bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 30
Isaiah 30
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 31 →
1
“Gwae chi blant ystyfnig!” meddai'r ARGLWYDD — “yn gwneud cynlluniau sy'n groes i be dw i eisiau, a ffurfio cynghreiriau wnes i mo'i hysbrydoli! A'r canlyniad? — pentyrru un pechod ar y llall!
2
Rhuthro i lawr i'r Aifft heb ofyn i mi, a gofyn i'r Pharo eu hamddiffyn a'u cuddio dan gysgod yr Aifft.
3
Ond bydd cael y Pharo i amddiffyn yn codi cywilydd, a bydd cuddio dan gysgod yr Aifft yn siom mawr,
4
er bod ganddo swyddogion yn Soan a llysgenhadon mor bell â Chanes.
5
Cânt eu cywilyddio'n llwyr am fod yr Aifft yn dda i ddim iddyn nhw — dim help o gwbl! Fyddan nhw'n elwa dim, ond yn profi siom a chywilydd.”
6
Neges am ‛Anifeiliaid y Negef‛: Yn nhir trafferthion a chaledi, gwlad y llewes a'r llew cry, y neidr a'r wiber wibiog, maen nhw'n cario eu cyfoeth ar gefn asynnod, a'u trysorau ar gefn camelod, ar ran pobl sy'n dda i ddim.
7
Mae'r Aifft yn ddiwerth! Dŷn nhw ddim help o gwbl! Felly, dw i'n ei galw hi, “Rahab gysglyd.”
8
Tyrd nawr, Ysgrifenna hi ar lechen a'i chofnodi mewn sgrôl, i fod yn dystiolaeth barhaol i'r dyfodol.
9
Achos maen nhw'n bobl anufudd, ac yn blant sy'n twyllo — plant sy'n gwrthod gwrando ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddysgu.
10
Pobl sy'n dweud wrth y rhai sy'n cael gweledigaethau, “Peidiwch â cheisio gweledigaeth,” ac wrth y proffwydi, “Peidiwch proffwydo a dweud wrthon ni beth sy'n iawn. Dwedwch bethau neis, er ei fod yn gelwydd!
11
Trowch o'r ffordd! Ewch oddi ar y llwybr iawn! Stopiwch ein hatgoffa ni am Un Sanctaidd Israel!”
12
Felly, dyma mae Un Sanctaidd Israel yn ei ddweud: Am eich bod wedi gwrthod y neges yma, a dewis rhoi'ch ffydd mewn gormeswr twyllodrus —
13
bydd y bai yma fel wal uchel yn bochio, ac yn sydyn, mewn chwinciad, mae'n syrthio.
14
Bydd yn torri'n ddarnau, fel jwg pridd yn cael ei falu'n deilchion — bydd wedi darfod. Fydd dim un darn yn ddigon o faint i godi marwor o badell dân, neu wagio dŵr o bwll.
15
Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel, yn ei ddweud: “Os trowch yn ôl a trystio cewch eich achub; Wrth aros yn llonydd a chredu y cewch fuddugoliaeth.” Ond dych chi ddim yn fodlon gwneud hynny.
16
“Na,” meddech chi. “Gadewch i ni ddianc ar gefn meirch!” — a dyna wnewch chi. “Gadewch i ni farchogaeth yn gyflym!” — ond bydd y rhai sydd ar eich ôl yn gyflymach!
17
Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc; pump yn bygwth a pawb yn dianc. Bydd cyn lleied ar ôl byddan nhw fel polyn fflag ar ben bryn, neu faner ar ben mynydd.
18
Ond mae'r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi; bydd yn siŵr o godi i faddau i chi. Achos mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn; ac mae'r rhai sy'n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!
19
Wir i chi bobl Seion — chi sy'n byw yn Jerwsalem — fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e'n garedig atoch chi pan fyddwch chi'n galw. Bydd e'n ateb yr eiliad mae'n eich clywed chi.
20
Er bod y Meistr wedi rhoi helynt i chi'n fwyd, a dioddefaint yn ddŵr, fydd y Duw sy'n eich tywys ddim yn cuddio mwyach, byddwch yn ei weld yn eich arwain.
21
Wrth wyro i'r dde neu droi i'r chwith, byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi'n dweud: “Dyma'r ffordd; ewch y ffordd yma!”
22
Byddwch yn ffieiddio'r delwau wedi eu gorchuddio ag arian, a'r delwau metel gydag aur yn eu gorchuddio. Byddwch yn eu taflu i ffwrdd fel cadach misglwyf, ac yn dweud “Budreddi!”
23
Bydd e'n rhoi glaw i'r had rwyt wedi ei hau yn y pridd, a bydd y tir yn rhoi cnwd da, cyfoethog. Bydd digonedd o borfa i dy anifeiliaid bryd hynny,
24
a bydd yr ychen a'r asynnod sy'n gweithio ar y tir yn cael eu bwydo gyda'r ebran gorau, wedi ei nithio â fforch a rhaw.
25
Bydd nentydd a ffrydiau o ddŵr yn llifo ar bob mynydd a bryn uchel — ar ddiwrnod y lladdfa fawr pan fydd y tyrau amddiffynnol yn syrthio.
26
Bydd y lleuad yn disgleirio fel yr haul, a bydd yr haul yn disgleirio saith gwaith cryfach nag arfer (fel golau saith diwrnod mewn un!) ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briwiau ei bobl, ac yn iacháu'r anafiadau gawson nhw pan darodd e nhw.
27
Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD ei hun yn dod o bell, yn wyllt gynddeiriog, yn corddi o'i fewn. Mae'n siarad yn ddig, a'i eiriau fel tân yn difa.
28
Mae ei dymer fel llifogydd gwyllt yn cyrraedd at y gwddf. Bydd yn ysgwyd y cenhedloedd mewn gogr i'w dinistrio, ac yn rhoi ffrwyn yng ngheg pobloedd i'w harwain ar gyfeiliorn.
29
Ond byddwch chi'n canu, fel petai'n noson i ddathlu gŵyl. Byddwch yn llawen ac yn dawnsio i gyfeiliant pib wrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, Craig Israel.
30
Bydd yr ARGLWYDD yn bloeddio'n uchel, a bydd ei fraich gref yn dod i lawr ac yn eu taro'n wyllt gynddeiriog, fel fflamau tân yn difa, neu gorwynt, storm a chenllysg.
31
Bydd llais yr ARGLWYDD yn chwalu Asyria, sef y wialen ddefnyddiodd i daro.
32
Bydd yn eu waldio gyda'r pastwn ddewisodd ac yn eu curo i gyfeiliant drymiau a thelynau, pan fydd yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn.
33
Mae'r goelcerth angladdol wedi ei pharatoi cyn hyn; mae'n barod ar gyfer eu brenin. Mae'r pwll tân yn ddwfn ac yn llydan, ac mae digon o goed i'w tanio. Bydd anadl yr ARGLWYDD fel llif lafa yn dod i'w llosgi.
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66