bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 38
Isaiah 38
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 37
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 39 →
1
Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw. Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; dwyt ti ddim yn mynd i wella.”
2
Ond dyma Heseceia yn troi at y wal ac yn gweddïo,
3
“O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crïo.
4
Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Eseia:
5
“Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud (Duw Dafydd dy dad): “Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti.
6
Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma.”
7
“‘A dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i brofi y bydd e'n gwneud beth mae e wedi ei addo:
8
Edrych! Dw i'n mynd i wneud i'r cysgod sydd wedi disgyn ar risiau Ahas fynd yn ôl i fyny ddeg gris.’” Yna dyma gysgod yr haul yn codi oddi ar ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi disgyn arnyn nhw.
9
Dyma ysgrifennodd Heseceia, brenin Jwda, ar ôl iddo wella o'i salwch:
10
“Dywedais, ‘Dw i'n mynd i farw, a minnau ond canol oed. Dw i wedi cael fy anfon drwy giatiau Annwn am weddill fy nyddiau.’
11
Dywedais: ‘Ga i byth weld yr ARGLWYDD yn y bywyd hwn eto; nac edrych ar y ddynoliaeth fel y rhai sydd wedi peidio â bod.’
12
Mae fy mywyd wedi ei gymryd oddi arna i a'i symud fel pabell bugail. Roedd fy mywyd wedi ei rholio i fyny fel lliain wedi ei dorri i ffwrdd o'r wŷdd. Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.
13
Yn y bore, roedd fel petai llew yn malu fy esgyrn i gyd. Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.
14
Dw i'n trydar fel gwennol neu durtur, ac yn cŵan fel colomen, wrth i'm llygaid blinedig fethu edrych i fyny. ‘Fy ARGLWYDD! Dw i'n cael fy llethu! Achub fi!’
15
Beth alla i ei ddweud? Dwedodd wrtho i beth fyddai'n ei wneud, a dyna wnaeth e! Roedd rhaid i mi gerdded yn ofalus am fod fy enaid mor chwerw.
16
Mae fy arglwydd wedi fy nghuddio, ac mae bywyd yn fy nghalon eto. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi gorffwys i mi. ‘Rwyt ti'n fy iacháu ac wedi fy nghadw'n fyw.’
17
Yn wir, roedd yr holl chwerwder yma yn lles i mi: ‘Ceraist fi, a'm hachub o bwll difodiant, a thaflu fy holl bechodau tu ôl i ti.
18
Dydy'r rhai sydd yn Annwn ddim yn diolch i ti, a dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy foli di. Dydy'r rhai sydd wedi disgyn i'r pwll ddim yn gobeithio yn dy ffyddlondeb di.
19
Y rhai byw, dim ond y rhai byw sy'n gallu diolch i ti fel dw i'n gwneud heddiw. Mae tad yn dweud wrth ei blant am dy ffyddlondeb di:
20
Mae'r ARGLWYDD wedi'n hachub ni! Gadewch i ni ganu offerynnau cerdd yn nheml yr ARGLWYDD weddill ein bywydau!’”
21
Roedd Eseia wedi dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi eu gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.”
22
Roedd Heseceia wedi gofyn, “Pa arwydd ga i y bydda i'n mynd i fyny i deml yr ARGLWYDD eto?”
← Chapter 37
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 39 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66