bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 32
Isaiah 32
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 33 →
1
Edrychwch, bydd brenin yn teyrnasu yn gyfiawn, a'i dywysogion yn rheoli yn deg.
2
Bydd pob un ohonyn nhw fel cysgod rhag y gwynt, a lloches rhag y storm; fel nentydd o ddŵr mewn tir sych, neu gysgod craig enfawr mewn crasdir.
3
Bydd llygaid y rhai sy'n gweld yn edrych, a chlustiau'r rhai sy'n clywed yn gwrando.
4
Bydd y difeddwl yn oedi ac yn sylwi, a thafod y rhai sydd ag atal dweud yn siarad yn glir.
5
Fydd y ffŵl ddim yn cael ei alw'n ŵr bonheddig, na'r twyllwr yn cael ei anrhydeddu.
6
Achos dweud pethau ffôl mae ffŵl a cynllunio i wneud pethau drwg. Mae'n ymddwyn yn annuwiol ac yn dweud celwydd am yr ARGLWYDD. Mae'n gadael y newynog hefo stumog wag ac yn gwrthod rhoi diod i'r sychedig.
7
Mae arfau'r twyllwr yn ddrwg. Mae'n cynllunio i wneud drwg — dinistrio pobl dlawd trwy eu twyllo a cham-drin yr anghenus yn y llys.
8
Ond mae bwriadau'r person anrhydeddus yn dda, ac mae bob amser yn gwneud beth sy'n nobl.
9
Chi wragedd cyfforddus, safwch! Gwrandwch arna i! Chi ferched heb bryder yn y byd, gwrandwch beth dw i'n ddweud!
10
Mewn llai na blwyddyn, cewch chi sydd mor hyderus eich ysgwyd. Bydd y cynhaeaf grawnwin yn methu, a dim ffrwyth i'w gasglu.
11
Dylech chi sy'n gyfforddus ddechrau poeni! Dylech chi sydd mor ddibryder ddechrau crynu! Tynnwch eich dillad! Stripiwch! Gwisgwch sachliain am eich canol,
12
ac am y bronnau sy'n galaru! Dros y caeau hyfryd, a'r coed gwinwydd ffrwythlon.
13
Dros dir fy mhobl, bydd drain a mieri yn tyfu. Ie, dros yr holl dai hyfryd, a'r dre llawn miri.
14
Bydd y palas wedi ei adael, a'r ddinas boblog yn wag. Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniau yn troi'n foelydd am byth — yn gynefin i asynnod gwyllt a phorfa i breiddiau.
15
Nes i ysbryd oddi uchod gael ei dywallt arnon ni, i'r anialwch gael ei droi'n gaeau ffrwythlon, a'r caeau droi'n goedwig.
16
Pan fydd cyfiawnder yn aros yn yr anialwch a thegwch yn cartrefu yn y caeau.
17
Bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch, ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth.
18
Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff, tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel.
19
Er i'r goedwig gael ei thorri i lawr gan genllysg ac i'r ddinas orwedd mewn cywilydd,
20
y fath fendith fydd i chi sy'n hau wrth ffrydiau dŵr, ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd i bori.
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 33 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66