bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 22
Isaiah 22
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 23 →
1
Neges am ‛Ddyffryn y Weledigaeth‛: Beth sy'n digwydd yma? Pam mae pawb wedi mynd i ben y toeau?
2
Roeddet ti mor llawn bwrlwm — yn ddinas mor swnllyd! yn dre llawn miri! Nid cleddyf wnaeth ladd dy feirwon, na'r frwydr chwaith.
3
Rhedodd dy arweinwyr i ffwrdd, ond eu dal heb fwasaethwyr. Cafodd pawb oedd wedi eu gadael ar ôl eu carcharu gyda'r rhai wnaeth ddianc yn bell.
4
Dyna pam dw i'n dweud, “Gadewch lonydd i mi! gadewch i mi wylo'n chwerw. Peidiwch boddran ceisio fy nghysuro am fod fy mhobl druan wedi eu dinistrio.”
5
Ydy, mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, wedi trefnu diwrnod o banig, sathru, a dryswch — yn Nyffryn y Weledigaeth mae sŵn waliau'n syrthio, a pobl yn gweiddi ar y mynydd.
6
Mae Elam wedi codi'r gawell saethau, gyda'i marchogion a'i cherbydau, ac mae milwyr Cir wedi paratoi eu tariannau.
7
Mae dy ddyffrynnoedd, dy dir gorau, yn llawn o gerbydau, a'r marchogion yn rhengoedd tu allan i'r giatiau.
8
Mae'r sgrîn oedd yn amddiffyn Jwda wedi ei symud. Felly, bryd hynny, dyma chi'n mynd i Blas y Goedwig, i nôl yr arfau oedd wedi eu storio.
9
Roeddech chi'n gweld fod llawer iawn o fylchau yn waliau Dinas Dafydd. Felly dyma gasglu dŵr o'r Llyn Isaf,
10
cyfri'r tai yn Jerwsalem a chwalu rhai er mwyn gwneud waliau'r ddinas yn ddiogel.
11
Yna adeiladu cronfa rhwng y ddwy wal i ddal dŵr yr hen lyn. Ond wnaethoch chi ddim cymryd sylw o'r Un wnaeth y cwbl, na meddwl am yr Un oedd wedi cynllunio hyn ers talwm.
12
Bryd hynny dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn galw ar bobl i wylo a galaru, i siafio'r pen a gwisgo sachliain.
13
Ond yn lle hynny roedd hwyl a miri, lladd gwartheg a defaid, bwyta cig ac yfed gwin. “Gadewch i ni gael parti ac yfed! Falle byddwn ni'n marw fory!”
14
Roeddwn i wedi clywed yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud: “Fydd dim byd yn gwneud iawn am y pechod yma nes i chi farw,” Ie, dyna ddwedodd fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.
15
Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud: “Dos i ofyn i'r swyddog, y Shefna yna sy'n gyfrifol am y palas:
16
‘Beth sy'n digwydd yma? Pwy roddodd ganiatâd i ti dorri bedd i ti dy hun yma? Torri bedd i ti dy hun mewn lle pwysig; Naddu lle i ti dy hun gael gorffwys yn y graig!
17
Mae'r ARGLWYDD yn mynd i dy daflu di i ffwrdd — dy hyrddio di'n bell, ti bwysigyn! Bydd yn dy lapio di'n dynn,
18
yn dy rolio i fyny fel pelen ac yn dy daflu i ffwrdd i wlad eang iawn! A dyna ble byddi di'n marw. Yr unig gerbydau crand i gario dy gorff fydd y cywilydd ddaeth ar dŷ dy feistr!
19
Dw i'n mynd i dy ddiswyddo di! Byddi di'n cael dy fwrw i lawr o dy safle!
20
Bryd hynny bydda i'n galw ar fy ngwas Eliacim fab Chilceia,
21
ac yn ei arwisgo fe gyda dy grys di, a'r sash sydd am dy ganol. Bydda i'n rhoi dy awdurdod di iddo fe, a bydd e'n gofalu am bawb sy'n byw yn Jerwsalem a pobl Jwda i gyd.
22
Bydda i'n rhoi allwedd tŷ Dafydd iddo. Fydd neb yn gallu cau yr hyn mae'n ei agor, nac agor yr hyn mae e'n ei gau.
23
Bydda i'n ei osod yn gadarn yn ei le — fel hoelen wedi ei tharo i wal. Bydd e'n cael y sedd anrhydedd yn nhŷ ei dad.
24
Bydd y cyfrifoldeb am deulu ei dad arno fe: pawb, o'r egin a'r dail; bydd y llestri bach i gyd, y powlenni a'r gwahanol jariau yn hongian arno.’”
25
“Bryd hynny,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“bydd yr hoelen oedd mor sownd yn dod yn rhydd. Bydd yn cael ei thorri a bydd yn syrthio, a bydd y llwyth oedd yn hongian arni yn cael ei dynnu i lawr.” Mae'r ARGLWYDD wedi dweud!
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66