bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 58
Isaiah 58
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 57
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 59 →
1
“Gwaedda mor uchel ag y medri di, heb ddal yn ôl; Cod dy lais fel sain corn hwrdd! Dywed wrth fy mhobl eu bod nhw wedi gwrthryfela, ac wrth bobl Jacob eu bod nhw wedi pechu.
2
Maen nhw'n troi ata i bob dydd, ac yn awyddus i ddysgu am fy ffyrdd. Maen nhw'n ôl pob golwg yn genedl sy'n gwneud beth sy'n iawn ac sydd heb droi cefn ar ddysgeidiaeth eu Duw. Maen nhw'n gofyn i mi am y ffordd iawn, ac yn awyddus i glosio at Dduw.
3
‘Pam oeddet ti ddim yn edrych pan oedden ni'n ymprydio?’ medden nhw, ‘Pam oeddet ti ddim yn cymryd sylw pan oedden ni'n cosbi ein hunain?’ Am eich bod chi'n ymprydio i blesio'ch hunain ac yn cam-drin eich gweithwyr yr un pryd!
4
Dych chi'n ymprydio i ffraeo a ffustio, Dim dyna'r ffordd i ymprydio os ydych chi eisiau i Dduw wrando.
5
Ai dyma sut ymprydio dw i eisiau? — diwrnod pan mae pobl yn llwgu eu hunain, ac yn plygu eu pennau fel planhigyn sy'n gwywo? Diwrnod i orwedd ar sachliain a lludw? Ai dyna beth wyt ti'n ei alw'n ymprydio, yn ddiwrnod sy'n plesio'r ARGLWYDD?
6
Na, dyma'r math o ymprydio dw i eisiau: cael gwared â chadwyni anghyfiawnder; datod rhaffau'r iau, a gollwng y rhai sy'n cael eu gormesu yn rhydd; dryllio popeth sy'n rhoi baich ar bobl.
7
Rhannu dy fwyd gyda'r newynog, rhoi lle i fyw i'r rhai tlawd sy'n ddigartref a rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth. Peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu.
8
Wedyn bydd dy olau'n disgleirio fel y wawr, a byddi'n cael dy adfer yn fuan. Bydd dy gyfiawnder yn mynd o dy flaen di, a bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn o'r tu ôl.
9
Wedyn, byddi'n galw, a bydd yr ARGLWYDD yn ateb; byddi'n gweiddi, a bydd e'n dweud, ‘Dw i yma’. Rhaid cael gwared â'r iau sy'n gorthrymu, stopio pwyntio bys, a siarad yn gas.
10
Rhaid i ti wneud popeth fedri i helpu'r newynog, a chwrdd ag anghenion y rhai sy'n diodde — Wedyn bydd dy olau yn disgleirio yn y tywyllwch, a bydd dy dristwch yn troi'n olau fel canol dydd!
11
Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser; yn torri dy syched pan wyt ti mewn anialwch poeth, ac yn dy wneud yn gryf. Byddi fel gardd wedi ei dyfrio, neu ffynnon ddŵr sydd byth yn sychu.
12
Byddi'n ailgodi'r hen adfeilion, ac yn adeiladu ar yr hen sylfeini. Byddi'n cael dy alw yn ‛Atgyweiriwr y waliau‛ ac yn ‛Adferwr y strydoedd‛, i bobl fyw yno.
13
Os gwnei di stopio teithio ar y Saboth, a plesio dy hun ar fy niwrnod sbesial i; os gwnei di alw'r Saboth yn ‛bleser‛, parchu diwrnod sbesial yr ARGLWYDD, dangos parch ato drwy beidio gwneud beth wyt ti eisiau, plesio dy hun, a siarad fel y mynni —
14
wedyn gelli ddisgwyl i'r ARGLWYDD gael ei blesio. Byddi'n llwyddo, a fydd dim yn dy rwystro, a cei fwynhau etifeddiaeth Jacob, dy dad.” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
← Chapter 57
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 59 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66