bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 7
Isaiah 7
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 8 →
1
Yn y cyfnod pan oedd Ahas (mab Jotham ac ŵyr i Wseia) yn frenin ar Jwda, dyma Resin (brenin Syria) a Pecach fab Remaleia (brenin Israel), yn ymosod ar Jerwsalem; ond wnaethon nhw ddim llwyddo i'w gorchfygu hi.
2
Pan ddaeth y newyddion i balas brenhinol Dafydd fod Syria ac Effraim mewn cynghrair, roedd y brenin a'r bobl wedi cynhyrfu. Roedden nhw fel coed yn y goedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt.
3
Felly dwedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, “Dos hefo dy fab Shear-iashŵf i gyfarfod ag Ahas wrth derfyn y sianel ddŵr sy'n dod o'r Llyn Uchaf, ar ffordd Maes y Golchwyr.
4
Dywed wrtho: ‘Paid panicio. Paid bod ag ofn. Does dim rhaid torri dy galon am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia wedi gwylltio — dau stwmp ydyn nhw; dim mwy na ffaglau myglyd!’
5
Mae'r Syriaid — hefo Effraim a mab Remaleia — wedi cynllwynio yn dy erbyn di, a dweud,
6
‘Gadewch i ni ymosod ar Jwda, codi ofn arni a'i gorchfygu. Yna gallwn osod mab Tafél yn frenin arni.’
7
“Ond dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: Fydd y cynllun ddim yn llwyddo, Fydd y peth ddim yn digwydd.
8
[8-9] Damascus ydy prifddinas Syria, a Resin ydy pennaeth Damascus. Samaria ydy prifddinas Effraim, a Remaleia ydy pennaeth Samaria. Mewn llai na chwe deg pum mlynedd Bydd Effraim wedi chwalu a peidio â bod yn bobl. Os na wnewch chi gredu, wnewch chi'n sicr ddim sefyll.”
10
Dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Ahas eto:
11
“Gofyn i'r ARGLWYDD dy Dduw roi arwydd i ti — unrhyw beth, does dim ffiniau.”
12
Ond dyma Ahas yn ateb, “Na wna i, dw i ddim am roi'r ARGLWYDD ar brawf.”
13
Yna dwedodd Eseia, “Gwrandwch, balas Dafydd. Ydy ddim digon eich bod chi'n trethu amynedd pobl heb orfod trethu amynedd fy Nuw hefyd?
14
Felly, mae'r Meistr ei hun yn mynd i roi arwydd i chi! Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab — a bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel.
15
Cyn iddo ddod i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da, bydd yn bwyta caws colfran a mêl.
16
Cyn iddo allu gwrthod y drwg a dewis y da, bydd tir y ddau frenin wyt ti'n eu hofni wedi ei adael yn wag.
17
“Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i ti a dy bobl a phalas dy dad fynd trwy gyfnod na fu ei debyg ers i Effraim wrthryfela yn erbyn Jwda — bydd yn dod â brenin Asyria yma.”
18
Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn chwibanu ar y gwybed sydd yn afonydd pell yr Aifft a'r gwenyn sydd yng ngwlad Asyria.
19
Byddan nhw'n dod ac yn glanio yn y wadïau serth a'r hafnau sy'n y creigiau, yn y llwyni drain a'r lleoedd i ddyfrio anifeiliaid.
20
Bryd hynny, bydd y Meistr yn defnyddio'r rasel mae wedi ei llogi yr ochr draw i Afon Ewffrates (sef brenin Asyria) i siafio'r pen a'r blew ar y rhannau preifat; a bydd yn siafio'r farf hefyd.
21
Bryd hynny, bydd dyn yn cadw heffer a dwy afr,
22
Byddan nhw'n rhoi digon o laeth iddo fwyta caws colfran. Caws colfran a mêl fydd bwyd pawb sydd ar ôl yn y wlad.
23
Bryd hynny, bydd pobman lle roedd mil o goed gwinwydd (oedd yn werth mil o ddarnau arian) yn anialwch o ddrain a mieri.
24
Bydd dynion ond yn mynd yno gyda bwa saeth am fod y tir i gyd yn anialwch o ddrain a mieri.
25
Fydd neb yn mynd i'r bryniau i drin y tir gyda chaib am fod cymaint o ddrain a mieri. Yn lle hynny bydd yn dir agored i wartheg a defaid bori arno.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66