bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 43
Isaiah 43
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 42
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 44 →
1
Nawr, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — yr un wnaeth dy greu di, Jacob, a rhoi siâp i ti, Israel: “Paid bod ag ofn! Dw i wedi dy ollwng di'n rhydd! Dw i wedi dy alw wrth dy enw! Fi piau ti!
2
Pan fyddi di'n mynd trwy lifogydd, bydda i gyda ti; neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd. Wrth i ti gerdded trwy dân, fyddi di'n cael dim niwed; fydd y fflamau ddim yn dy losgi di.
3
Achos fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di, Un Sanctaidd Israel, dy Achubwr di! Rhoddais yr Aifft yn dâl amdanat ti, Cwsh a Seba yn dy le di.
4
Dw i'n dy drysori di, ac yn dy garu di, achos ti'n werthfawr yn fy ngolwg i. Dw i'n barod i roi'r ddynoliaeth yn gyfnewid amdanat ti, a'r bobloedd yn dy le di.
5
Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Bydda i'n dod â'th ddisgynyddion di yn ôl o'r dwyrain, ac yn dy gasglu di o'r gorllewin.
6
Bydda i'n dweud wrth y gogledd, ‘Gollwng nhw!’ ac wrth y de, ‘Paid dal neb yn ôl!’ Tyrd â'm meibion i o wledydd pell, a'm merched o ben draw'r byd —
7
pawb sydd â'm henw i arnyn nhw, ac wedi eu creu i ddangos fy ysblander i. Ie, fi wnaeth eu siapio a'u gwneud nhw.
8
Dewch â nhw allan! Y rhai sy'n ddall er bod ganddyn nhw lygaid, ac yn fyddar er bod ganddyn nhw glustiau.
9
Mae'r cenhedloedd i gyd wedi dod at ei gilydd, a gwledydd y byd wedi ymgasglu. Pa un o'u duwiau nhw ddwedodd am hyn, a dweud ymlaen llaw am beth sydd wedi digwydd? Gadewch iddyn nhw alw tystion i brofi eu hunain, er mwyn i bobl eu clywed, a dweud, ‘Mae'n wir!’”
10
“Chi ydy fy nhystion i,” —meddai'r ARGLWYDD— “a'r gwas dw i wedi ei ddewis i wybod ac i gadarnhau eich bod chi'n deall mai fi ydy e. Doedd dim duw o'm blaen i, a fydd yna ddim un ar fy ôl i.
11
Fi, ie fi ydy'r unig ARGLWYDD, a does neb ond fi yn gallu achub.
12
Fi wnaeth ddweud ymlaen llaw, fi wnaeth achub, fi wnaeth ei gyhoeddi, dim rhyw dduw dieithr — a dych chi'n dystion o'r peth.” —meddai'r ARGLWYDD— “Fi ydy'r unig Dduw,
13
Fi ydy e o'r dechrau cyntaf! Does neb yn gallu cipio rhywun oddi arna i. Pan dw i'n gwneud rhywbeth, does neb yn gallu ei ddadwneud.”
14
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — yr un sy'n dy ryddhau, Un Sanctaidd Israel: “Dw i'n mynd i'w anfon e i Babilon er dy fwyn di. Bydda i'n bwrw ei barrau haearn i lawr, a throi bloeddio llawen y Babiloniaid yn alar.
15
Fi ydy'ch Un Sanctaidd chi, yr ARGLWYDD, eich Brenin chi, yr un greodd Israel.”
16
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — yr un agorodd ffordd drwy'r môr, a llwybr drwy'r dyfroedd mawr;
17
yr un ddinistriodd gerbydau a cheffylau, a'r fyddin ddewr i gyd (Maen nhw'n gorwedd gyda'i gilydd, a fyddan nhw ddim yn codi. Cawson nhw eu diffodd, fel diffodd cannwyll):
18
“Peidiwch hel atgofion am y gorffennol, a dim ond meddwl am beth ddigwyddodd o'r blaen!
19
Edrychwch! Dw i'n gwneud rhywbeth newydd! Mae ar fin digwydd! Ydych chi ddim yn ei weld? Dw i'n mynd i agor ffordd drwy'r anialwch, a rhoi afonydd yn y tir diffaith.
20
Bydd anifeiliaid gwylltion yn diolch i mi, y siacaliaid a'r estrys, am fy mod wedi rhoi dŵr yn yr anialwch, ac afonydd mewn tir diffaith, i roi diod i'r bobl dw i wedi eu dewis —
21
y bobl wnes i eu llunio i mi fy hun, iddyn nhw fy moli i.”
22
“Ond dwyt ti ddim wedi galw arna i, Jacob; rwyt ti wedi blino arna i, Israel.
23
Dwyt ti ddim wedi dod â dafad yn offrwm i'w losgi i mi, nac wedi fy anrhydeddu gydag aberthau. Dw i ddim wedi pwyso arnat ti am offrwm o rawn, na dy boeni di am yr arogldarth o thus.
24
Dwyt ti ddim wedi prynu sbeisiau pêr i mi na'm llenwi gyda brasder dy aberthau. Yn lle hynny, rwyt ti wedi rhoi baich dy bechodau arna i, a'm blino gyda dy ddrygioni.
25
Fi, ie, fi — er fy mwyn fy hun — ydy'r un sy'n dileu dy wrthryfel di, ac yn anghofio am dy bechodau di.
26
Atgoffa fi. Gad i ni drafod gyda'n gilydd. Gad i mi glywed dy ochr di o'r stori; ceisia di brofi dy fod yn ddieuog!
27
Pechodd dy dad cyntaf yn fy erbyn i, wedyn cododd dy arweinwyr yn fy erbyn i.
28
Felly dyma fi'n halogi arweinwyr y cysegr, a gadael i Jacob gael ei alltudio ac i Israel fod yn destun sbort.”
← Chapter 42
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 44 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66