bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 24
Isaiah 24
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 25 →
1
Edrych! Mae'r ARGLWYDD yn difetha'r tir a'i adael yn wag! Mae'n ei droi â'i ben i lawr, ac yn gwasgaru'r rhai sy'n byw arno.
2
Bydd yr un peth yn digwydd i'r offeiriad ac i'r bobl gyffredin, i'r gwas a'i feistr, i'r forwyn a'i meistres, i'r gwerthwr a'r prynwr, i'r benthyciwr a'r un sy'n benthyg, i'r credydwr a'r un mewn dyled.
3
Bydd y tir yn hollol wag — wedi ei ysbeilio'n llwyr. Yr ARGLWYDD sydd wedi dweud.
4
Mae'r tir yn sych; mae'n gwywo. Mae'r byd yn gwanio; mae'n gwywo. Mae ei phobl bwysica yn wan.
5
Mae'r tir ei hun wedi ei lygru gan y rhai sy'n byw arno. Maen nhw wedi anwybyddu'r ddysgeidiaeth, newid y deddfau, a thorri'r ymrwymiad oedd i fod am byth.
6
Dyna pam mae'r wlad wedi ei melltithio'n llwyr, a'i phobl yn cael eu cosbi. Dyna pam mae'r rhai sy'n byw ar y tir wedi diflannu, nes bod bron neb ar ôl.
7
Mae'r sudd grawnwin yn sychu, a'r coed gwinwydd yn gwywo, a'r holl hwyl a'r miri'n troi'n riddfan.
8
Mae sŵn llawen y tambwrîn wedi tewi, yr holl firi swnllyd wedi peidio, a sain hyfryd y delyn yn dawel.
9
Does neb yn canu wrth yfed gwin; ac mae'r cwrw yn blasu'n chwerw.
10
Dinas mewn anhrefn wedi ei dryllio! Pob tŷ wedi ei gau i fyny, rhag i rywun fynd iddo.
11
Mae pobl yn gweiddi am win ar y strydoedd: mae pob hwyl wedi peidio, a miri wedi ei daflu allan o'r wlad.
12
Mae'r ddinas wedi ei gadael mewn llanast llwyr, a'i giatiau wedi eu dryllio'n ddarnau.
13
Fel yna bydd hi yn y tir, ymhlith y gwledydd: Fel coeden olewydd sy'n cael ei hysgwyd, a'r lloffa sy'n digwydd pan mae'r cynhaeaf grawnwin drosodd.
14
Ond bydd rhai'n codi eu lleisiau ac yn gweiddi'n llawen! Bydd rhai'n canu clod o'r gorllewin am fod yr ARGLWYDD mor fawreddog.
15
Felly, addolwch yr ARGLWYDD yn y dwyrain ac ar arfordir ac ynysoedd y gorllewin — addolwch enw'r ARGLWYDD, Duw Israel.
16
Mae canu i'w glywed o ben draw'r byd: “Mae'r Un Cyfiawn mor wych!” Ond wedyn dw i'n dweud: “Mae ar ben arna i! Mae ar ben arna i! Gwae fi! Mae bradwyr yn bradychu! Bradwyr yn bradychu â'u brad!”
17
Panig, pydew a thrap i bawb sy'n byw yn y wlad!
18
Bydd pawb sy'n ffoi mewn dychryn yn disgyn i lawr i dwll. A bydd pawb sy'n dringo o'r twll yn cael ei ddal mewn trap! Mae'r llifddorau wedi eu hagor yn yr awyr, ac mae sylfeini'r ddaear yn crynu.
19
Mae'r tir wedi cracio drosto; mae wedi hollti'n ddarnau, ac yn cael ei erydu'n llwyr.
20
Mae'r tir yn gwegian fel meddwyn, ac yn sigledig fel cwt gwyliwr. Bydd yn cael ei lorio gan euogrwydd, Bydd yn syrthio, a byth yn codi eto!
21
Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn cosbi pwerau'r awyr uchod a brenhinoedd y ddaear isod.
22
Byddan nhw'n cael eu casglu at ei gilydd fel carcharorion mewn dwnsiwn, a'i cloi yn y carchar, i wynebu eu tynged ar ôl amser hir.
23
Bydd y lleuad yn cywilyddio a'r haul yn swil, pan fydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn teyrnasu ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem, yn ei holl ysblander o flaen arweinwyr y bobl.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66