bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 10
Isaiah 10
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 11 →
1
Gwae'r rhai sy'n rhoi dyfarniad anghyfiawn ac ysgrifennu deddfau sy'n gormesu pobl.
2
Maen nhw'n dwyn cyfiawnder oddi ar bobl dlawd, a chymryd eu hawliau oddi ar yr anghenus. Maen nhw'n dwyn oddi ar y gweddwon, ac yn ysbeilio plant amddifad!
3
Beth wnewch chi ar ddiwrnod y cosbi, pan fydd dinistr yn dod o bell? At bwy fyddwch chi'n rhedeg am help? I ble'r ewch chi i guddio eich trysor?
4
Bydd rhaid crymu gyda'r carcharorion eraill, neu syrthio gyda phawb arall sy'n cael eu lladd! Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
5
Gwae Asyria, y wialen dw i'n ei defnyddio pan dw i'n ddig, Mae'r ffon sy'n dangos fy mod i wedi gwylltio yn ei llaw hi.
6
Dw i'n ei hanfon yn erbyn cenedl annuwiol, ac yn dweud wrthi am ymosod ar y bobl sy'n fy nigio i; i ysbeilio a rheibio a'u sathru dan draed fel baw ar y stryd.
7
Ond dim dyna ydy bwriad Asyria — rhywbeth arall sydd ganddi hi mewn golwg. Ei bwriad hi ydy dinistrio, a difa gwledydd yn llwyr — llawer ohonyn nhw!
8
Mae'n meddwl, “Mae brenhinoedd wedi dod yn swyddogion i mi!
9
Onid ydy Calno yr un fath â Carcemish? a Chamath fel Arpad? a Samaria fel Damascus?
10
Gan fy mod i wedi cael gafael yn y gwledydd hynny a'u heilun-dduwiau — gwledydd oedd â llawer mwy o ddelwau na Jerwsalem a Samaria —
11
bydda i'n gwneud yr un peth i Jerwsalem a'i heilunod ag a wnes i i Samaria a'i delwau.”
12
Ond pan fydd y Meistr wedi gorffen delio gyda Mynydd Seion a Jerwsalem, bydd e'n cosbi brenin Asyria am fod mor falch ac mor llawn ohono'i hun.
13
Am feddwl fel hyn: “Dw i wedi gwneud y cwbl am fy mod i mor gryf. Roedd gen i strategaeth glyfar, a dw i wedi dileu ffiniau gwledydd. Dw i wedi cymryd eu trysorau nhw, ac wedi bwrw brenhinoedd i lawr fel tarw.
14
Cefais afael ar gyfoeth y gwledydd mor hawdd a dwyn wyau o nyth: heb neb yn fflapio'i adenydd nag yn agor ei big i drydar.”
15
Ydy bwyell o unrhyw werth heb rywun i'w thrin? Ydy llif yn bwysicach na'r un sy'n ei defnyddio? Fel petai gwialen yn chwifio'r dyn sy'n ei chodi! Fel petai ffon yn codi'r person sydd ddim yn bren!
16
Felly, bydd y Meistr—yr ARGLWYDD holl-bwerus— yn anfon afiechyd fydd yn nychu ei filwyr iach; bydd twymyn yn taro ei ysblander ac yn llosgi fel tân.
17
Bydd Golau Israel yn troi'n dân, a'r Un Sanctaidd yn fflam. Bydd yn llosgi'r drain a'r mieri mewn diwrnod,
18
a dinistrio'r goedwig a'r berllan yn llwyr. Bydd fel bywyd dyn sâl yn diflannu.
19
Bydd cyn lleied o goed ar ôl bydd plentyn bach yn gallu eu cyfri!
20
Bryd hynny, fydd y rhai sydd ar ôl yn Israel a'r rhai hynny o bobl Jacob sydd wedi dianc ddim yn pwyso ar y genedl wnaeth eu gorthrymu nhw; Byddan nhw'n pwyso'n llwyr ar yr ARGLWYDD, Un sanctaidd Israel.
21
Bydd rhan fechan, ie, rhan fechan o Jacob yn troi yn ôl at y Duw cryf.
22
Israel, hyd yn oed petai dy bobl mor niferus â thywod y môr, dim ond nifer fechan fydd yn dod yn ôl. Mae'r dinistr yn sicr. Mae'r gosb sydd wedi ei haeddu yn dod fel llifogydd!
23
Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn barod i ddod â'r dinistr sydd wedi ei ddyfarnu ar y tir.
24
Felly, dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn ei ddweud: “O fy mhobl, sy'n byw yn Seion, peidiwch bod ag ofn Asyria — er iddo dy daro di gyda'i wialen a dy fygwth gyda'i ffon fel y gwnaeth yr Eifftiaid.
25
Yn fuan iawn bydd fy nig wedi ei dawelu, a bydda i'n troi i'w dinistrio nhw.”
26
Bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn chwifio ei chwip uwch eu pennau, fel y gwnaeth pan drawodd Midian wrth Graig Oreb. Bydd yn codi ei wialen fel y gwnaeth dros yr Eifftiaid wrth y môr.
27
Bryd hynny, bydd y pwysau'n cael ei symud oddi ar dy ysgwyddau di, a bydd iau Assyria'n cael ei dorri oddi ar dy war am ei fod mor hunanfodlon.
28
Daeth y gelyn ac ymosod ar Aiath, ac yna aeth ymlaen i Migron cyn paratoi ei gêr yn Michmas.
29
Yna croesi'r bwlch ac aros yn Geba dros nos. Roedd Rama wedi dychryn, a pobl Gibea, tref Saul, yn ffoi.
30
“Rho sgrech, Bath-galîm! Gwrando'n astud, Laisha! Ateb hi, Anathoth!”
31
Mae Madmena yn ffoi, a phobl Gebim yn cuddio.
32
Heddiw mae'r gelyn yn Nob yn ysgwyd ei ddwrn bygythiol yn erbyn mynydd Seion a bryn Jerwsalem!
33
Edrych! Mae'r Meistr—yr ARGLWYDD holl-bwerus— yn mynd i hollti canghennau'r coed gyda nerth brawychus. Bydd yn torri'r coed talaf i lawr, a bydd y rhai uchel yn syrthio.
34
Bydd yn torri trwy ddrysni'r goedwig gyda bwyell, a bydd coed mawr Libanus yn cwympo.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66