bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 56
Isaiah 56
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 55
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 57 →
1
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gwnewch beth sy'n iawn! Gwnewch beth sy'n deg! Dw i ar fin achub, a dangos fy nghyfiawnder.
2
Y fath fendith fydd i'r bobl sy'n gwneud hyn, a'r rhai hynny sy'n dal gafael yn y peth. Y rhai sy'n cadw'r saboth, heb ei wneud yn aflan, ac yn stopio ei hunain rhag gwneud drwg.
3
Ddylai'r estron sydd wedi ymrwymo i'r ARGLWYDD ddim dweud: ‘Mae'r ARGLWYDD yn fy nghadw i ar wahân i'w bobl’. A ddylai'r eunuch ddim dweud, ‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’
4
Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: I'r eunuchiaid hynny sy'n cadw fy Sabothau — sy'n dewis gwneud beth dw i eisiau ac yn glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i —
5
dw i'n mynd i godi cofeb yn fy nhŷ, y tu mewn i'w waliau; rhywbeth gwell na meibion a merched! a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth.
6
Ac i'r bobl estron sydd wedi ymrwymo i wasanaethu'r ARGLWYDD, ei garu, a dod yn weision iddo — pawb sy'n cadw'r saboth heb ei wneud yn aflan, ac sy'n glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i —
7
Bydda i'n eu harwain at fy mynydd cysegredig i ddathlu'n llawen yn fy nhŷ gweddi. Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i'w llosgi ac aberthau i'w cyflwyno ar fy allor i; achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.”
8
Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, yr un sy'n casglu ffoaduriaid Israel at ei gilydd: “Dw i'n mynd i gasglu mwy eto at y rhai sydd eisoes wedi eu casglu.”
9
“Dewch i fwyta, chi anifeiliaid gwylltion! Dewch, holl anifeiliaid y goedwig!
10
Mae'r gwylwyr i gyd yn ddall, ac yn deall dim. Maen nhw fel cŵn mud sy'n methu cyfarth — yn breuddwydio, yn gorweddian, ac wrth eu bodd yn pendwmpian.
11
Ond maen nhw hefyd yn gŵn barus sydd byth yn gwybod pryd maen nhw wedi cael digon; bugeiliaid sy'n deall dim! Mae pob un wedi mynd ei ffordd ei hun, ac maen nhw i gyd yn ceisio elwa rywsut.
12
‘Dewch, dw i am nôl gwin! Gadewch i ni feddwi ar gwrw! Cawn wneud yr un fath yfory — bydd hyd yn oed yn well!’
← Chapter 55
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 57 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66