bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 52
Isaiah 52
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 51
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 53 →
1
Deffra! Deffra! Dangos dy nerth, Seion! Gwisga dy ddillad hardd, Jerwsalem, y ddinas sanctaidd! Fydd y paganiaid aflan sydd heb eu henwaedu byth yn dod i mewn i ti eto.
2
Cod ar dy draed, ac ysgwyd y llwch oddi arnat, eistedd ar dy orsedd, Jerwsalem! Tynna'r gefynnau oddi am dy wddf Seion, y gaethferch hardd!
3
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Cawsoch eich gwerthu am ddim, a fydd arian ddim yn eich rhyddhau chi.”
4
Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “I ddechrau, aeth fy mhobl i fyw dros dro yn yr Aifft; ac wedyn dyma Asyria yn eu gormesu nhw.
5
Felly, beth sy'n digwydd yma?” —meddai'r ARGLWYDD— “Mae fy mhobl wedi eu cipio i ffwrdd am ddim rheswm, ac mae'r rhai sy'n eu rheoli yn gwawdio.” —meddai'r ARGLWYDD— “Mae pethau drwg yn cael eu dweud amdana i drwy'r amser.
6
Ond bryd hynny bydd fy mhobl yn fy nabod, ac yn gwybod mai fi ydy'r un sy'n dweud, ‘Dyma fi!’”
7
Mae mor wych gweld negesydd yn dod dros y mynyddoedd yn cyhoeddi fod heddwch. Mae ganddo newyddion da — mae e'n cyhoeddi fod achubiaeth ac yn dweud wrth Seion, “Dy Dduw di sy'n teyrnasu!”
8
Clyw! Mae'r rhai sy'n gwylio dy furiau yn galw; maen nhw'n gweiddi'n llawen gyda'i gilydd! Maen nhw'n gweld, o flaen eu llygaid, yr ARGLWYDD yn dod yn ôl i Seion.
9
Gwaeddwch chithau hefyd, adfeilion Jerwsalem! Mae'r ARGLWYDD yn cysuro ei bobl ac yn mynd i ollwng Jerwsalem yn rhydd.
10
Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ei nerth i'r cenhedloedd i gyd, ac mae pobl o ben draw'r byd yn gweld ein Duw ni yn achub.
11
Ewch! Ewch! I ffwrdd â chi! Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan! Chi sy'n cario llestri'r ARGLWYDD Cadwch eich hunain yn lân wrth fynd allan oddi yno.
12
Ond does dim rhaid i chi adael ar frys na dianc fel ffoaduriaid, achos mae'r ARGLWYDD yn mynd o'ch blaen chi, ac mae Duw Israel yn eich amddiffyn o'r tu cefn.
13
“Edrychwch! Bydd fy ngwas yn llwyddo; bydd yn cael ei ganmol a'i godi yn uchel iawn.
14
Fel roedd llawer wedi dychryn o'i weld yn edrych mor ofnadwy — prin yn ddynol (doedd e ddim yn edrych fel dyn),
15
bydd e'n puro llawer o genhedloedd. Bydd brenhinoedd yn fud o'i flaen — byddan nhw'n gweld rhywbeth oedd heb ei egluro, ac yn deall rhywbeth oedden nhw heb glywed amdano.
← Chapter 51
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 53 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66