyllo ac yn cael dy alw'n rebel ers i ti gael dy eni,
9
dw i wedi atal fy llid er mwyn cadw fy enw da a bod yn amyneddgar er mwyn i mi gael fy moli; dw i wedi ymatal rhag dy ddinistrio di.
10
Edrych, dw i wedi dy buro di, ond nid fel arian; dw i wedi dy brofi di yn ffwrnais dioddefaint.
11
Er fy mwyn fy hun yn unig dw i'n gwneud hyn — Pam dylai fy enw da gael ei halogi? Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall!
12
Gwrandwch arna i, bobl Jacob, ac Israel, y rhai dw i wedi eu galw: Fi ydy e — fi ydy'r cyntaf, a fi ydy'r olaf hefyd.
13
Gosodais sylfeini'r ddaear gyda'm dwylo fy hun, a lledu'r awyr gyda'm llaw dde. Dw i'n eu galw nhw, ac maen nhw'n sefyll gyda'i gilydd.
14
‘Dewch at eich gilydd i gyd, a gwrando! Pa un o'ch duwiau ddwedodd am y pethau yma? — y bydd ffrind yr ARGLWYDD yn cyflawni ei fwriad yn erbyn Babilon, ac yn defnyddio'i holl nerth yn erbyn pobl Caldea.’
15
Fi ddwedodd! Fi alwodd e. Fi ddaeth ag e allan, a bydd yn llwyddo.
16
Dewch ata i yma i glywed hyn: ‘Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol erioed; a pan mae'n digwydd dw i yna.’” Felly nawr mae fy Meistr, sef yr ARGLWYDD, wedi fy anfon i gyda'i ysbryd.
17
Dyma mae'r ARGLWYDD sy'n dy ollwng yn rhydd yn ei ddweud — Un Sanctaidd Israel: “Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw, sy'n dy ddysgu di er dy les, ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.
18
O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion! Byddai dy heddwch yn llifo fel afon, a dy gyfiawnder fel tonnau'r môr.
19
Byddai gen ti ddisgynyddion fel y tywod, a plant mor niferus â'r gronynnau o dywod. Fyddai eu henw nhw ddim wedi ei dorri i ffwrdd a'i ddileu o'm gŵydd i.
20
Ewch allan ar frys o Babilon! Dianc oddi wrth bobl Caldea! Dwedwch beth sy'n digwydd a gweiddi'n llawen. Cyhoeddwch y peth! Anfonwch y neges i ben draw'r byd! Dwedwch: ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gollwng ei was Jacob yn rhydd!
21
Wnaethon nhw ddim profi syched, er iddo eu harwain nhw drwy'r anialwch. Gwnaeth i ddŵr lifo o'r graig iddyn nhw; holltodd y graig a dyma ddŵr yn tasgu allan.’
22
Does dim heddwch i bobl ddrwg.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
← Chapter 47
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 49 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66