bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 9
Isaiah 9
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 10 →
1
Ond fydd y tywyllwch ddim yn para i'r tir aeth drwy'r fath argyfwng! Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulon a thir Nafftali eu cywilyddio; ond yn y dyfodol bydd Duw yn dod ag anrhydedd i Galilea'r Cenhedloedd, ar Ffordd y Môr, a'r ardal yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.
2
Mae'r bobl oedd yn byw yn y tywyllwch wedi gweld golau llachar. Mae golau wedi gwawrio ar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth.
3
Ti wedi lluosogi'r genedl, a'i gwneud yn hapus iawn; Maen nhw'n dathlu o dy flaen di fel ffermwyr adeg y cynhaeaf, neu filwyr yn cael sbri wrth rannu'r ysbail.
4
Achos rwyt ti wedi torri'r iau oedd yn faich arnyn nhw, a'r ffon oedd yn curo eu cefnau nhw — sef gwialen y meistr gwaith — fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian.
5
Bydd yr esgidiau fu'n sathru maes y gâd, a'r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed, yn cael eu taflu i'r fflamau i'w llosgi.
6
Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni; mab wedi cael ei roi i ni. Bydd e'n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu. A bydd yn cael ei alw yn Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol, Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch.
7
Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu, a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw i orsedd Dafydd a'i deyrnas. Bydd yn ei sefydlu a'i chryfhau a teyrnasu'n gyfiawn ac yn deg o hyn allan, ac am byth. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn benderfynol o wneud hyn i gyd.
8
Dyma'r neges anfonodd y Meistr yn erbyn Jacob, a dyna ddigwyddodd i Israel.
9
Roedd y bobl i gyd yn cydnabod hynny — Effraim a'r rhai sy'n byw yn Samaria. Er yn dal yn falch ac ystyfnig, yn honni:
10
“Mae'r blociau pridd wedi syrthio, ond byddwn yn ailadeiladu hefo cerrig nadd! Mae'r coed sycamor wedi eu torri i lawr, ond gadewch i ni dyfu cedrwydd yn eu lle!”
11
Gadawodd yr ARGLWYDD i elynion Resin ei gorchfygu hi. Roedd e wedi arfogi ei gelynion —
12
daeth Syria o'r dwyrain a Philistia o'r gorllewin — Roedd eu cegau'n llydan agored, a dyma nhw'n llyncu tir Israel. Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
13
Dydy'r bobl ddim wedi troi'n ôl at yr un wnaeth eu taro nhw; Dŷn nhw ddim wedi ceisio'r ARGLWYDD holl-bwerus.
14
Felly bydd yr ARGLWYDD yn torri pen a chynffon Israel; y gangen balmwydd a'r frwynen ar yr un diwrnod.
15
Yr arweinwyr a'r bobl bwysig — nhw ydy'r pen; y proffwydi sy'n dysgu celwydd — nhw ydy'r gynffon.
16
Mae'r arweinwyr wedi camarwain, a'r rhai sy'n eu dilyn wedi llyncu'r cwbl.
17
Dyna pam nad ydy'r ARGLWYDD yn hapus gyda'r bobl ifanc; Dydy e ddim yn gallu cysuro'r plant amddifad a'r gweddwon. Maen nhw i gyd yn annuwiol ac yn ddrwg; maen nhw i gyd yn dweud pethau dwl. Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
18
Mae drygioni yn llosgi fel tân, ac yn dinistrio'r drain a'r mieri; mae'n llosgi drwy ddrysni'r coed nes bod y mwg yn codi yn golofnau.
19
Pan mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi digio, mae'r wlad yn llosgi. Mae'r bobl fel tanwydd, a does neb yn poeni am neb arall.
20
Maen nhw'n torri cig fan yma, ond yn dal i newynu; maen nhw'n bwyta fan acw ond ddim yn cael digon. Maen nhw'n brathu ac anafu ei gilydd —
21
Manasse'n ymosod ar Effraim ac Effraim ar Manasse, a'r ddau yn ymladd yn erbyn Jwda! Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66