bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 63
Isaiah 63
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 62
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 64 →
1
Pwy ydy hwn sy'n dod o Edom — o Bosra a'i ddillad yn goch? Pwy ydy'r un, yn ei wisgoedd brenhinol, sy'n martsio'n hyderus a diflino. “Fi ydy e, sy'n cyhoeddi cyfiawnder; yr un sy'n gallu achub.”
2
Pam mae dy ddillad yn goch? Maen nhw fel dillad un sy'n sathru grawnwin.
3
“Dw i wedi sathru'r grawnwin fy hun; doedd neb o gwbl gyda fi. Sethrais nhw yn fy llid, a'i gwasgu dan draed yn fy nicter, nes i'w gwaed nhw sblasio ar fy nillad; dw i wedi staenio fy nillad i gyd.
4
Roedd y diwrnod i ddial ar fy meddwl, a'r flwyddyn i ollwng yn rhydd wedi dod.
5
Pan edrychais, doedd neb yno i helpu; ron i'n synnu fod neb yno i roi cymorth. Felly dyma fi'n mynd ati i achub, a'm dicter yn fy ngyrru ymlaen.
6
Sethrais genhedloedd yn fy llid, a'u meddwi nhw gyda fy nig, a thywallt eu gwaed ar lawr.”
7
Dw i'n mynd i atgoffa pobl mor hael a charedig ydy'r ARGLWYDD, a dw i'n mynd i ganu ei glod — am y cwbl mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud i ni, a'r holl bethau da mae e wedi eu gwneud i bobl Israel. Mae e mor drugarog ac mor hael!
8
Meddyliodd: “Fy mhobl i ydyn nhw, plant fydd ddim yn anffyddlon.” Felly dyma fe'n eu hachub nhw.
9
Pan oedden nhw'n diodde roedd e'n diodde hefyd, a dyma fe'n anfon ei angel i'w hachub. Yn ei gariad a'i drugaredd, daeth i'w gollwng nhw'n rhydd. Cododd nhw, a'u cario nhw ar hyd y cyfnod hwnnw.
10
Ond dyma nhw'n gwrthryfela, ac yn tristáu ei Ysbryd Glân. Felly trodd yn elyn iddyn nhw, ac ymladd yn eu herbyn nhw.
11
Yna dyma fe'n cofio'r hen ddyddiau — Moses … a'i bobl! Ble mae'r Un ddaeth â nhw drwy'r Môr gyda bugeiliaid ei braidd? Ble mae'r Un wnaeth roi ei Ysbryd Glân yn eu plith nhw —
12
yr Un wnaeth roi ei nerth i Moses? Ble mae'r Un wnaeth hollti'r môr o'u blaenau a gwneud enw iddo'i hun am byth?
13
Ble mae'r Un wnaeth eu harwain nhw drwy'r dyfnder fel ceffyl yn carlamu ar dir agored?
14
Rhoddodd Ysbryd yr ARGLWYDD orffwys iddyn nhw, fel gwartheg yn mynd i lawr i'r dyffryn. Dyna sut wnest ti arwain dy bobl a gwneud enw gwych i ti dy hun!
15
Edrych i lawr o'r nefoedd, o'r lle sanctaidd a hardd ble rwyt ti'n byw! Ble mae dy sêl a dy nerth di bellach? Ble mae hiraeth dy galon a dy gariad? Paid dal yn ôl,
16
achos ti ydy'n Tad ni! Hyd yn oed petai Abraham ddim yn cymryd sylw, ac Israel ddim yn ein nabod ni, ti ydy'n Tad ni, O ARGLWYDD! Ti ydy'r Un sy'n ein rhyddhau ni! — dyna dy enw di ers y dyddiau hynny.
17
ARGLWYDD, pam wyt ti wedi gadael i ni grwydro oddi ar dy ffyrdd di? Pam wyt ti wedi'n gwneud ni'n ystyfnig nes ein bod ddim yn dy barchu di? Maddau i ni, er mwyn dy weision, dy lwythau di dy hun!
18
Cafodd dy bobl feddiannu'r tir am gyfnod byr, ond wedyn sathrodd dy elynion dy gysegr dan draed.
19
Ni oedd dy bobl di o'r dechrau — wnest ti erioed lywodraethu drostyn nhw, a gawson nhw erioed eu henwi ar dy ôl di.
← Chapter 62
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 64 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66