bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 11
Isaiah 11
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 12 →
1
Ond bydd brigyn newydd yn tyfu o foncyff Jesse, a changen ffrwythlon yn tyfu o'i wreiddiau.
2
Bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno: ysbryd doethineb rhyfeddol, ysbryd strategaeth sicr, ysbryd defosiwn a pharch at yr ARGLWYDD.
3
Bydd wrth ei fodd yn ufuddhau i'r ARGLWYDD: fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf, nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si.
4
Bydd yn barnu achos pobl dlawd yn deg ac yn rhoi dyfarniad cyfiawn i'r rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir. Bydd ei eiriau fel gwialen yn taro'r ddaear a bydd yn lladd y rhai drwg gyda'i anadl.
5
Bydd cyfiawnder a ffyddlondeb fel belt am ei ganol.
6
Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda'r oen, a'r llewpard yn gorwedd i lawr gyda'r myn gafr. Bydd y llo a'r llew ifanc yn pori gyda'i gilydd, a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw.
7
Bydd y fuwch a'r arth yn pori gyda'i gilydd, a'u rhai ifanc yn cydorwedd; a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych.
8
Bydd babi bach yn chwarae wrth nyth y cobra a phlentyn bach yn rhoi ei law ar dwll y wiber.
9
Fydd neb yn gwneud drwg nac yn dinistrio dim ar y mynydd sydd wedi ei gysegru i mi. Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd y ddaear yn llawn pobl sy'n nabod yr ARGLWYDD.
10
Bryd hynny, bydd y ffaith fod boncyff Jesse yn dal i sefyll yn arwydd clir i bobloedd — bydd cenhedloedd yn dod ato am gyngor, a bydd ei le yn ysblennydd.
11
Bryd hynny, bydd y Meistr yn mynd ati i ryddhau gweddill ei bobl o wlad Asyria — ac hefyd o'r Aifft, Pathros, Dwyrain Affrica, Elam, Babilonia, Chamath, a'r ynysoedd.
12
Bydd yn codi baner i alw'r cenhedloedd, ac yn casglu'r bobl gafodd eu halltudio o Israel. Bydd yn casglu pobl Jwda gafodd eu gwasgaru o bedwar ban byd.
13
Yna bydd cenfigen Effraim yn darfod a bydd yr elyniaeth rhyngddi â Jwda yn dod i ben. Fydd Effraim ddim yn cenfigennu wrth Jwda, a fydd Jwda ddim yn plagio Effraim.
14
Byddan nhw'n ymosod ar y Philistiaid i'r gorllewin, ac yn ysbeilio pobl y dwyrain gyda'i gilydd. Bydd Edom a Moab yn cael eu rheoli ganddyn nhw, a bydd pobl Ammon fel gwas bach iddyn nhw.
15
Bydd yr ARGLWYDD yn sychu Môr yr Aifft. Bydd yn codi ei law dros Afon Ewffrates ac yn anfon gwynt ffyrnig i'w hollti'n saith sychnant, er mwyn gallu ei chroesi heb wlychu'r traed.
16
Felly bydd priffordd ar gyfer gweddill ei bobl sydd wedi eu gadael yn Asyria, fel yr un oedd i bobl Israel pan ddaethon nhw allan o wlad yr Aifft.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66