bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 2
Isaiah 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 3 →
1
Y neges gafodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem:
2
Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDD wedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd eraill, a'i godi'n uwch na'r bryniau. Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno,
3
a llawer o bobl yn mynd yno a dweud: “Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD, a mynd i deml Duw Jacob, iddo ddysgu ei ffyrdd i ni, ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.” Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod, a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
4
Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloedd ac yn setlo dadleuon rhwng pobloedd lawer. Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradr a'u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.
5
Bobl Jacob — Dewch! gadewch i ni fyw yng ngolau'r ARGLWYDD.
6
Achos rwyt ti wedi gwrthod dy bobl, pobl Jacob, am eu bod nhw'n llawn o ofergoelion y dwyrain; yn dweud ffortiwn fel y Philistiaid ac yn gwneud busnes gydag estroniaid.
7
Mae'r wlad yn llawn o arian ac aur, does dim diwedd ar eu trysorau; Mae'r wlad yn llawn o feirch rhyfel, does dim diwedd ar eu cerbydau rhyfel.
8
Mae'r wlad yn llawn eilunod diwerth, ac maen nhw'n plygu i addoli gwaith eu dwylo — pethau maen nhw eu hunain wedi eu creu!
9
Bydd pobl yn cael eu darostwng a pawb yn cywilyddio — paid maddau iddyn nhw!
10
Ewch i guddio yn y graig, a claddu eich hunain yn y llwch, rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD eich dychryn chi!
11
Bydd y ddynoliaeth yn cael ei darostwng am ei balchder, a hunanhyder pobl feidrol yn cael ei dorri. Dim ond yr ARGLWYDD fydd yn cael ei ganmol bryd hynny!
12
Mae gan yr ARGLWYDD holl-bwerus ddiwrnod arbennig i ddelio gyda pob un balch a snobyddlyd, a phawb sy'n canmol eu hunain — i dorri eu crib nhw!
13
Bydd yn delio gyda cedrwydd Libanus, sydd mor dal ac urddasol; gyda choed derw Bashan;
14
gyda'r holl fynyddoedd uchel a'r bryniau balch;
15
gyda phob tŵr uchel, a phob wal solet;
16
gyda llongau masnach Tarshish, a'r cychod pleser i gyd.
17
Dyna pryd bydd balchder y ddynoliaeth yn cael ei dynnu i lawr, a hunanhyder pobl yn syrthio. Dim ond yr ARGLWYDD fydd yn cael ei ganmol bryd hynny!
18
Bydd yr eilunod diwerth yn diflannu.
19
Bydd pobl yn mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau a thyllau yn y ddaear — rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD eu dychryn pan fydd yn dod ac yn gwneud i'r ddaear grynu.
20
Bryd hynny bydd pobl yn taflu'r eilunod arian a'r eilunod aur i'r tyrchod daear a'r ystlumod — yr eilunod wnaethon nhw eu gwneud i'w haddoli.
21
Byddan nhw'n mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau, a hafnau yn y clogwyni, rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD eu dychryn pan fydd yn dod ac yn gwneud i'r ddaear grynu.
22
Peidiwch rhoi'ch ffydd mewn pobl sydd â dim byd ond anadl yn eu ffroenau! Achos pa werth sydd iddyn nhw?
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66